Cartref digidol diwylliant Cymru.

Manon Dafydd – Artist Preswyl 2025

Mae Manon Dafydd yn artist a dylunydd graffeg o’r Felinheli. Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai yn 2012, aeth hi ymlaen i raddio gyda BA mewn Dylunio Graffeg o Central Saint Martins, Llundain yn 2015. Ers dychwelyd adref, mae Manon wedi bod yn datblygu ei chrefft tra’n mwynhau gwahanol brofiadau o weithio […]

Jeanette Gray – Artist Preswyl 2025

Mae Jeanette Gray, sy’n wreiddiol o’r Alban ac yn byw bellach yng Nghanolbarth Cymru, yn wehyddwr ac artist sy’n arbenigo mewn defnyddio deunyddiau planhigion gwyllt a gasglwyd yn lleol. Dechreuodd wehyddu yn 2012 ar ôl mynychu ei chwrs basgedwaith cyntaf – “caru ar yr olwg gyntaf”! Yn 2017 cwblhaodd hyfforddiant proffesiynol dwy flynedd mewn basgedwaith […]

Alison Neighbour – Artist Preswyl 2025

Mae Alison yn artist aml-ddisgyblaethol ac enillydd gwobrau sy’n gweithio ar draws perfformiad, gosodiadau ac ymgysylltiad cymdeithasol. Mae ei gwaith yn ceisio ail-gysylltu pobl â’r byd naturiol drwy greu eiliadau defodol, teithiau trochi a gosodiadau rhyngweithiol. Mae’n ail-lunio gofodau ar gyfer perfformiad ac ymgysylltiad cymdeithasol gyda ffocws ar gynaladwyedd. Mae’r berthynas gorfforol a synhwyraidd rhwng […]

Richard Harris – Artist Preswyl 2025

Mae Richard Harris (1954, Dyfnaint) wedi bod yn creu cerfluniau amgylcheddol ers 1976. Wrth astudio yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerloyw, dewisodd weithio yn yr awyr agored, gan adeiladu strwythurau o gerrig a choed a gafwyd yn lleol. Ar ôl ei astudiaethau, treuliodd flwyddyn mewn stiwdio ar Dartmoor, gan ddyfnhau ei gysylltiad â natur. Daeth […]

Huw Jones – Artist Preswyl 2025

Mae Huw Jones yn byw yn Rhoscolyn yn Ynys Môn, ac mae ei waith wedi’i wreiddio yng nghyffro tirluniau Ynys Môn ac Eryri. Mae ei broses greadigol yn dechrau yn yr awyr agored, gan ddal newidiadau byrhoedlog mewn golau, tywydd a thymhorau drwy frasluniau a pheintiadau mewn gouache, acrylic a chyfryngau cymysg. Yn y stiwdio, […]

Rhian Haf – Artist Preswyl 2025

Mae Rhian Haf yn creu gosodiadau a cherfluniau gan ddefnyddio rhinweddau cyferbyniol gwydr fel ffocws i’w gwaith. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang yn y DU a thramor. Preswyliad Crefft 2–16 Awst 2025 Treuliodd Rhian bythefnos ar yr ynys yn edrych ar gysgodion, golau, gorwelion, planhigion ac ati. Crëodd gerflun ymatebol i’r safle: […]

Catrin Menai – Artist Preswyl 2025

Artist yw Catrin Menai sy’n byw rhwng Bethesda a Glasgow. Mae ei gwaith yn edrych at botensial gwrthrychau bob-dydd, ystumiau a llefydd i gyfathrebu naratif. Gan ddefnyddio ffilm, sgwennu a chanfod, ac wedi’i gwreiddio mewn cyfarfyddiadau damweiniol cyn gymaint ag astudiaeth fanwl, mae’n archwilio strategaethau o feddwl gyda’n byd, ac o ystyried gofal a chariad […]

Esyllt Angharad Lewis – Artist Preswyl 2025

Artist o Graig-Cefn-Parc yw Esyllt Angharad Lewis. Mae ei gwaith celf yn chwarae gyda chyfieithu fel cyfrwng esthetaidd. Bydd ei haddasiad o nofel Anthony Shapland ‘Lan Stâr’ (A Room Above a Shop) mas yn y gwanwyn. Mae’n gyd-olygydd ar Gyhoeddiadau’r Stamp, ac enillodd Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod Pontypridd 2024 am ei pherfformiad, Blobus a […]

