Cartref digidol diwylliant Cymru.

Stori’r Sianel – gormod o bwdin?

Llenyddiaeth

Yr ydym ni bellach yn camu i mewn i’r pumed degawd ym mywyd S4C. I rai ohonom, mae’r atgof am ymgasglu ynghyd yn ein lolfeydd i wylio’r bennod gyntaf honno o Superted yn teimlo fel ddoe; i eraill, mae S4C wedi bodoli ers cyn cof ac felly mae’n un o bileri bywyd. Dim ond can mlwydd oed yw’r BBC ac mae’n teimlo fel sefydliad cenedlaethol cadarn, er iddo gael amser digon helbulus yn ddiweddar.

Tasgodd ffilm Y Sŵn ar draws ein sgriniau fel cofnod hwyliog, dathliad, neu ryw fath o nodyn atgoffa i ni o’n hanes diweddar – pethau yr ydyn ni o bosib yn eu cymryd yn ganiataol erbyn hyn, er na ddylen ni wneud hynny, ddim am eiliad. Setlais i wylio a chael fy nghipio’n ôl yn syth i’r cyfnod, gan gofio bod yn dyst i siom fy rhieni yng nghanlyniad y refferendwm yn ’79 heb ddeall goblygiadau hynny. Mae’r ffilm yn cychwyn ar ôl i’r bleidlais dros ddatganoli fethu ac i’r llywodraeth fynd yn ôl ar ei gair ynghylch sianel deledu Gymraeg. Mae’n amser argyfyngus, cyfnod allai newid tynged Cymru. Deallodd Gwynfor Evans ddifrifoldeb y sefyllfa’n llawn ac roedd ei fygythiad i ymprydio hyd at farwolaeth yn slap go iawn ar draws wyneb y sefydliad Seisnig.

O’r dechrau, mae’r ffilm hon yn addo bod yn romp drwy ein hanes diweddar ac mae’r golygfeydd agoriadol yn teimlo’n gynhyrfus. Mae’r arddull chwareus yn cynnwys arddulliau teledu modern, er enghraifft taflu graffeg sassy i fflachio ar draws y sgrîn, cymeriadau’n torri’r bedwaredd wal, defnyddio clipiau ffilm o’r cyfnod, newid o ddu a gwyn i liw. I mi, roedd yn ormod o bwdin, pyrotechnics i’n dallu ni, a’r hyn oedd ei angen mewn gwirionedd oedd cael yr hyder jyst i ddweud y stori’n dda heb swachau. Byddai defnyddio rhai o’r technegau hyn yn fwy dethol a bwriadus wedi bod yn fwy effeithiol a llawn mor chwareus.

Y mae’n braf gweld ein stori ni ar sgrîn, cadarnhad o’r ffaith ein bod ni’n bodoli. Fe’n bwydwyd hyd at syrffed â rhaglenni drama-ddogfen am hanes Lloegr ers blynyddoedd, felly mae ein gweld ein hunain mewn cynhyrchiad fel hyn yn beth gogleisiol. Ail-grëir rhai o’r chwaraewyr gwleidyddol yn y stori hon yn ardderchog gan rai o actorion amlycaf Cymru – wynebau cyfarwydd yn portreadu wynebau cyfarwydd. Mwynheais i hynny ac mae’n amlwg i’r actorion hwythau fwynhau’r her. Mae Mark Lewis Jones fel Willie Whitelaw a Rhodri Meilir fel Nicholas Edwards yn gampus ac roedd y profiad yn amlwg yn fêl ar eu bysedd – fe wyddom pwy yw’r bobol dda a’r bobol ddrwg yn y stori hon. Roedd rhywbeth cynhyrfus mewn gweld pobl y medrwn eu cofio – Saeson a Chymry – yn cael eu portreadu ar y sgrîn mewn modd credadwy.

Fedrwn i ddim yn fy myw ddychmygu pwy fyddai’n chwarae rhan Gwynfor. Ond gallaf ddweud mai Rhodri Efan yw Gwynfor, camodd i’w sgidiau a dal ei lonyddwch, ei ddiffuantrwydd a’i ruddin tawel, penderfynol a’i hiwmor. Hoffais yr olygfa gwneud coffi rhwng Gwynfor, Dafydd Wigley a Dafydd Êl – amlygwyd y tyndra anorfod oedd rhwng tri chryf ond hynod wahanol o ran eu natur. Yn wir, mi fuaswn i wedi hoffi gweld mwy o’r ddrama wleidyddol o fewn cyd-destun y blaid; elfen ymylol yn unig ydoedd.

