Pennod 10 – Llais Heledd
Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy.
Dyma hefyd lais benywaidd prin sy’n wrthbwynt i natur wrywaidd lethol y traddodiad barddol canoloesol. Nodwn wrth fynd heibio fod y farddoniaeth bwerus hon wedi dylanwadu’n drwm ar lenyddiaeth a cherddoriaeth Gymraeg yr 20fed ganrif hefyd. Ac mae trafodaeth am arwyddocâd treiglad sy’n pwysleisio – ormod, ym marn Richard Wyn Jones, efallai! – fod y math yma o fanylyn gramadegol yn gallu bod yn allweddol bwysig i ystyr a naws testun llenyddol.
10 Cwestiwn efo… Sioned Erin

Prynwch eich copi o ‘Rhyngom’ gan Sioned Erin Hughes yma
10 Cwestiwn efo… Gwenllian Ellis

Prynwch ‘Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens’ gan Gwenllian Ellis yma
Cip ar Gynnwys: Sêr y Nos yn Gwenu – Casia Wiliam

Prynwch eich copi o ‘Sêr y Nos yn Gwenu’ yma!
Dod i adnabod awduron Gwobrau Tir na n-Og 2023: Rhestr gynradd

Ar restr fer gynradd Gwobrau Tir na n-Og eleni mae, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor gan Luned Aaron, darluniau gan Huw Aaron, Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan gan Manon Steffan Ros, darluniau gan Valériane Leblond a Dros y Môr a’r Mynyddoedd – Straeon Merched Dewr y Celtiaid – gan awduron amrywiol, lluniau gan Elin Manon.
Dyma gyfle i ddod i adnabod yr awduron.
Cywilydd Mawr America – Robert Everett a’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth

Darlith gan yr Athro Jerry Hunter.
Capel Lôn Swan, Dinbych
Nos Fercher – 21/06/23, 7pm
Cadwch eich lle trwy gysylltu â Llyfrgell Dinbych ar 01745816313 neu llyfrgell.dinbych@sirddinbych.gov.uk
Llais Dyslecsia

Dyslecsia yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth Ymunwch â grwp dyslecsia i rannu gwybodaeth a thrafod beth sydd yn digwydd yng Nghymru gyda dyslecsia. Llais Dyslecsia Yn Chwefror 2023 daeth criw o blant ysbrydoledig gyda dyslecsia at eu gilydd i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol gyda’r cynhyrchydd Shari Llewelyn, Casi Wyn Bardd plant Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Dyslecsia […]
Pennod 9 – Wyt ti’n cofio Macsen?
Yn y bennod hon trafodwn y chwedl sy’n sylfaen i bennill cyntaf cân boblogaidd Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’ – Breuddwyd Macsen Wledig. Yn debyg i’r gân fodern honno, mae’r stori ganoloesol hon yn cynnig golwg ar hen hanes mewn modd sy’n hynod ystyrlon yn nhermau hunaniaeth Gymreig. Ar un wedd, stori serch sydd yma, a’r briodas rhwng ymherodr Rhufain, Macsen, a thywysoges Gymreig, Elen, yn ieuo’r grymoedd gwleidyddol y maen nhw’n eu cynrychioli.
Yn hytrach na’u gweld fel gormes estron, mae’r chwedl hon yn ymfalchïo yn y cysylltiad â’r Rhufeiniaid, gan ddarlunio’r briodas fel cyfrwng i ddiwyllio’r deyrnas Gymreig/Brydeinig. Ceir hefyd eglurhad syfrdanol o dreisgar am y cysylltiad ieithyddol rhwng yr iaith Gymraeg a’r Llydaweg.
Caru Darllen: Dyfan Lewis ac Elen Ifan
Dyfan Lewis ac Elen Ifan sy’n ymuno â Mari Sion i drafod llyfrau.
Ewch draw i grwydro labrinth creadigol Creiriau yma, a darllen cerddi Ystlum yma.
Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam

Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam yw Llyfr y Mis i Blant a Phobl Ifanc, mis Ebrill.
Dyma stori ddiflewyn-ar-dafod am gariad, am golli ffordd, am gymuned ac am ail gyfle, addas i ddarllenwyr 16 oed a hyn.
Darllenwch y bennod gyntaf yma.
Pennod 8 – Dau Frawd a Thair Gormes
Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron ymosod arni. Mae Lludd yn frenin ar Brydain ac mae’i frawd Llefelys yn priodi merch brenin Ffrainc. Ond pan ddaw tair gormes estron i fygwth teyrnasiad Lludd, mae’n rhaid iddo fanteisio ar ddoethineb ei frawd. Cewch glywed hanes y Ddraig Goch sydd ar faner Cymru a chlywed Richard Wyn Jones yn mynd i hwyl wrth ddychmygu’r Cymro Ffrengig Llefelys. Ac, wrth gwrs, cewch ddysgu beth yw ystyr ‘cyfranc’.
Salem gan Haf Llewelyn

Salem gan Haf Llewelyn gan Haf Llywelyn yw Llyfr y Mis, mis Ebrill.
Nofel yn pendilio rhwng Ardudwy 1908, pan oedd yr arlunydd Vosper yn peintio ei ddarlun enwog, ac Ardudwy 2016 yw Salem. Nofel am ganlyniadau rhagfarn a chonfensiwn negyddol, a thaith y cymeriadau ynddi i godi uwchlaw`r confensiynau rheiny.
Pennod 7 – Trafferthion Teuluol Math
Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’.
Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-destun y realiti hyll hwnnw; mae Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd, ac mae aelodau o’i lys ei hun, ei neiant Gwydion a Giflaethwy, yn creu trafferth sylweddol iddo.
Dyma stori dywyll sy’n archwilio tueddiadau gwaethaf y ddynoliaeth, gan gynnwys trais ar sail rhywedd. Yn y gainc hon hefyd y mae Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn ymddangos, cymeriadau sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau lawer, er bod ailysgrifennu’r chwedl dreisgar hon a’i throi’n stori i blant yn beth hynod heriol!
Cynrychioli Cymru / Representing Wales 2023

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad trydedd rownd ein rhaglen ddatblygu ar gyfer awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol, y tro hwn gyda ffocws arbennig ar ysgrifennu i blant a phobl ifanc.
Mae’r rhaglen 12 mis, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i 14 o awduron o gefndiroedd a dangynrychiolir ar hyn o bryd yn niwylliant llenyddol Cymru ac sy’n ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc. Dewiswyd yr 14 gan Banel asesu annibynnol, yn dilyn galwad agored yn ystod hydref 2022. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio mewn ymgynghoriad â chymunedau ac awduron o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru ac mae’n cymryd i ystyriaeth llwyddiannau a phwyntiau dysgu’r o’r ddwy rownd flaenorol.
Yn ystod y flwyddyn, bydd y garfan yn clywed gan awduron arobryn fel Patrice Lawrence, Caryl Lewis, Lee Newbery, Alex Wharton a Sue Cheung. Mae arbenigwyr ar lenyddiaeth plant a phobl ifanc hefyd wedi’u gwahodd i siarad â’r awduron, megis yr Athro Charlotte Williams, Dr. Siwan Rosser, Dr. Ann Alston, Darren Chetty a chynrychiolwyr o Book Trust Cymru, yn ogystal â chyhoeddwyr o Gymru a’r wasg gynhwysol sydd wedi ennill sawl gwobr, Knights Of. Byddant hefyd yn derbyn hyfforddiant ar sut i fynd ati i greu brand awdur, creu gyrfa fel artist llawrydd, a chynnal gweithdai creadigol cymunedol.
Mwy o wybodaeth am y cynllun yma a dysgwch fwy am y garfan isod
JACK T CHARLES : Epic Soul

