Mae fideos cerddorol yn sbringfwrdd creadigol sy’n darparu llwyfan bwysig i artistiaid, labeli a chyfarwyddwr i rannu eu gweledigaeth ac adrodd straeon tu hwnt i’r gerddoriaeth. Bwriad y gronfa newydd £5,000 (£500 ar gyfer pob fideo) hwn yw rhoi’r cyfle i 10 o artistiaid a chyfarwyddwyr ar gychwyn eu gyrfa i fynd ati i greu fideo cerddorol artist neu fand sy’n perfformio yn y Gymraeg.
Caiff y gronfa ei ariannu gan Lŵp, S4C, a’i reoli gan PYST a gall cyfarwyddwyr, artistiaid neu labeli wneud cais. Bydd yr artistiaid a’r cyfarwyddwyr lwcus yn cael eu dewis ar sail eu creadigrwydd, gweledigaeth, cynllun/amserlen rhyddhau cerddoriaeth a brwdfrydedd dros gyfrannu at gymuned gerddorol a chreadigol Cymru. Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi talent o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a grwpiau difreintiedig a bydd y ffactorau hyn yn rhan o’n meini prawf wrth ddewis.
Os am wneud cais, cysylltwch a post@pyst.net am fanylion pellach