DATGANIAD ARTIST | ARTIST STATEMENT
“Mae’r pandemig wedi fy ngalluogi i gyfleu’r profiadau cyffredin o normalrwydd mewn byd wedi’i ailddiffinio, eiliadau sy’n cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi ar ôl misoedd o gyfyngiadau symud. Ers sawl blwyddyn rwyf wedi bod â diddordeb mewn cyfleu’r hyn sy’n ein gwneud yr hyn ydym, o fewn natur eang amrywiaeth gymdeithasol. Wrth gamu allan o’m byd ynysig i’r amgylchedd newydd hwn, gwyliais gyda diddordeb wrth i bobl brofi eu darn bach o ryddid yn betrusgar a rhyngweithio’n gynnes â’r rhai o’u cwmpas. Wrth wylio’r eiliadau gwerthfawr hynny o lawenydd yn y pethau mwyaf syml, bod yn yr awyr agored, yr amser sydd ar gael i’w dreulio gydag anwyliaid, gwerthfawrogiad o’r byd naturiol o’n cwmpas; fe wnes i sylweddoli ein bod bellach yn byw gydag ymdeimlad newydd o berthyn, pryderon cyffredin a gwell dealltwriaeth o anghenion pobl eraill.”
– Michele Laugharne Perrott
Bydd yr arddangosfa yn lansio ar Ddydd Mercher, 7 Hydref, 7yh. Ewch i wefan Theatrau Sir Gâr i ddarganfod mwy.
Mae’r digwyddiad hwn ar gael yn rhad ac am ddim, ond gallwch gyfrannu at y rhaglen YMA.