Jack Tyson-Charles : Ffync a soul EPIC MOI!
Mae JACK yn dynamic musical force!!!
Mab i ‘Mr Funk ‘n Soul’ himself Craig Charles a smashodd Cellb yn 2011
+ Nowhere Ensemble & DOSS
Tocyn £7 oedolyn / £5 ir ifanc 12-16 oed Gyda oedolyn!
Tocynnau ar gael yma
Agor y Meddwl Cymreig: Simon Brooks a Huw L. Williams gyda Elin Haf Gruffydd Jones
Wedi’i ffilmio o ŵyl Amdani, Fachynlleth! 2023 gan Culture Colony
Pennod 6 – Manawydan a Seiliau Cymdeithas
Trafodwn Drydedd Gainc y Mabinogi yn y bennod hon, chwedl ‘Manawydan fab Llŷr’, stori sy’n wrthbwynt i’r ceinciau eraill ac sydd â gwrthgyferbyniadau trawiadol mewnol. Yn hytrach na brwydrau mawr epig a champau arwrol, yr hyn a gawn yn y stori hon yw myfyrdodau ynghylch seiliau cymdeithas a hanfod gwareiddiad.
Mae’r testun hwn yn hollbwysig hefyd er mwyn deall mai cyfanwaith yw Pedair Cainc y Mabinogi. Yn dilyn y rhyfel apocalyptaidd a ddaw ar ddiwedd yr Ail Gainc, rydym ni’n dilyn dau o’r goroeswyr, Pryderi a Manawydan. Pan ddaw’r hud ar Ddyfed, rhaid i’r ddau gyfaill a’u gwragedd, Cigfa a Rhiannon, ddysgu byw o’r newydd, yn gyntaf trwy hela, ac wedyn trwy arddel crefftau, ac yn y diwedd trwy amaethu. Yn groes i Pryderi sydd wastad am dynnu’i gleddyf a datrys problemau yn yr hen ffordd dreisgar, mae Manawydan yn ennill yn y diwedd trwy ymbwyllo, osgoi tywallt gwaed a dilyn y gyfraith. Nid cryfder allanol sy’n gwneud Manawydan yn arwr, ond ei ddoethineb a’i gryfder mewnol.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Pennod 5 – Chwedl Branwen
Awgrymwn yn y bennod hon ei bod hi’n bosib darllen yr Ail Gainc fel beirniadaeth gymdeithasol radicalaidd. Ar ddechrau Chwedl Branwen ferch Llŷr daw Matholwch, Brenin Iwerddon, i ‘erchi’ Branwen, gan feddwl y bydd y briodas frenhinol yn sylfaen i gynghrair gwleidyddol a all wneud y ddwy ynys yn ‘gadarnach’. Ond yn hytrach na heddwch a chynnydd, mae uniad Branwen a Matholwch yn esgor ar ryfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i’w hachub. Tybed felly a oedd awdur y testun hwn yn ceisio awgrymu na ddylid defnyddio benywod fel nwyddau i’w ffeirio a bod perygl mewn priodas ddynastig? Agwedd hynod arall ar y gwaith llenyddol rhyfeddol hwn yw’r modd y gwelwn ddau fyd ar yr un pryd, gyda brawd Branwen, Bendigeidfran, ‘yn frenin coronog ar yr ynys hon’ – a ddisgrifir fel ‘Ynys y Cedyrn’ – ac hefyd yn arglwydd Cymreig a’i lys yn Harlech.
Mae’r naill yn mynd â ni’n ôl i oes aur chwedlonol cyn i genhedloedd eraill ddod i gipio’r Ynys oddi ar hynafiaid y Cymry, ac mae’r llall yn gadael i ni ddarllen y stori mewn cyd-destun Cymreig mwy uniongyrchol. Awgrymwn hefyd fod diwedd y gainc hon yn ymdriniaeth lenyddol â PTSD milwyr sydd wedi dioddef mewn rhyfel.
Modron Magazine Interview with Robert Minhinnick
Modron Magazine interview with two times Forward Prize winner & three times Wales Book of the Year winner Robert Minhinnick, speaking to Zoë Brigley, Kristian Evans, and Taz Rahman.
Funded by the Books Council Wales, Modron is a literary magazine in response to the ecological crisis the world faces today. Please visit the website to read the rest of the magazine and find out more about poetry and climate activism.
Gwobrau Tir na n-Og 2023

Mae’n bleser rhannu cyfrolau rhestr fer Tir na n-Og 2023.
Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf o’u bath ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru.
O lyfrau stori-a-llun, odlau llawn hiwmor i blant bach, i nofel graffeg, straeon byrion a nofelau – mae rhywbeth at ddant pawb eleni.
Pennod 4 – Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed
Yn y bennod hon trafodwn gainc gyntaf ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed.
Er bod Pwyll ‘yn arglwydd ar saith cantref Dyfed’, fel y dywed brawddeg gyntaf y chwedl , nid oes ganddo lawer o ddoethineb. Yn wir, mae’n bosibl ei gweld hi fel stori am sut mae Pwyll yn dysgu bod yn bwyllog. Mae’n ymddwyn mewn modd byrbwyll nifer o weithiau ac mae’n rhaid i gymeriadau eraill – Arawn, brenin Annwfn a Rhiannon, gwraig Pwyll – ei helpu. Mae Rhiannon ymysg cymeriadau mwyaf cofiadwy’r traddodiad llenyddol Cymraeg, yn fenyw ddoeth sy’n siarad yn ffraeth ac yn rhoi’i gŵr amhwyllog yn ei le pan fo angen. O gofio cyd-destun hanesyddol uniongyrchol y gwaith llenyddol hwn, sef Cymru ‘Oes y Tywysogion’, mae’n bosibl darllen y chwedl hon fel ‘drych i dywysogion’, fel testun sy’n cynnig gwersi i ddarpar arweinwyr.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Christine Pritchard (1942–2023)

