Eädyth: Yn fyw o’r Ffwrnes / Live from Ffwrnes

Bydd y gantores a’r offerynwraig talentog, Eädyth, yn perfformio fel rhan o gyfres ffrydio byw gan Theatrau Sir Gâr, ‘Yn Fyw o Ffwrnes’ a hynny ar nos Wener 5 Chwefror, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2021. Mae Eädyth yn enw cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru gyda’i sain electronig a lleddf […]
Sgwrs Rhys Ifans a Huw Stephens
Rhys Ifans & Huw Stephens:
Pam mae miwsig Cymraeg yn bwysig i mi
I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, dyma Rhys Ifans a Huw Stephens sôn am beth mae Miwsig yn golygu iddyn nhw, ag yn rhannu eu tri digwyddiad Miwsig Cymraeg mwyaf arwyddocaol.
MYGM – DMC

Rhestr chwarae gan Merched yn gwneud Miwsig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru
MYGM – DMC

Rhestr chwarae gan Merched yn gwneud Miwsig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru
Gŵyl Gerdd Bangor : Digwyddiadau | Events

12 -13.03.21
Eleni bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn archwilio’r thema ‘yr amgylchedd’ drwy nifer o gyngherddau sy’n cynnwys artistiaid enwog a chyffrous, megis y delynores ar gyfansoddwraig Mared Emlyn, y Solem Quartet, y cantorion Caryl Hughes a Paul Carey Jones a’r pianydd Wyn Davies, cyn cloi gyda synau atmosfferig Electroacwstig Cymru.
Mwynhewch a chadwch yn saff!
Rydym yn ddiolchgar am unrhyw roddion, fydd yn mynd tuag at ein gweithgareddau yn y dyfodol.
Gŵyl Gerdd Bangor 2021 : Perfformwyr | Performers

12 -13.03.21
Eleni bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn archwilio’r thema ‘yr amgylchedd’ drwy nifer o gyngherddau sy’n cynnwys artistiaid enwog a chyffrous, megis y delynores ar gyfansoddwraig Mared Emlyn, y Solem Quartet, y cantorion Caryl Hughes a Paul Carey Jones a’r pianydd Wyn Davies, cyn cloi gyda synau atmosfferig Electroacwstig Cymru.
Mwynhewch a chadwch yn saff!
Rydym yn ddiolchgar am unrhyw roddion, fydd yn mynd tuag at ein gweithgareddau yn y dyfodol.
Cyhoeddi Ennillydd Ysgol Hip Hop
Ysgol Hip Hop: fe osododd Dydd Miwsig Cymru her i ysgolion cynradd Cymru i ysgrifennu rap ar y thema o ‘Beth mae’r iaith yn feddwl i ti a dy ardal’ am gyfle i ennill gwobr o £250 i’w ysgol. Derbyniwyd 109 rap gwych o bob cwr o Gymru. Llongyfarchiadau mawr i bawb! Dyma’r rhestr fer […]
Byw i’r Dydd

Mae Byw i’r Dydd yn gân hyfryd sydd wedi ei chyfansoddi gan Rhydian Meilir, gyda’r fidio a’r animeiddio wedi ei greu gan y talentog Morgan Elwy. Mae’n gyfanwaith sy’n cynrhychioli ymgyrch ‘Nerth dy Ben’ a’i fwriad o atgoffa’n gilydd o’n nerth a’n cryfderau, a’r hyn dani’n gallu ei gyflawni.
Dewch draw i’n sianel ar Ddydd Miwsig Cymru i weld y fideo!
I ddeall mwy am Nerth dy Ben ewch i’r wefan www.nerthdyben.cymru. Mae modd lawrlwytho ‘Byw i’r Dydd’ ar itunes a bydd cyfran o bob lawrlwythiad yn dod yn ôl i ariannu’r prosiect.
YN FYW O’R FFWRNES: GWILYM LIVE FROM THE FFWRNES
Byddwn yn croesawu pum bachgen o Ynys Môn a Gwynedd i’n lwyfan y Ffwrnes yn Llanelli – Gwilym! Byddant yn perfformio’u caneuon poblogaidd megis Fyny Ac Yn Ôl, Cwin a Gwalia a llawer mwy! Mae Gwilym yn boblogaidd iawn mewn gwyliau ledled Cymru ac mae eu ‘indie-pop’ bob amser yn plesio’r gynulleidfa.
DYDD MIWSIG CYMRU – Mei Gwynedd
Dros y 6 mlynedd diwethaf, mae Mei Gwynedd wedi bod yn creu bandiau ifanc newydd yn Rhondda Cynon Taf. Mae wedi gweithio gyda 152 o bobl ifanc dros yr amser yna, ac mae’r cyfansoddi’n parhau…ar zoom!
Yn Fyw o’r Ffrwnes ALFFA Live from Ffwrnes

