Cartref digidol diwylliant Cymru.

Tremolo

Drama bodlediad yw Tremolo wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg. Wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd Lisa Parry o Gaerdydd, sydd hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Theatr Illumine. Mae’r podlediad pwerus hwn yn rhoi mewnwelediad clir i’r cwestiwn a ddylid cael profion geneteg ai peidio, a sut mae un teulu’n ymdopi â’r diagnosis allai fod yn cuddio yn eu genynnau.

Meddai Lisa Parry; “Mae teuluoedd ledled ein cymunedau’n gorfod gwneud penderfyniadau tebyg i’r rhai mae ‘Harri’, sef prif gymeriad y ddrama (sydd yn ei arddegau), a’i deulu, yn gorfod eu gwneud ond anaml iawn rydyn ni’n clywed amdanyn nhw. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Tremolo yn helpu teuluoedd sy’n ystyried opsiynau profion geneteg, ac yn gwneud y broses o ddeall y dewisiadau hyn yn fwy hygyrch i’r cyhoedd yn gyffredinol.”

Roedd y fformat podlediad yn apelio at Lisa oherwydd ei fod yn golygu y gallai cynulleidfaoedd ifanc gael profiad o Tremolo mewn ffordd agos atoch, uniongyrchol. Gydag un actor yn cyflwyno’r stori, mae hi’n gobeithio y bydd yn brofiad pwerus i’r gwrandawyr:

“Roedd agosatrwydd fformat y podlediad yn apelio’n fawr ataf i – mae’r ddrama’n glanio yn ymennydd y gwrandäwr fel y gallant roi eu delweddau eu hunain i’r yr hyn sy’n digwydd. Mae’r gerddoriaeth yn gwbl ganolog i’r ddrama, ac mae’r ffaith bod y podlediad yn cael ei drosglwyddo drwy wasanaethau ffrydio poblogaidd hefyd yn apelio’n fawr ataf. Ro’n i’n awyddus i freuder Harri ddod drwyddo, a gyda’r fformat hwn mae’n siarad un-wrth-un gyda’r gwrandawyr, fel petai.”

Cymraeg

RHANNWCH