Roedd Christine Pritchard yn un o’r don o gymeriadau cryf ac unigryw a osododd sail i broffesiynoldeb ym myd y theatr a’r teledu yn ystod y 1960au a’r 1970au. Chwaraeodd ystod eang o rannau, o arwresau’r theatr glasurol Ewropeaidd i sebon, ac roedd ei thechneg radio yn ddi-fefl. Cyflwynwyd hi i waith radio pan gafodd […]
Stori’r Sianel – gormod o bwdin?

Yr ydym ni bellach yn camu i mewn i’r pumed degawd ym mywyd S4C. I rai ohonom, mae’r atgof am ymgasglu ynghyd yn ein lolfeydd i wylio’r bennod gyntaf honno o Superted yn teimlo fel ddoe; i eraill, mae S4C wedi bodoli ers cyn cof ac felly mae’n un o bileri bywyd. Dim ond can […]
Y Traeth o Dan y Stryd gan Hywel Griffiths
‘O dan gerrig y pafin, y traeth’ oedd un o sloganau mwyaf poblogaidd protestiadau 1968 ym Mharis. Galwad obeithiol am ddychmygu bywyd a chymdeithas well, am ganfod cyffro a rhyddid rhag strwythurau caeth y byd.
Ble, a sut y gall bardd ar drothwy deugain oed ganfod y traeth heddiw, yng nghanol prysurdeb cyfrifoldebau bywyd a stormydd gwleidyddol, a phan fo newid hinsawdd yn bygwth traethau a strydoedd yng Nghymru a thu hwnt?
Yn y gyfrol, Y Traeth o Dan y Stryd, mae Hywel Griffiths yn chwilio yn y dirwedd, yr amgylchedd, yn y cof ac yng nghariad teulu a ffrindiau, ac yn dod o hyd iddo, weithiau.
Dyma flas o’r gyfrol.
Pennod 3 – Y Chwedlau Brodorol
Y Mabinogion sydd dan sylw yn y bennod hon, ond rhaid egluro’n gyntaf nad dyna’r gair gorau i ddisgrifio’r straeon Cymraeg canoloesol hyn! Mae’n debyg mai William Owen Pughe (1759-1835) a fathodd y label, ond oherwydd cyfieithiadau Saesneg yr Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895) y daeth yn arferol i bobl led-led y byd gyfeirio at y chwedlau hyn fel The Mabinogion. Mae felly’n arfer Saesneg ddiweddar sydd wedi dylanwadu ar sut mae Cymry Cymraeg yn trafod y corff pwysig hwn o lenyddiaeth eu iaith!
Mae 11 o’r chwedlau hyn, a dim ond mewn pedair ohonynt y mae’r gair mabinogi yn ymddangos (a dim ond unwaith fel mabinogion, a’r gair hwnnw’n gamgymeriad, mae’n debyg). Mae’n well gennym eu disgrifio fel ‘Y Chwedlau Brodorol’; er bod llawer iawn o ryddiaith Gymraeg ganoloesol sydd wedi goroesi, mae’r rhan fwyaf ohoni wedi’i chyfieithu o ieithoedd eraill. Yr hyn sy’n arbennig am y grŵp hwn o straeon canoloesol yw’r ffaith eu bod wedi’u hysgrifennu’n wreiddiol yn yr iaith Gymraeg. Dyma felly ffrwyth dychmyg storïwyr Cymraeg yr Oesau Canol. Ond a yw’n iawn ein bod ni’n eu gosod ar wahân yn y modd hwn? Cedwir y chwedlau hyn mewn dwy lawysgrif – Llyfr Gwyn Rhyddech (c.1350) a Llyfr Coch Hergest (c.1400), ac mae’r casgliadau pwysig hyn yn cynnwys mathau eraill o lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol hefyd.
Chwedlau’r Copa Coch: Lladron y Deyrnas Goll gan Elidir Jones a Huw Aaron

