Cartref digidol diwylliant Cymru.

This Incredible Life

AR GAEL AR ALW O | AVAILABLE ON DEMAND : 15.10.20 – 09.11.20
*Fersiwn gyda disgrifiad sain ar gael YMA | Audio Described version available HERE

This Incredible Life
gan Alan Harris
Cyfarwyddwyd gan Julia Thomas
Cast: Sharon Morgan a Christopher Elson
Gydag ymddangosiadau gan Richard Elfyn, Scott Gutteridge, Lynn Hunter, Andrew Lennon, Simon Nehan, Elin Phillips a Liane Walters

Mae Mab wedi treulio ei bywyd yn adrodd straeon.
Straeon anhygoel.
Arferai fod yn newyddiadurwraig ryngwladol a ysgrifennai am fywydau pobl.
Fel bachgen ifanc byddai ei nai, Robert, yn hoelio ei sylw ar bob gair a ddywedai.
Nid yw’n gwrando mwyach.
Mewn cyfnod pan fo newyddion ffug o’n cwmpas, a phan fo’r ffin rhwng ffaith a ffuglen yn mynd yn annelwig, a yw’r gwir o bwys mewn gwirionedd?
Mewn byd digidol lle mae cysylltiadau teuluol yn fwy petrus nag erioed, sut mae ailgysylltu â’n hanwyliaid a chreu profiadau newydd cyffredin?
Gwyliwch gomedi’r awdur a’r enillydd gwobr BAFTA Alan Harris, gyda’ch gilydd, yn yr un ystafell neu gyfandiroedd ar wahân, a darganfyddwch o’r newydd sut y gall stori dda ein tynnu’n nes at ein gilydd mewn modd hudol a grymus.
Mae This Incredible Life, sy’n cynnwys doniau creadigol Jorge Lizalde, Richard Barnard, Gemma Green-Hope, Chris James a Ryan Davies, ac sy’n seiliedig ar gynhyrchiad teithiol Canoe Theatre a Theatrau Sir Gâr yn 2018, yn dwyn ynghyd theatr, ffilm, animeiddio a cherddoriaeth wreiddiol i’ch cludo i stori a fydd yn rhoi hwb i’r ysbryd ac yn cynhesu eich calon.

Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Theatrau Sir Gâr.

RHANNWCH