Beacons Cymru

Sefydliad Cymru gyfan yw Beacons sy’n ceisio grymuso’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc (16-25 oed) sy’n dyheu i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg. Yn dilyn llwyddiant prosiectau rhanbarthol – Forté Project (est. 2015) a Young Promoters Network (est. 2010) – ffurfiwyd Beacons gyda Creative Wales yn 2021. Ein gweledigaeth yw i ddarparu holl bobl […]
Gŵyl Maldwyn 2022

Tocynau ar werth yma
Cân y Coed

Symffoni unigryw dan arweiniad coedwigoedd glaw Cymru.
Caif y Symffoni Coedwigoedd Glaw, CÂN Y COED, ei lansio ar gyfer Heuldro’r Haf 2022. Mae’n grymuso llais newydd drosein hecoleg fregus ac yn gwahodd pobl i ymgysylltu â’r amgylchedd trwy gydweithrediad unigryw â natur, wrth i niglywed coedwigoedd glaw Cymru yn canu oddi tan y rhisgl am y tro cyntaf.
Treuliodd y cyfansoddwr a’r artist sain amgylcheddol â nam ar y clyw, Cheryl Beer, y fwyddyn ddiwethaf yn gweithiogyda choedwigoedd glaw hynafol Cymru, yn cyfansoddi cerddoriaeth seiliedig ar y systemau fasgwlaidd yn y pedwarcloan bregus sy’n weddill. Mae ei gwaith yn uno tiroedd Celtaidd hynafol a oedd gynt wedi’u cysylltu dan y pridd drwyedafedd mân, pluog o fwng myceliwm, fel un goedwig law odidog.
Trwy ailbwrpasu teclynnau clyw ac offer bioeddygol sensitif, mae Cheryl wedi coladu’r biorhythmau a grëwyd ganddargludedd yn nyfnderoedd coed, rhedyn a mwsogl, a defnyddio’r darlleniadau hyn i gyfansoddi Symfoni Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED. Mae’n datguddio sgyrsiau â natur nas clywid o’r blaen, ac mae pob nodyn yn dod o’r coed hynafol,rhedyn a mwsogl eu hun. Trwy gyuno’r celyddydau a thechnoleg arloesol, mae fordd unigryw Cheryl o gyfansoddi cerddoriaeth yn codi ymwybyddiaeth o’r ecosystem hon sydd o bwys byd-eang.
Llais

Llais yw gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd wedi’i ysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu bob unohonom – y llais. Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiad i ysgogi’r meddwl a phrofiadau chwareus i bawb. Heb ei gyfyngu i genre neu ffurf gelf benodol, mae Llais […]
Wales Millennium Centre | Canolfan Mileniwm Cymru

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu ein cynyrchiadau theatr, gwyliau a phrofiadau digidol ein hunain – yn ogystal â churadu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns a chabaret. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, […]
Ara Deg

Ara Deg 2024 Awst 22-24 Neuadd Ogwen
Cysgod Mis Hydref – Candelas
Fideo ‘Cysgod Mis Hydref’ gan Candelas a ryddhawyd 27.5.22 ar label recordiau I KA CHING.
GIG MELLT

Prosiect mentora sgiliau trefnu gig yn arwain at drefnu gig yng Nghaerfyrddin
PYST MEWN MIS: Mai