Chwedlau’r Copa Coch: Lladron y Deyrnas Goll gan Elidir Jones a Huw Aaron, ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Louise Bretland-Treharne

Fy enw i yw Louise Bretland-Treharne.
Cefais fy magu mewn pentref bach o’r enw Cribyn ger Llambed yng Ngheredigion. Dwi bellach yn byw yn Nhre-Ioan ar gyrion tref Caerfyrddin. Awdur, cyfarwydd a bardd ydw i yn byw cyda chyflwr Ataxia a chyflyrrau meddygol eraill sy’n ymwneud â newidiadau gwybyddol. Rwy’n gwella o gancr y groth. Mae fy ysgrifennu yn seiliedig ar nifer o themâu megis creu ymwybyddiaeth ynglŷn ag anableddau.
Rwy’n ysgrifennu ar themâu’n ymwneud â mamolaeth, anifeiliaid, galar a cholled, tirlun, hiwmor, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gen i gofiant sydd ar hyn o bryd yn nwylo cyhoeddwr. Mae fy straeon byrion a cherddi wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau, papurau newydd, ac ar blatfformau digidol ar y sîn cenedlaethol a rhyngwladol yn Gymraeg a Saesneg.
Pennod 2 – Y Llawysgrif Gymraeg gyntaf (sydd wedi goroesi!)
Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, hanes ysgrifennu Cymraeg a natur llawysgrifau:
Dechreua’r bennod hon drwy ystyried rhai o’r enghreifftiau cynharaf o ysgrifen Gymraeg sydd wedi goroesi, a nodi bod yr iaith wastad wedi bod yn gyfrwng i drafod dysg o wahanol fathau, gan gynnwys gwyddoniaeth. Trafodwn dechnoleg ysgrifennu’r cyfnod canoloesol, gan bwysleisio bod y llawysgrifau’n bethau prin, bregus a gwerthfawr. Wedyn, rydym ni’n oedi cryn dipyn ynghylch Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif Gymraeg – h.y., yn gyfan gwbl Gymraeg o ran iaith – sydd wedi goroesi. Pwy oedd y mynach a aeth ati i gynllunio a chreu casgliad o farddoniaeth Gymraeg, llawer ohoni’n gysylltiedig â’r bardd Myrddin chwedlonnol a roes ei enw i’r lle, yn ôl y stori? A yw’n bosibl dweud bod Myrddin yn ymryson â’r bardd chwedlonol arall hwnnw, Taliesin, am oruchafiaeth yn y traddodiad llenyddol? A beth am y llawysgrif bwysig honno â gyslltir ag ef, sef Llyfr Taliesin? Pam fod cymaint o’r farddoniaeth Gymraeg hon yn broffwydol, a beth yw dehongliad ‘pobl Pen’mynydd’ yn sir Fôn o’r Mab Darogan?
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
The Barn Owl – Hilary Evans

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Barn Owl – Gaynor Rawson

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Brief Encounter – Norma Procter

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Barn Owl – after R.S.Thomas

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Issue Two: Installment One

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg
Issue Two: Installment Two

Released Sunday 2nd April
TYTO ALBA – Gareth Culshaw

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Owl – Mike Catling

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Pennod 1 – Yn y dechreuad yr oedd… Y Gododdin (efallai!)
International Women’s Day
Jeff William Acosta: How I Wrote ‘of thee I sing’

They came in like flashes, in fragments—a tapestry of thoughts. Writing poetry in a language that is not native to me, in a sense makes me think of ways or approach the English language in a different angle.
Jeff William Acosta is a poet from Ilocos Sur, Philippines. He is a 2021 Jack Grapes Poetry semifinalist, 2022 Foley Poetry Contest finalist, Boston Review Annual Poetry Contest semifinalist. His poems have been published or are forthcoming in America Magazine, Kritika Kultura, Tomás Journal, Strange Horizon, NOVICE, and the Margins.
You can find him on Instagram @jeeeepney or on Facebook under Jeff William Acosta
Interview by Zoë Brigley
North Wales Wildlife Trust – Wild Words

