Ers ei sefydlu yn 1934 gyda’r nod o ddiogelu a datblygu’r gelfyddyd o ganu gyda’r tannau, mae Cymdeithas Cerdd Dant Cymru wedi tyfu a datblygu’n gyson,. Uchafbwynt gweithgareddau blynyddol y Gymdeithas yw’r Wyl Gerdd Dant, gwyl undydd a gynhelir bob mis Tachwedd. Cynhelir cyrsiau gosod a chyfeilio cerdd dant bob blwyddyn.