Bu mis Mai yn fis prysur arall i PYST – 19 albwm, 1 EP a 21 sengl. Dyma restr cyflawn o’r recordiau dosbarthwyd gan PYST ym mis Mai.
Mae Eisteddfod yr Urdd yn ôl!
Gyda 10 diwrnod i fynd tan yr ŵyl, dyma gyhoeddi trefniant newydd o Sain, Cerdd a Chân, sef Ymdeithgan yr Urdd, gan Band Pres Llareggub gyda llais hyfryd Lily Beau. Bydd Eisteddfod yr Urdd yn digwydd ar faes yn Sir Ddinbych rhwng Mai 30 a Mehefin 4, gyda dathliad arbennig Gŵyl Triban ar y penwythnos olaf.
Dyddiadur SXSW: Taith Cara Hammond i Austin, Texas
Ym mis Mawrth 2022, aeth 6 artist o Gymru i Austin, Texas i berfformio yng ngŵyl arddangos ryngwladol SXSW. Yn dilyn toriad mewn arddangosiadau rhyngwladol yn ystod Covid-19, i lawer o’r artistiaid, dyma oedd eu cyfle cyntaf i gymryd rhan yn un o wyliau mwyaf y calendr. Un o’r artistiaid hynny oedd Cara Hammond, a oedd yn ymweld â’r Unol Daleithiau am y tro cyntaf erioed er mwyn perfformio yn arddangosiad Focus Wales, ac eraill. Gyda chefnogaeth Cronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, perfformiodd Cara mewn sawl sioe arddangos, a rhannodd ei phrofiadau gyda ni wrth iddi ddarganfod y ddinas a’r ŵyl am y tro cyntaf.
Artist: Cara Hammond
Golygydd: Cadi Jones
Fideograffydd/Ffotograffydd: Jake Pollard
Ymddangosiadau gan: Buzzard Buzzard Buzzard, Mace the Great, The School Band
Gyda diolch i: Focus Wales Sefydliad PRS
Adwaith – Wedi Blino
Yn dilyn melodiau ewfforic y sengl gyntaf ‘ETO’, mae ‘Wedi Blino’ yn troi’r fuzz i fyny a’n cloddio’n ddyfnach i or-bryder yr ugeiniau cynnar. Bydd Bato Mato, ail record hir-ddisgwyliedig y band, allan Gorffennaf 1af ar Libertino. “O’n ni eisiau creu can indie-pop fawr ond melancolaidd” meddai’r band. “Mae hi am boeni fod bywyd yn mynd yn rhy gyflym neu boeni am berthynas, y teimlad nad wyt ti’n ddigon da ac mae ti yw’r rheswm nad yw pethau yn gweithio mas”
Cronfa Fideos Cerddorol
Mae fideos cerddorol yn sbringfwrdd creadigol sy’n darparu llwyfan bwysig i artistiaid, labeli a chyfarwyddwr i rannu eu gweledigaeth ac adrodd straeon tu hwnt i’r gerddoriaeth. Bwriad y gronfa newydd £5,000 (£500 ar gyfer pob fideo) hwn yw rhoi’r cyfle i 10 o artistiaid a chyfarwyddwyr ar gychwyn eu gyrfa i fynd ati i greu fideo cerddorol artist neu fand sy’n perfformio yn y Gymraeg.
Caiff y gronfa ei ariannu gan Lŵp, S4C, a’i reoli gan PYST a gall cyfarwyddwyr, artistiaid neu labeli wneud cais. Bydd yr artistiaid a’r cyfarwyddwyr lwcus yn cael eu dewis ar sail eu creadigrwydd, gweledigaeth, cynllun/amserlen rhyddhau cerddoriaeth a brwdfrydedd dros gyfrannu at gymuned gerddorol a chreadigol Cymru. Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi talent o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau difreintiedig a bydd y ffactorau hyn yn rhan o’n meini prawf wrth ddewis.
Os am wneud cais, cysylltwch a post@pyst.net am fanylion pellach
FOCUS Wales 2022!

FOCUS Wales 2022! A world of new music to discover. Mai/May 5-6-7 Tocynnau/Tickets Amserlen llawn/Full schedule
Maniffest / Hijinx
Yn ddiweddar, dychwelodd aelodau o Academi Hijinx a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) i ddyfeisio theatr fyw wyneb-yn-wyneb, i gyd-greu gwaith cynhwysol newydd mewn partneriaeth. Wrth ddod ynghyd wyneb-yn-wyneb am y tro cyntaf ers cychwyn y cyfyngiadau ymbellhau cymdeithaol, cymerodd yr 8 person ifanc ran mewn prosiect pedwar diwrnod yn llawn creadigedd a chrefft llwyfan. Dan arweiniad Ben Pettit-Wade (Cyfarwyddwr Creadigol, Hijinx), datblygodd aelodau’r cast ddarn gwreiddiol o theatr yn seiliedig ar syniadau a straeon a awgrymwyd gan yr aelodau eu hunain.
Gŵyl Llanuwchllyn