Yn Fyw o’r Ffwrnes: ALFFA Mae’r band roc a blŵs Cymraeg, Alffa, yn dod â’u brand unigryw o gerddoriaeth i lwyfan y Ffwrnes Mae Alffa wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr, gan ymddangos yng ngŵyl Gorwelion Horizons yn 2018 – rhaglen sy’n tynnu sylw at y perfformiadau cerddorol Cymreig mwyaf addawol i gymryd rhan […]
Geraint Rhys – Gig Dydd Miwsig Cymru 2021
Dyma gig fer o rhai o fy ganeuon i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2021 Mwynhau! x You can find the studio versions of all these tracks on youtube, spotify, itunes and everywhere else. 00:00 – Intro 00:56 – Dilyn (Studio Version – https://www.youtube.com/watch?v=Q0n22… ) 05:17 – Diwedd Y Byd (Studio Version – https://www.youtube.com/watch?v=pUd8d… ) 08:33 – […]
‘Chydig o Sain
Osian Huw Williams sy’n ein harwain o amgylch stiwdios enwog Sain mewn rhaglen ddogfen fer gan Urdd Gobaith Cymru
Gŵyl Dydd Miwsig Cymru Festival

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, mae gennym ni ddiwrnod llawn o gerddoriaeth Cymraeg i chi, o lansio tracs ac albyms i fideos ecsgliwsif, i ddarganfod cariad Rhys Ifans at fiwsig Cymraeg. Bydd y cyfan yn dechrau am 2pm gyda HMS Morris a byddwn yn eich tywys drwy’r dydd hyd at 10pm gyda set DJ gan Roughion. Felly, rhowch eich goleuadau disgo ymlaen ac fe welwn ni chi am 2pm ar 5 Chwefror.
Datblygu Cymunedol – Iwcadwli
Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli sy’n perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a’r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg a’n gweld Iwcadwli yn gyfle amhrisiadwy i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Cydweithio – PYST
Mae Pyst yn gwmni gwasanaeth labeli, dosbarthu a chydlynu digwyddiadau cerddorol sy’n canolbwyntio’n benodol ar gerddoriaeth o Gymru. Drwy gyd-weithio gyda’r arbenigedd hwn mae wedi galluogi’r Fenter i drefnu a hyrwyddo mwy o weithgareddau cerddorol Gymraeg yn y sir. Mae’r cyfuniad o wybodaeth y Fenter am hyrwyddo’n lleol ynghyd â gwybodaeth arbenigol Pyst am ddiwydiant cerddorol Cymru wedi bod o fudd mawr wrth ddenu cynulleidfa newydd i gerddoriaeth Gymraeg.
Cydweithio – Gŵyl Canol Dre
Mae Gŵyl Canol Dre yn cyflwyno celfyddydau a diwylliant Cymraeg i‘r gymuned gyfan, o bob oed yng Nghaerfyrddin, a hynny diolch i gydweithio effeithiol. Gyda mudiadau Cymraeg, ysgolion cynradd tref Caerfyrddin ac eraill yn rhan o’r trefnu dros flwyddyn gyfan, mae gan bob partner rôl benodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl sy’n denu miloedd i fwynhau’r Gymraeg.
#Plygain2020