Mae The Wildlife Trusts yn fudiad llawr gwlad o bobl yn cyd-weithio ar gyfer bywyd gwyllt. Mae The Wildlife Trust yn gweithio dros y Ddeyrnas Unedig i wella lleoliadau i fywyd gwyllt a dylwanwadu ar lywodraethau i sicrhau dyfodol bywyd gwyllt. Mae Wild Words yn nodwedd o Wild North Wales, sydd yn gofyn i ddarllenwyr […]
8 rheswm pam mae darllen yn gwneud lles i ni

Lleihau lefel straen Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Sussexi, mae darllen yn gallu lleihau lefel straen hyd at 68%. Dangosodd eu gwaith ymchwil mai darllen oedd y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o leihau lefel straen, a’i fod yn fwy effeithiol na gwrando ar gerddoriaeth, cael paned, neu fynd am dro – a hynny am […]
Paul Deaton: How I Wrote ‘Harvest’

Harvest You weed out the tubs, toss the rich peat. Dig drills. Wait for the seeds to un-sleep. Radishes, spring onions, fennel from a friend. Answer now the urge to self-sooth, soul-mend. In one pot pinch them out to give ground, there they burgeon, little up-starts, proud. The private turn in you at last to […]
Trêlyr Yr Hen Iaith
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Galwad Agored: Panel Pobl Ifanc / Open Call: Young People’s Panel
Ydych chi rhwng 17 ac 20 oed?
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am unigolion sy’n mwynhau darllen, yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn mwynhau darllen.
Rydym yn cynnig cyfle gwych i unigolion brwdfrydig sy’n barod i leisio barn i ymuno â phanel pobl ifanc. Byddwn yn trafod profiadau darllen, sut i hyrwyddo darllen, yn ogystal ag adnabod meysydd a themâu posib sydd angen eu targedu o fewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.
Bydd y panel yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn (unwaith wyneb yn wyneb mewn lleoliad i’w gadarnhau, ac yna dau gyfarfod rhithiol). Cynigir ffi o £100 am fynychu pob cyfarfod.
Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y FFURFLEN HON a’i dychwelyd i plant@llyfrau.cymru erbyn 6 Mawrth 2023.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â plant@llyfrau.cymru
Ai ti fydd Bardd Plant Cymru 2023-25? | Could you be Children’s Laureate Wales 2023-25?
Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am y Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales nesaf (2023-2025)
Suman Gujral: How I Wrote ‘Lion’ | Video Interview

At Poetry Wales, we are always open to conversation, and we were very glad that about eighteen months ago, the artist and writer Suman Gujral wrote to us to mention that it was almost 75 years since the Partition of India and Pakistan and to encourage us to mark it in some way. After some discussion, we felt that this was an important event and though we don’t have themed issues, we did send a special call-out to writers with a connection to South Asia. The poems we received were on every subject, including some moving ones about the history and legacy of Partition.
We were also glad to be able to have two poets discussing the subject of Partition too: Sampurna Chattarji (based in India) and Nasia Sarwar-Skuse (based in South Wales), as part of a series that puts Welsh writers in touch with poets from beyond the UK. (For our next issue 58.3, we’ll see Nia Morais (based in Cardiff) in conversation with American Dakota poet Gwen Nell Westerman.)
None of this would have happened without the conversation with Suman Gujral, and it is fitting that her stunning artwork is on the cover of issue 58.2. We are delighted to host Suman’s powerful video poem here along with an interview. We want to thank Suman wholeheartedly and encourage readers to find out more about her art and writing.
If you would like to write to us with a suggestion for the magazine, please do so by emailing editor@poetrywales.co.uk
Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones o Sir Fôn am drysorau’i iaith ei hun
Mae Mwy i’r Wy gan Nicola Davies
Mae Mwy i’r Wy gan Nicola Davies yw Llyfr y Mis i Blant.
Dewch i fwynhau byd natur yng nghwmni Nicola Davies, swolegydd, bardd ac awdur llyfrau plant penigamp. Dilynwch ei hanturiwr ifanc wrth iddi archwilio wyau o bob lliw a llun, lle mae dod o hyd iddyn nhw, a beth yw’r cyfrinachau maen nhw’n eu cuddio. Wedi’r cyfan, mae mwy i’r wy!
Addasiad Cymraeg Anwen Pierce, darluniau gan Abbie Cameron.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.