27ain Awst 2022
PYST mewn Mis: Ebrill

Bu Ebrill yn fis prysur arall i PYST gyda 4 albwm, 4 EP a 21 sengl yn cael ei ryddhau. Isod mae rhestr cyflawn o’r holl recordiau cafodd eu dosbarthu trwy PYST ym mis Ebrill.
Focus Wales 2022

Dyma’r restr cyfan o artistiaid sydd yn cael eu dosbarthu gan PYST sy’n chwarae yn Focus Wales eleni (yn ogystal â rhai o’n pigion ni o’r artistiaid eraill o Gymru a thu hwnt sy’n chwarae yno dros y tridiau). Mae amserlen cyfan yr ŵyl ar gael yma.
Dienw – Targed
Mae label I KA CHING yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed gydag albwm newydd aml-gyfrwng, gyda sengl newydd Dienw fel y diweddaraf i gael ei rhyddhau. Ewch am daith anarferol rownd Bangor gyda Twm ac Osian yn y fideo newydd…
Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴
PYST Mewn Mis: Mawrth

Bu mis Mawrth yn fis prysur i labeli ac artistiaid PYST – 20 sengl, 5 albwm, 2 EP, rhestrau chwarae, fideos cerddorol a gigs rhyngwladol. Dyma rai o’r digwyddiadau cyffrous dros y mis diwethaf:
Gŵyl 6 Music | 6 Music Festival

Mae’r wythnos hon yn un enwedig o gyffrous i gerddoriaeth yng Nghymru gan fod BBC 6 Music Festival yn dod i’r brifddinas. Fydd unrhyw un sy’n gwrando ar yr orsaf wedi clywed digon o sôn am yr ŵyl dros yr wythnosau diwethaf, ac efallai bydd rhai ohonoch wedi bodyn ddigon lwcus i fachu tocynnau i weld artistiaid BYD ENWOG fel Pixies, Little Simz, Self Esteem, Khruangbin, Bloc Party a hyd yn oed y Manics.
Ond i’r gweddill ohonom ni oedd yn rhy hwyr, yn rhy anlwcus neu’n rhy anrhefnus i fachu tocynnau, mae yna ddigon o gyfleoedd i wylio cerddoriaeth byw o gwmpas y ddinas (ac am lot rhatach hefyd). Mae’r cyfan i wed ar fap newydd Minty ond dyma rhai o’n uchafbwyntiau ni isod.
AM, PYST a Celfyddydau Anabledd Cymru yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd

AM, PYST a Celfyddydau Anabledd Cymru yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd i Sbarduno Newid yn y Diwylliant Celfyddydol yng Nghymru
Awydd ymuno â’n Bwrdd? | Interested in joining our Board?

Mae PYST Cyf yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd!
Cronfa Fideos Cerddorol

Mae fideos cerddorol yn sbringfwrdd creadigol sy’n darparu llwyfan bwysig i artistiaid, labeli a chyfarwyddwr i rannu eu gweledigaeth ac adrodd straeon tu hwnt i’r gerddoriaeth.
Bwriad y gronfa newydd £5,000 hwn yw rhoi’r cyfle i 10 o artistiaid a chyfarwyddwyr ar gychwyn eu gyrfa i fynd ati i greu fideo cerddorol artist neu fand sy’n perfformio yn y Gymraeg.
Caiff y gronfa ei ariannu gan Lŵp, S4C, a’i reoli gan PYST a gall cyfarwyddwyr, artistiaid neu labeli wneud cais. Bydd yr artistiaid a’r cyfarwyddwyr lwcus yn cael eu dewis ar sail eu creadigrwydd, gweledigaeth, cynllun/amserlen rhyddhau cerddoriaeth a brwdfrydedd dros gyfrannu at gymuned gerddorol a chreadigol Cymru. Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi talent o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau difreintiedig a bydd y ffactorau hyn yn rhan o’n meini prawf wrth ddewis.
Os am wneud cais, cysylltwch a post@pyst.net am fanylion pellach
Capturing the sounds: an introduction to music journalism

