Mae Ify Iwobi yn bianydd clasurol/cyfoes llwyddiannus, ysgrifennwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd o Gymru/Nigeria. Astudiodd Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Brunel yn Uxbridge, Llundain. Mae Ify wedi perfformio ledled Cymru. Mae hefyd wedi perfformio yn rhyngwladol yn Llundain, America a Nigeria, ac yn hapus i chwarae yn eich digwyddiadau. Mae’r artist, a anwyd yn Abertawe, wedi ei chynnwys ar restr chwarae ‘Welsh A-List’ BBC Radio Wales.
