Bydd Gŵyl Gerdd Bangor 2021 yn archwilio’r thema ‘yr amgylchedd’ drwy gyfres o gyngherddau ar lein yma ar AM, sy’n cynnwys nifer o artistiaid enwog a chyffrous, megis y delynores a’r gyfansoddwraig Mared Emlyn, y Solem Quartet, y cantorion Caryl Hughes a Paul Carey Jones gyda’r pianydd Wyn Davies, Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a chyfellion, cyn cloi gyda synau atmosfferig Electroacwstig Cymru.
Dathlwn benblwydd y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf yn 75 drwy berfformio’i gerddoriaeth siambr a lleisiol mwyaf adnabyddus ochr yn ochr â chomisiynau newydd gan Mared Emlyn, Guto Pryderi Puw, Jasmin Kent Rodgman a Thomas Whitcombe ynghyd â cherddoriaeth acwsmatig gan Andrew Lewis a Hildegard Westerkamp.
Mae Gŵyl Gerdd Bangor yn gorff elusennol sydd â’i bryd ar gyflwyno’r gerddoriaeth gyfoes ddiweddaraf. Derbynnir unrhyw fath o rodd gyda diolch.