Cofnodi’r seiniau: cyflwyniad i newyddiaduraeth cerddoriaeth fodern Fel rhan o ŵyl Fringe BBC 6Music, mae Caerdydd Creadigol a’r Ysgol Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau a Diwylliant yn eich gwahodd i ymuno â ni am noson yn trafod beth mae’n ei olygu i fod yn newyddiadurwr cerddoriaeth. Dydd Iau, 31 Mawrth, 6pm School of Journalism, Media and Culture […]
Recordiau Bopa

Label Recordiau annibynnol sy’n rhyddhau cerddoriaeth gan y band Burum. Wedu sefydlu yn 2011, mae Recordiau Bopa wedi rhyddhau’r albyms ‘Caniadau’ yn 2011, a Llef yn 2016 ar CD a byddant yn rhyddhau ‘Eneidiau’ ar vinyl yn unig ym mis Gorffennaf 2022. Ma’ Burum yn perfformio alawon gwerin Cymreig mewn arddull jazz, ac mae’r band […]
Gig Gŵyl Dewi: Robat Arwyn

Cân a sgwrs gyda’r cerddor a’r cyflwynydd Robat Arwyn
Tafarn Yr Heliwr

Menter a thafarn gymunedol yn Nefyn ydi’r Heliwr. Ail agorwyd y dafarn adnabyddus ar y Stryd Fawr yn Ngorffennaf 2021 wedi ymdrechion gan y gymuned leol i’w hadfer. Nod y fenter yw bod yn ganolbwynt i drigolion yr ardal a’u anghenion gan gynnig gweithgareddau at ddant pawb, a hynny er mwyn ymdrechu i uno’r gymdeithas […]
Why I’m involved with Anthem – Blank Face

Aelod o’r Fforwm Ieuenctid, ‘Blank Face’, sy’n sôn wrthym ni pam ei fod yn ymwneud ag Anthem a beth mae’n gobeithio y bydd Anthem yn ei gyflawni yn y dyfodol.
‘CLOSURE’ – Track by Blank Face & LowKiy

Fe wnaethom ni greu’r fideo hwn i roi llwyfan i aelodau ein Fforwm Ieuenctid. ‘Closure’ gan LowKiy a Blank Face, sy’n aelod o’r Fforwm Ieuenctid, yw’r trac hyfryd sy’n gyfeiliant iddo.
Daeth y cysyniad ar gyfer ‘Closure’ o’r rhwystredigaeth cyffredinol oedd wedi’i gyfeirio at ddigwyddiadau anffodus yn ystod 2020; os oeddem ni am ddod dros yr ymateb, roedd angen i ni ddod o hyd i rywfaint o’r ‘closure’ yna a symud ymlaen i’r flwyddyn newydd! – Blank Face & LowKiy
Youth Forum Members Create Videos for Summit

Mae aelodau Fforwm Ieuenctid Anthem wedi bod yn gweithio gyda thîm ‘Ymgynghorwyr Ifanc’ o fudiad Bannau, fel rhan o Summit, cynhadledd ar-lein diwydiant cerddoriaeth Cymru i bobl ifanc gan bobl ifanc – https://www.beacons.cymru/
Mae’r grŵp wedi creu sgyrsiau a digwyddiadau sy’n rhannu eu syniadau a’u meddyliau am ddiwydiant cerddoriaeth Cymru, yn ogystal â chefnogi’r gwaith y tu ôl i’r llenni fel golygu fideo a chyfieithu. Dyma rai o’r fideos a wnaethant.
– https://www.anthem.wales/cy/adeiladu-eich-gyrfa-bortffolio/
BLOG – Making Anthem Youth Forum Films and Website Launch by Ella Pearson

