Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llais

Llais yw gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd wedi’i ysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu bob un
ohonom – y llais.

Gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim ac â thocyn, mae Llais yn cyflwyno rhaglen  o gerddoriaeth fyw anturus, perfformiad i ysgogi’r meddwl a phrofiadau chwareus i bawb.

Heb ei gyfyngu i genre neu ffurf gelf benodol, mae Llais yn dathlu artistiaid rhyngwladol yn ogystal â chreadigrwydd ein cynefin ein hunain, gan drawsffurfio Canolfan Mileniwm Cymru’n safle gŵyl unigryw.

Dewch i fwydo’ch enaid a dawnsio tan yr hwyr.

Mae Llais yn Gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru – dechreuodd fel Gŵyl y Llais in 2016

Cynnwys