Cartref digidol diwylliant Cymru.

AM, PYST a Celfyddydau Anabledd Cymru yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd

CelfCerddoriaethLlenyddiaeth

AM, PYST a Celfyddydau Anabledd Cymru yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd i Sbarduno Newid yn y Diwylliant Celfyddydol yng Nghymru

Mae AM (y wefan a’r app sydd yn dathlu’r celfyddydau yng Nghymru) a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn falch iawn o gyhoeddi dechrau partneriaeth arwyddocaol a fydd yn caniatáu iddynt gydweithio i sbarduno newid pwysig yn y sector gelfyddydol yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

 

Yn hanesyddol nid yw artistiaid anabl a byddar wedi cael digon o gyfleoedd i rannu a chreu gwaith am nifer o resymau gwahanol. Mae rhagfarnau a stereoteipiau wedi cyfyngu ar y cyfleoedd y mae pobl â phrofiad o ablaeth wedi eu derbyn i ddatblygu a rhannu eu sgiliau â’u gwaith. Mae’r adnodd anferth yma o dalent a chreadigrwydd angen ymyriadau a chefnogaeth gadarnhaol, ac felly rydym yn croesawu’r bartneriaeth i rannu ein platfformau a hyrwyddo’r gwaith yma gyda’n gilydd. Byddwn yn cyfuno gwybodaeth y ddau sefydliad er mwyn sicrhau bod mwy o gydraddoldeb, cyfleoedd a dealltwriaeth yn cael ei dderbyn o ddydd i ddydd yn y sector.

Fel rhan o gynllun tair blynedd fydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo gwaith o gyfres Featured Artist DAC i gynulleidfa ehangach a chyd-hyrwyddo digwyddiadau ac chyfleon newydd, bydd DAC yn cefnogi’r hybu ac adnabyddiaeth fydd yn datblygu drwy bresenoldeb ar wefan ac app AM, a hefyd yn sicrhau y bydd y dros 400 o aelodau yn cael y cyfle i gysylltu gydag AM. Yn y cyfamser, bydd AM yn hyrwyddo a chynghori ar waith gan artistiaid byddar ac anabl, yn ogystal â datblygu agenda gyda DAC i gynyddu cyfleoedd a gwthio celfyddyd artisitiaid byddar ac anabl i ganol bywyd celfyddydol Cymru. Bydd aelodau DAC hefyd yn manteisio ar fynediad at wasanaethau PYST – chwaer-sefydliad i AM sydd yn dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg.

 

Bydd y bartneriaeth hefyd yn gweld cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad yn cymeryd rôl ymghynghorol ar Fyrddau llywodraethol ei gilydd. Yn ogystal bydd logo DAC i’w gweld ar dudalen cartref gwefan ac app AM fel partner allweddol.

 

Dyfyniadau:

 

“Mae’r bartneriaeth yma yn hollbwysig i DAC ac rydym yn falch iawn o weithio yn gyfartal gydag AM” Ruth Fabby MBE, Cyfarwyddwr DAC

 

“Mae’n fraint gallu gweithio’n agosach gyda DAC a chael chwarae rôl fechan yn dod â newid angenrheidiol i’r sector a chymdeithas” Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM

RHANNWCH