Rhoddodd ein ymgynghoriad ieuenctid yn 2020 ddealltwriaeth wych i ni o brofiadau pobl ifanc o greu a dysgu cerddoriaeth yng Nghymru. Ond i ddenu sylw a darbwyllo cyllidwyr, rhoddwyr, llunwyr polisi ac eraill, roeddem yn gwybod bod angen i ni roi fwy o lais iddynt yn uniongyrchol. Aeth ein Fforwm Ieuenctid i’r afael â hyn. Gwnaethom ein helpu i greu ein brand newydd, a’u ffilmio eu hunain er mwyn rhannu storïau am eu profiadau o ddysgu a chreu cerddoriaeth yng Nghymru. Ella Pearson, aelod o’r Fforwm Ieuenctid, sy’n sôn wrthym am y broses.
Blog gan Ella Pearson (Fforwm Ieuenctid) – https://www.anthem.wales/the-making-of-our-anthem-youth-forum-films-and-the-launch-of-the-new-website-by-ella-pearson/
Introducing Anthem. Music Fund Wales

Fideo – https://www.youtube.com/watch?v=RSxFOPg8iwE
Gweledigaeth Anthem yw creu Cymru lle gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc. Ein nod yw cefnogi pobl ifanc sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd o’r diwydiant cerddoriaeth ac sy’n gobeithio datblygu creadigrwydd.
https://www.anthem.wales/cy/
Cân: affricerdd

Mae Cân: affricerdd yn gyfle i grewyr cerddoriaeth o dras Affricanaidd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i ysgrifennu cân newydd (mewn unrhyw iaith a genre cerddorol) a chreu fideo cerddoriaeth o’r gwaith newydd.
Mae Mirari More, N’famady Kouyaté, Ogun, a Skunkadelic (Tumi Williams) eu dewis ar ôl galwad agored i artistiaid i greu gwaith newydd ar gyfer cân: affricerdd. Mae’r rhaglen hon yn un o linynnau Tapestri, menter newydd Tŷ Cerdd sy’n helpu i greu archif gerddorol fyw o bobl, ieithoedd a chymunedau Cymru – wedi’i hariannu gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Klust

Gwefan annibynnol ddwyieithog yw Klust sy’n tynnu sylw at gerddoriaeth newydd o Gymru. Bwriad y wefan yw hyrwyddo, cefnogi a dathlu artistiaid Cymraeg drwy gyfrwng adolygiadau a chyfweliadau arbennig. Yn cydweithio gyda dosbarthwyr, hyrwyddwyr a labeli ledled Cymru, mae Klust hefyd yn cynnig ei hun fel gwasanaeth PR. WWW.KLUSTMUSIC.COM
Mr Phormula (feat. Lord Willin) – Roads (Offical Video)
Lowri Evans a Lee Mason – Dydd Miwsig Cymru 2022
Plethu: Affricerdd Connections

‘Plethu: affricerdd’ is a series of short films commissioned by NDCWales and Tŷ Cerdd fusing original music and dance from across Wales and giving platform to music artists of African descent.
This unique collaboration gives artists the chance to explore film-making as a new skill and medium for their combined artforms.
Connections’ shows different responses to living in the city of Cardiff.
Dancer, Idrissa Camara has set movements in response to music featuring energetic, percussive rhythms, bolon taps and field recordings of traffic taken near where Composer Eric Martin Kamosi lives in Cardiff.
What can be seen here is effected by what can be heard and seen in the Cardiff.
The listener is encouraged to take part in an experience of this environment.
__
Composer, Film and edit:Eric Martin Kamosi
Choreographer, Dancer: Idrissa Camara
Ify Iwobi