Beth yw Plygain?
Parti Ponty
Gŵyl Gymraeg i bawb yw Parti Ponty sy’n rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr o’r ardal, a thu hwnt, sydd wedi ehangu i ddigwyddiadau dros 5 lleoliad yn y sir yn 2019. Gyda gweithgareddau, adloniant, gweithdai, a stondinau amrywiol sy’n hybu’r Gymraeg – mae pobl ifanc yn rhan greiddiol i’r digwyddiad a dros 100 ohonynt yn gwirfoddoli i helpu’r ŵyl fod yn llwyddiant.
Sesh Sŵn
Mae’r Sesh Sŵn yn sesiwn werin Gymraeg, ac yn gyfle i bobl o bob oed, gallu ieithyddol a cherddorol gwrdd mewn sefyllfa anffurfiol i chwarae cerddoriaeth draddodiadol a phoblogaidd. Gyda Sesh Fach hefyd yn gyfle i offerynwyr dechreuol ddysgu’r caneuon, mae cyfle i bawb ddatblygu sgil yn ogystal ag ymarfer yr iaith.
Tafwyl
Gŵyl a pharti mawr blynyddol i ddathlu’r Gymraeg yn ein Prifddinas yw Tafwyl. Mae’r ŵyl yn ddathliad balch a hyderus o’n diwylliant ar ei orau, ac yn gyfrwng i ddefnyddio’r Gymraeg yn gwbl naturiol mewn awyrgylch anffurfiol a chynhwysol gan ddenu bron i 40,000 o bobl i’r digwyddiad yn 2019.
Clonc a Chân – Bronwen Lewis
Ymunwch â ni ar gyfer trydedd bennod ein cyfres newydd, CLONC A CHÂN, yng nghwmni’r cerddores a chyfansoddwraig arbennig o Flaendulais, Bronwen Lewis 🎤 ⭐️
Canu gyda | Singing with Dafydd Pantrod
Mae Dafydd Pantrod yn ôl tro yma i ganu rhai o’i hoff ganeuon gyda Cefin Vaughan!
Ydych chi’n adnabod y caneuon yma?🎶
Caneuon Nadolig ar yr Ukulele
gyda Dafydd (Menter Caerffili)
Lisa Pedrick – Ti yw Fy Seren
Menter Bro Dinefwr
Nonsens a Nodau : Y Saith Rhyfeddod
Dan ni’n gorffen ein cyfres o Nonsens a Nodau drwy glywed Mair yn sôn am Y Saith Rhyfeddod. Gobeithio i chi fwynhau’r caneuon a’r storiau …a’ch bod wedi cael eich ysbrydoli i ddysgu rhagor o’n caneuon gwerin.
Hunaniaith Gwynedd
Lockdown Roc ar Ras
Dyma gân i gofio am y profiad o chwarae mewn band dros Zoom yn ystod y cyfnod clo yn 2020, gan Brenig, Noa ac Owain – aelodau gweithdy band cynllun Bocsŵn Menter Iaith Conwy.
Canu gyda | Singing with – Dafydd Pantrod (3)
Ymunwch â Dafydd Pantrod a Cefin Vaughan am yr olaf yn y gyfres o’u hoff ganeuon. Diolch yn fawr iddynt am y cyfres yma o fideos.
Llwyfan Lleol

#DyddMiwsigCymru – 05/02/2021
Dathlu cerddoriaeth Cymraeg o’n cymunedau o Lwyfannau Lleol y Mentrau Iaith. Eisiau gwylio perfformiadau cymunedol o dros Gymru? Chwilio am wers biano neu diwtorial tiwnio’r iwc?
Ymunwch yn y ddathlu YMA !
Elan yn holi… Endaf Emlyn
Elan Evans sy’n holi’r cerddor, Endaf Emlyn ar achlysur cyhoeddi’i albymau’n ddigidol am y tro cyntaf.
Dianc i’r tywydd braf gyda Mali Hâf

