Yn Fyw o’r Ffwrnes: ALFFA
Mae’r band roc a blŵs Cymraeg, Alffa, yn dod â’u brand unigryw o gerddoriaeth i lwyfan y Ffwrnes
Mae Alffa wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr, gan ymddangos yng ngŵyl Gorwelion Horizons yn 2018 – rhaglen sy’n tynnu sylw at y perfformiadau cerddorol Cymreig mwyaf addawol i gymryd rhan yn yr ŵyl flynyddol. Diolch i’r platfform ffrydio Spotify, mae Alffa wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar draws y byd ac wedi cyflawni dros 3 miliwn o ffrydiau ledled y byd – y nifer mwyaf erioed a gofnodwyd ar gyfer band Cymraeg.
Mae’r sioe hon yn rhad ac am ddim, ond os gallwch gyfrannu mewn ffordd fach, a fyddech cystal ag ystyried gwneud rhodd. Bydd unrhyw arian a gawn yn mynd yn syth tuag at gefnogi’r rhaglen yn y dyfodol, sy’n golygu y byddwn ni’n gallu cynnal rhagor o sioeau fel hyn i’ch diddanu ac i gadw ein hartistiaid mewn gwaith. www.tiny.cc/alffa