Y Mabinogion sydd dan sylw yn y bennod hon, ond rhaid egluro’n gyntaf nad dyna’r gair gorau i ddisgrifio’r straeon Cymraeg canoloesol hyn! Mae’n debyg mai William Owen Pughe (1759-1835) a fathodd y label, ond oherwydd cyfieithiadau Saesneg yr Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895) y daeth yn arferol i bobl led-led y byd gyfeirio at y chwedlau hyn fel The Mabinogion. Mae felly’n arfer Saesneg ddiweddar sydd wedi dylanwadu ar sut mae Cymry Cymraeg yn trafod y corff pwysig hwn o lenyddiaeth eu iaith!
Mae 11 o’r chwedlau hyn, a dim ond mewn pedair ohonynt y mae’r gair mabinogi yn ymddangos (a dim ond unwaith fel mabinogion, a’r gair hwnnw’n gamgymeriad, mae’n debyg). Mae’n well gennym eu disgrifio fel ‘Y Chwedlau Brodorol’; er bod llawer iawn o ryddiaith Gymraeg ganoloesol sydd wedi goroesi, mae’r rhan fwyaf ohoni wedi’i chyfieithu o ieithoedd eraill. Yr hyn sy’n arbennig am y grŵp hwn o straeon canoloesol yw’r ffaith eu bod wedi’u hysgrifennu’n wreiddiol yn yr iaith Gymraeg. Dyma felly ffrwyth dychmyg storïwyr Cymraeg yr Oesau Canol. Ond a yw’n iawn ein bod ni’n eu gosod ar wahân yn y modd hwn? Cedwir y chwedlau hyn mewn dwy lawysgrif – Llyfr Gwyn Rhyddech (c.1350) a Llyfr Coch Hergest (c.1400), ac mae’r casgliadau pwysig hyn yn cynnwys mathau eraill o lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol hefyd.