Cartref digidol diwylliant Cymru.

8 rheswm pam mae darllen yn gwneud lles i ni

Llenyddiaeth

Lleihau lefel straen

Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Sussexi, mae darllen yn gallu lleihau lefel straen hyd at 68%. Dangosodd eu gwaith ymchwil mai darllen oedd y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o leihau lefel straen, a’i fod yn fwy effeithiol na gwrando ar gerddoriaeth, cael paned, neu fynd am dro – a hynny am fod y meddwl yn cael cyfle i ymgolli mewn byd ymhell o heriau bywyd bob dydd, gan gynnig dihangfa.

Ymlacio

Mae darllen llyfr yn gorfodi i rywun lonyddu. Yn ôl yr un astudiaeth gan Brifysgol Sussex, mae darllen am gyn lleied â 6 munud yn arafu curiad y galon, yn lleddfu’r tensiwn yn y cyhyrau, ac yn annog y corff a’r meddwl i ymlacio.

Sgiliau cymdeithasol

Dangosodd astudiaeth gan y cyfnodolyn Science yn 2013 fod pobl sy’n darllen ffuglen yn well am dderbyn ac yn fwy parod i gydnabod bod credoau, dyheadau a syniadau pobl eraill yn gallu bod yn wahanol i’w rhai nhw.

Empathi

Mae darllen ffuglen yn gallu cynyddu sgiliau empathi. Wrth i ni ddarllen straeon sy’n ymdrin â theimladau, meddyliau ac emosiynau cymeriadau, gan weld y byd trwy eu llygaid nhw, mae ein gallu ni i ddeall a chydymdeimlo ag eraill sydd wedi byw drwy’r profiadau yn cynyddu.

Dysgu

Gall darllen ehangu ein gwybodaeth am bob math o feysydd a phynciau, a chynyddu ein dealltwriaeth ohonyn nhw. Mae ffeithiau a syniadau yn cael eu gwyntyllu, eu hystyried ac yna eu cyflwyno i’r darllenydd. Beth bynnag fo’ch diddordeb, mae darllen yn siŵr o helpu!

Cwsg

Yn cael trafferth cysgu? Fe all darllen llyfr yn hytrach nag estyn am ffôn neu dabled cyn cysgu nid yn unig annog cwsg ond hefyd sicrhau cwsg o ansawdd uwch. Mae edrych ar sgrin cyn cysgu yn lleihau lefelau melatonin yn yr ymennydd, sef yr hormon sy’n annog cwsg, tra bod darllen llyfr yn annog yr ymennydd i ymlacio.

Ymarfer i’r ymennydd

Mae darllen yn bywiogi rhwydwaith cymhleth o gylchedau a signalau yn yr ymennydd. Mewn arbrawf arbennig, darllenodd rhai y nofel Pompeii gan Robert Harris, ac wrth i’r tensiwn yn y stori ddatblygu, gwelwyd bod mwy o ardaloedd yn yr ymennydd yn cael eu bywiogi. Felly gall darllen bob dydd ein cynorthwyo i gadw’n galluoedd gwybyddol (cognitive abilities) yn gryf ac yn iach.

Adlonni

Yn bwysicach na dim, efallai, gall llyfr da ein diddanu! Does dim angen wi-fi na theclynnau drud. Yn wir, mae’n weithgaredd y gallwn ni ei wneud am ddim drwy fod yn aelod o’n llyfrgell leol! Mae hefyd yn rhywbeth y gallwn ni ei wneud yn unrhyw le, a hynny unrhyw bryd!

Felly beth fyddwch chi’n ei ddarllen nesaf?

Delwedd wedi ei chomisiynu yn arbennig gan Penglog i ddathlu darllen.

RHANNWCH