Cartref digidol diwylliant Cymru.

Bubblewrap

Organisation Logo

Label recordio wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Yn gartref i Cotton Wolf, Georgia Ruth, The Gentle Good, HMS Morris, My Name is Ian, Quiet Marauder, Right Hand Left Hand, Sock, Quodega ac Ivan Moult. Ers sefydlu Bubblewrap yn 2009, datblygodd y label i fod yn un o labeli annibynnol mwyaf nodedig Cymru. Ar ôl rhyddhau sawl record dros gyfnod o ddeg mlynedd gyda’r holl recordiau yn ymestyn dros sawl genre, credai Bubblewrap y dylid rhyddhau recordiau hardd o safon ac ansawdd uchel o’n gwlad ni ein hun. Mae hanes Recordiau Bubblewrap wedi’i blethu mewn i hanes albymau sydd wedi derbyn canmoliaeth fawr a derbyn sawl gwobr uchel iawn eu parch. Derbyniodd Gentle Good Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2017 am ei albym ‘Ruins / Adfeilion’, rhoddodd Bubblewrap Boy Azooga ar feinyl am y tro cyntaf erioed gyda Buzzard Buzzard Buzzard a rhoi argraffiad Cymreig o albym ‘Polygondwanaland’ gan King Gizzard and the Lizard Wizard.

Cynnwys