Mae Ify Iwobi yn bianydd clasurol/cyfoes llwyddiannus, ysgrifennwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd o Gymru/Nigeria. Astudiodd Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Brunel yn Uxbridge, Llundain. Mae Ify wedi perfformio ledled Cymru. Mae hefyd wedi perfformio yn rhyngwladol yn Llundain, America a Nigeria, ac yn hapus i chwarae yn eich digwyddiadau. Mae’r artist, a anwyd yn Abertawe, wedi ei […]
I Wish – Lisa Angharad

2022
Vocals & Piano : Lisa Angharad
Violin : Patrick Rimes
Producer : Ifan Emlyn Jones (Stiwdio Drwm)
Released by Recordiau Cosh Records
Recorded at Stiwdio Sain, Llandwrog 2021.
Video by FfotoNant filmed in Penarth & Grangetown
Barry Harden: Facebook Troll!
Cyfanwoddwr / Composers: Lynwen Haf Roberts, gyda Deryn Allen-Dyer; Sion Elfyn; Emily Harker; Lili Mohamed; Tomos Stokes; Chloe Teresa Wilson; Lowri James
Buddsoddwch Mewn Cryptocurrencies Drwy Mr Thomas
Rhyfeloedd y ‘Rona: cyfres o 3 sioe gerdd gwta gair-am-air yn trafod y safbwyntiau, yr hyn a gytunwyd ac na chytunwyd, y rhwystredigaethau a’r sylwadau a gasglwyd gan ein cwmni wrth iddyn nhw ymchwilio i adran sylwadau Wales Online mewn perthynas â thair araith allweddol a gyflwynwyd gan Boris Johnson, Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yn ystod pandemig 2020/21. Cyfansoddwyr Kizzy Crawford, James Williams and Lynwen Haf Roberts. Cyfarwyddwyr: Angharad Lee and Emma Hickey MD: David Laugharne Golygydd: Jonathan Dunn (Ffilmiwyd gan aelodau o’r Academi yn eu cartrefi)
Snake Pit
Cyfansoddwr / composers: James Williams gyda Mia Cradle; Kira Davies; Rhydian Edbow; Ffion Lowe; Dafydd Veck
Ma ‘Ne Rwbeth am y ‘Dolig – Osian Huw a Rhys Gwynfor
Boed rhywun yn mwynhau’r Nadolig neu ddim, ‘sdim dadle fod pawb angen ‘chydig bach o hud a lledrith ac mae’r ffrindiau bore oes, Osian Huw a Rhys Gwynfor wedi paru i berfformio cân sy’n gobeithio cynnig yn union hynny.
Rhyddhawyd ar label recordiau I KA CHING yn Rhagfyr 2020.
Cyfansoddwyd gan Branwen ac Osian Williams.
NEWYDD | NEW: MELLT – MARCONI (Official Video)
‘Marconi’, y sengl gyntaf o albwm newydd MELLT.
Perisgop (part of | rhan o ‘tapestri’ Tŷ Cerdd)
Mae Perisgop yn cyflwyno golygfa o’r byd trwy lygaid rhywun arall. Wedi’i wneud mewn partneriaeth ag UCAN Productions, mae’r cynhyrchiad yn rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau pobl â nam ar eu golwg yn ystod pandemig Covid 19. Mae tîm artistig Perisgop i gyd â nam ar eu golwg: y cyfansoddwr Gareth Churchill, yr awdur Kaite O’Reilly a’r gwneuthurwr ffilmiau Jake Sawyers.
Mwy o wybodaeth yma
Dewr 2 ~ Pennod 1 ~ Yws Gwynedd

Garddio a galar. Yws Gwynedd sy’n agor ail gyfres #Dewr mewn sgwrs bwerus am fywyd personol y cerddor a chynhyrchydd hoffus.
WMP2021 | Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2021

Cychwynnwyd y Wobr yn 2011, i ddathlu y gerddoriaeth orau yng Nghymru neu gan bobl o Gymru, o amgylch y byd.
Bydd ffrwd byw yn cael ei ddarlledu yma ar AM i gefnogi y prif ddigwyddiad, nos Fawrth 23.11.21, 20:15. Tiwniwch fewn i weld pwy fydd yn mynd â hi eleni…