Er mwyn dangos gwewyr Gwynfor ynghylch ei benderfyniad, ymddangosodd Gandhi a Martin Luther King iddo allu trafod anferthedd ei benderfyniad gyda nhw. Gwyddom fod Gandhi a MLK yn arwyr iddo. Fe ymrithion nhw’n achlysurol; ar lan llyn ac wrth y bwrdd yng nghegin ei dŷ. Nawr, ’wy’n deall mai techneg i allanoli’r ymgodymu mewnol oedd hyn, a bod mash-yp gwallgo o realiti hanesyddol a ffantasi honco bost yn rhan o ysbryd y ffilm, ond fe deimlodd fel cam swrreal yn rhy bell. Y pwdin gormodol eto. 

Y cymeriadau lleiaf llwyddiannus i mi oedd y rhai oedd yno i symud y stori yn ei blaen; cymeriadau Ceri Samuel, swyddog ifanc a weithiai yn y Swyddfa Gymreig, a Nerys y fenyw hŷn, oedd hefyd yn swyddog yn y Swyddfa Gymreig. Er i mi fwynhau perfformiadau Lily Beau a Carys Eleri, roedd eu deialog yn drwm fel plwm ar brydiau ac fe roddwyd esboniadau clogyrnog yn eu cegau.

Mae’r ffilm yn symud yn ei blaen fel bom yn tician yn agosach at y dyddiad ofnadwy pan fydd Gwynfor yn cychwyn ymprydio. Fe wyddom ni, wrth gwrs, nad yw’r diwrnod hwnnw byth am gyrraedd gan fod San Steffan yn newid eu meddwl yn sgil yr ofn y byddai marwolaeth Gwynfor yn achosi storom o ymateb yng Nghymru. O wybod hyn, mae un olygfa’n benodol yn teimlo’n drwsgl yng nghanol berw’r stori, sef honno lle mae Ceri frwd yn cyfarfod â’r gwleidydd profiadol Willie Whitelaw ar ddamwain yn y Swyddfa Gymreig. Mae e’n holi ei barn hi am sianel deledu i Gymru a hithau’n ymateb gydag araith ddadansoddol, wybodus am sefyllfa Cymru, nid yn unig yn y cyfnod ond heddiw hefyd. Ymddangosai drwy hyn fod sianel Gymraeg wedi’i hennill oherwydd dylanwad geiriau Ceri ar Whitelaw. Gyda gwneuthurwyr y ffilm wedi ail-greu’r gorffennol mor effeithiol, mi deimlais wedyn nad oedd yr elfennau ymddangosiadol ffuglennol yn taro deuddeg, ac yn sicr fod llaw’r presennol gorymwybodol yn gorwedd yn drwm arni. Roedd yr olygfa pan wrthododd Ceri hwpo rholyn papur tŷ bach dan y drws i Margaret Thatcher ar foment gyfyng, a rhedeg bant ag e, yn teimlo’n eitha diangen.

Profiad i’w fwynhau oedd Y Sŵn ar y cyfan, taith wyllt, ond bod gormod o ffol-di-rols gwahanol ynddi a oedd yn tynnu’n llygaid oddi ar y stori ei hun, stori yr ydym ni’n gyfarwydd â hi ond un sydd wir angen ei hadrodd, a’i hadrodd sawl gwaith mewn ffyrdd gwahanol. Mae ein sianel yn bwysig, gall fod yn llais i ni, gall ein ffurfio ni, gall ddangos pwy ydym ni, ond yn bwysicach na hynny gall ddangos pwy allwn ni fod; mae’n adloniant hefyd wrth gwrs. Mae’r cyfryngau’n cael dylanwad, yn medru newid meddyliau, yn gallu siapio cenedl. Roedd Gwynfor yn gwybod hynny, ac roedd San Steffan yn gwybod hynny bryd hynny hefyd; maen nhw’n dal i wybod hynny. Gan San Steffan y mae’r rheolaeth dros ein cyfryngau ni o hyd.

Elinor Wyn Reynolds

RHANNWCH