Dydd Miwsig Cymru: mae Mali Hâf yn edrych ymaen at gael camu ar lwyfan unwaith eto ar ôl y cyfyngiadau
Apêl #Poster2020 Appeal
Ar Ddydd Miwsig Cymru yn Chwefror 2020 lansiodd y Llyfrgell Genedlaethol Apêl #poster2020 er mwyn casglu posteri gigs a ffansîns pop Cymru. Oes gennych chi unrhyw bosteri neu ffansîns i’w hychwanegu i’r casgliad? Cysylltwch â’r Llyfrgell Genedlaethol!
Mei Emrys – Môr Forynion
Sesiwn clo o ‘Môr-forynion’ oddi ar yr albym ‘Llwch’ gan Mei Emrys i ddathlu DMC.
Recordiau Côsh Records

CDs gan artistiaid yn cynnwys Alffa, Gwilym a Fleur De Lys ar gael i’w prynu ar wefan Côsh!
Bubblewrap Collective
Recordiau I KA CHING Records

Prynwch y CDs diweddaraf gan Mared, Y Cledrau a mwy ar wefan I KA CHING nawr!
Siop | Shop

Prynwch y cynnyrch diweddaraf o Recordiau Hambon yma
Recordiau Libertino Records

Crysau-T, recordiau, CDs a mwy gan artistiaid megis Rogue Jones, Adwaith, Minas a Los Blancos ar gael i’w prynu drwy siop digidol Recordiau Libertino nawr!
O.G. Greta – Calan
Fideo gerddorieth ar gyfer y gân ‘O.G. Greta’ gan Calan wedi’i greu gan Drawn to Ice Hockey.
Gŵyl Gerdd Bangor

Bydd Gŵyl Gerdd Bangor 2021 yn archwilio’r thema ‘yr amgylchedd’ drwy gyfres o gyngherddau ar lein yma ar AM, sy’n cynnwys nifer o artistiaid enwog a chyffrous, megis y delynores a’r gyfansoddwraig Mared Emlyn, y Solem Quartet, y cantorion Caryl Hughes a Paul Carey Jones gyda’r pianydd Wyn Davies, Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a chyfellion, […]
Y DJ sy’n diddanu ers degawdau

Mae Ian Cottrell wedi bod yn DJ yng Nghlwb Ifor Bach ers chwarter canrif a mwy, ac yn dal i deimlo’r wefr wrth gynnal y disgo.
Bu’r cerddor 47 oed yn llywio’r gerddoriaeth yn y clwb nos eiconig yng Nghaerdydd ers 1991, pan symudodd i’r brifddinas.
Ac ers 2008 mae wedi bod yn cynnal nosweithiau Dirty Pop gyda’i ffrind agos, Esyllt Williams.
Byth ers hynny – wel, tan yr argyfwng – mae’r pâr wedi bod yn gyfrifol am gadw clwb Cymreiciaf Caerdydd yn bownsio tan oriau mân y bore.
Pob nos Sadwrn mae DJs Dirty Pop yn meddiannu tri llawr y clwb, gyda cherddoriaeth ddisgo a phop ar y llawr gwaelod, funk a soul ar y llawr canol, a hits bandiau gitâr ar y llawr uchaf.
Dros y blynyddoedd mae gwahanol DJs wedi mynd a dod, ond mae Ian Cottrell ac Esyllt Williams wedi parhau fel rhyw angor i’r cyfan, gan rannu’r slot ‘disgo pop’ ar y llawr gwaelod.
Gwilym – 50au
Perfformiad byw o sengl newydd Gwilym ’50au’ yn fyw o Gigs Tŷ Nain
Cymdeithas Cerdd Dant Cymru

