Cartref digidol diwylliant Cymru.

Theatrau Sir Gâr

Mae Theatrau Sir Gâr yn gasgliad o dair theatr unigryw sydd wedi’u lleoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r grŵp yn cynrychioli rhaglen lewyrchus o gynyrchiadau o ansawdd uchel mewn tri lleoliad gan gynnwys theatr, comedi, opera, dramâu dygn, pantomeim, dawns, darnau newydd, cerddoriaeth sy’n addas i bawb, sioeau teyrnged a rhagor.

Mae’r lleoliadau’n cynnwys Theatr y Ffwrnes, sydd o’r radd flaenaf, yn Llanelli; Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin sef theatr restredig Gradd II hardd; a pherl cudd yn Rhydaman, sef Theatr y Glowyr.  

Cynnwys