Dyslecsia yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth
Ymunwch â grwp dyslecsia i rannu gwybodaeth a thrafod beth sydd yn digwydd yng Nghymru gyda dyslecsia.
Llais Dyslecsia
Yn Chwefror 2023 daeth criw o blant ysbrydoledig gyda dyslecsia at eu gilydd i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol gyda’r cynhyrchydd Shari Llewelyn, Casi Wyn Bardd plant Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Dyslecsia Miles Prifysgol Bangor, athrawon arbennigol yn y maes, y cerddor Elin Taylor a’r dawnswraig Angharad Harrop.
Tu Draw
Ysgrifenodd Casi Wyn gerdd o’r enw ‘Tu Draw’ yn ymateb i’r plant i roi llais i dyslecsia yng Nghymru gyda Shari Llewelyn yn ymateb yn weledol gyda’r nôd i godi ymwybyddiaeth am ddyslecsia.
Ffilmiau
Fel canlyniad, cynhyrchwyd ffilm ddogfen fer o’r gweithdai gan y cyfarwyddwr Ffion Jon Williams, Aled Rhys Jones ar gamera a’r golygydd Llyr Madoc a ffilm greadigol o gerdd ‘Tu Draw’ gyda haen animeiddio gan y dylunydd Dan Parry Evans i blethu darluniadau Shari Llewelyn.