Ers ei sefydlu yn 1934 gyda’r nod o ddiogelu a datblygu’r gelfyddyd o ganu gyda’r tannau, mae Cymdeithas Cerdd Dant Cymru wedi tyfu a datblygu’n gyson,. Uchafbwynt gweithgareddau blynyddol y Gymdeithas yw’r Wyl Gerdd Dant, gwyl undydd a gynhelir bob mis Tachwedd. Cynhelir cyrsiau gosod a chyfeilio cerdd dant bob blwyddyn.
Live From Cardiff | Yn Fyw o Gaerdydd
Ffilm bach yn dogfennu effeithiau covid ar live music/events yng Nghaerdydd.
Nerth Dy Ben
Nod Nerth dy Ben yw rhoi’r lle i bobl siarad am nerth a chryfder meddwl sy’n bodoli yn y gymuned wledig Gymraeg, a rhoi’r cyfle i ni gydnabod y nerth sydd gennym i ddygymod, goroesi ac i gyflawni pethau o ddydd i ddydd
Bubblewrap

Label recordio wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Yn gartref i Cotton Wolf, Georgia Ruth, The Gentle Good, HMS Morris, My Name is Ian, Quiet Marauder, Right Hand Left Hand, Sock, Quodega ac Ivan Moult. Ers sefydlu Bubblewrap yn 2009, datblygodd y label i fod yn un o labeli annibynnol mwyaf nodedig Cymru. Ar ôl rhyddhau sawl record dros gyfnod o ddeg mlynedd gyda’r holl recordiau yn ymestyn dros sawl genre, credai Bubblewrap y dylid rhyddhau recordiau hardd o safon ac ansawdd uchel o’n gwlad ni ein hun. Mae hanes Recordiau Bubblewrap wedi’i blethu mewn i hanes albymau sydd wedi derbyn canmoliaeth fawr a derbyn sawl gwobr uchel iawn eu parch. Derbyniodd Gentle Good Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2017 am ei albym ‘Ruins / Adfeilion’, rhoddodd Bubblewrap Boy Azooga ar feinyl am y tro cyntaf erioed gyda Buzzard Buzzard Buzzard a rhoi argraffiad Cymreig o albym ‘Polygondwanaland’ gan King Gizzard and the Lizard Wizard.
Recordiau Côsh Records

Sefydlwyd Recordiau Côsh gan Yws Gwynedd, Jason Hughes ac Owain Jones yn 2004 er mwyn rhydhau deunydd eu band Frizbee. 10 mlynedd yn ddiweddarach adfywiodd Ywain y label er mwyn rhyddhau ei stwff unigol, ac yn 2017 penderfynodd ddatblygu’r fenter yn bellach drwy cynnig helpu Mei Emrys ryddhau ei albym gyntaf unigol ‘Llwch’.
Ar ôl clywed caneuon ar Soundcloud gan yr artistiaid ifanc Gwilym a Lewys, datblygodd sgyrsiau dros y we a wnaeth arwain at Côsh yn rhyddhau deunydd artistiaid newydd am y tro cyntaf. Yn erbyn heddiw, mae 19 o artistiaid wedi rhyddhau cerddoriaeth ar y label a’r teulu’n tyfu drwy’r amser.
Yn 2019 wnaeth Alffa, band ifanc o Lanrug gyrraedd miliwn o ffrydiadau ar Spotify ar gyfer y gân ‘Gwenwyn’, y gyntaf yn y Gymraeg i gyflawni’r gamp.
Frizbee
Yws Gwynedd
Mei Emrys
Sorela
Delw
Gwilym
Lewys
I Fight Lions
Alys Williams
Rhys Gwynfor
Fleur De Lys
Ifan Dafydd
Ffion Emyr
Elis Derby
Alun Gaffey
Thallo
Clwb Ifor Bach

Gigfan, clwb nos, lleoliad digwyddiadau a hyrwyddyr arobryn yw Clwb Ifor Bach. Wedi bodoli ers 1983 ar Stryd Womanby, yng nghalon cartref prysur gerddoriaeth a chelf Caerdydd.