Sara Evelyn – Artist Preswyl 2025

Mae Sara Evelyn yn artist sain rhyngddisgyblaethol sydd ag ymarfer sy’n ymestyn ledledscenograffeg, cyfansoddi, electronau DIY, adeiladu offerynnau a printio. Mae ei gwaith yn ystyried gofod, materoliaeth, a safle ac yn aml caiff ei greu fel ymateb i elfennau acwstig neu faterol lle neu amgylchedd penodol. Preswyliad Awyr Dywyll gyda William Wyndham 24–31 Mai 2025 […]

William Wyndham – Artist Preswyl 2025

Mae William Wyndham yn arlunydd ac artist rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal â’i gefndir mewn paentio traddodiadol, mae’n creu cerfluniau, perfformiadau, sain a fideo. Drwy’r cyfryngau hyn, mae’n gweithio gyda setiau bychan, technoleg sgrin werdd, electronau DIY, props, gwisgoedd a gwneud mygydau. Mae’n archwilio’n barhaus i ffyrdd newydd o ddod â’r sgiliau hyn ynghyd. Mae’r cyfuniad hwn […]

Joeseph Conran – Artist Preswyl 2025

Preswyliad Celfyddydau Gweledol  10/05/25–24/05/25  Mae Joseph Conran yn artist ac yn strategaethydd ym maes yr amgylchedd. Mae ei ymarfer yn byw yn y gofod rhwng pobl a byd natur, gan gyfeirio’n aml at brosesau naturiol fel ffordd o archwilio dynoliaeth. Yn ei waith artistig a strategol, mae Joseph yn creu gofodau lle gall creadigrwydd ysbrydoli pobl i […]

Cynhyrchiadau UCAN

Mae Cynhyrchiadau UCAN yn elusen perfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n ddall neu sydd ȃ nam golwg, a’u ffrindiau. Rydym yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein rheolaidd i’n haelodau gael cyfle i fod yn greadigol, cael hwyl a gwneud ffrindiau.

Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref

Gwasanaeth celfyddyd a iechyd i bobl hŷn ar draws Sir Gaerfyrddin. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ein partneriaid yn Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac yn eu paru gyda hwylusydd proffesiynol PSU ac artist. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, prosiect Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. https://peoplespeakup.co.uk/creative-home-delivery-service

Kamalagita Hughes – Bridgend

Oedd y prosiect yn treialu gweithdai adrodd straeon rhwng cenedlaethau gan annog dwyieithrwydd a mwynhad o’r Gymraeg gydag amrywiaeth o grwpiau. Yn defnyddio perfformiadau adrodd stori, gweithdai creadigol a thechnegau trawsiaith i feithrin hyder mewn cyfranogwyr o gwmpas defnyddio a mwynhau’r Gymraeg sydd ganddynt eisoes a datblygu geirfa newydd, gyda ffocws penodol ar rieni, dysgwyr […]

Rhaglen People Speak Up – Effaith

Yn ystod Hydref 2023 – Mawrth 2024, derbyniodd PSU grant Creu CCC i ddatblygu’r rhaglen Lles Creadigol yn People Speak Up, canolfan celfyddyd, iechyd a lles Llanelli – amser a gofod i’r gymuned gysylltu’n greadigol a dod o hyd i’w llais trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddydau digidol, celfyddydau gweledol, gwirfoddoli a sgyrsiau […]

P’nawn Arty – Llanelli | Caerfyrddin

16+ People Speak Up, Llanelli  – Pob dydd Mawrth 1pm-3pm Canolfan Byw’n Dda Sir Gaerfyrddin – Pob Dydd Gwener, 1.pm-2.30pm Mae Pnawn Arty yn grŵp celf am ddim i unrhyw un o gwbl. Does dim angen profiad celf blaenorol – bydd ein hwyluso creadigol yn eich tywys trwy ba dasgau bynnag sy’n digwydd yn y […]

Carys Hedd – Sir Benfro

Esgyn – prosiect a fydd yn pwytho’n cymuned Codi Canu â gwaith tecstilio creadigol ynghyd yng Ngogledd Sir Benfro.   Gwnawn hyn drwy ail greu’r Betgwn, rhan o’r wisg draddodiadol Gymreig i’w gwisgo mewn perfformiadau fel Y Fari Lwyd.  Byddwn hefyd yn ymgynghori gyda’r cymunedau beth yn hoffent eu creu allan o ddefnyddiau wedi’u hail gylchu […]

Prosiect Esgyn, Llais y Lle

Mae Esgyn yn brosiect gymunedol sy’n cyfuno gwnïo a chanu Cymraeg i gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac arfer dyddiol o’r iaith. Dan arweiniad Carys-Hedd, mae’n gwahodd cyfranogwyr ledled Aberteifi a gogledd Sir Benfro i ail-greu’r Betgwn traddodiadol gyda’i gilydd—pob un yn ei steil ei hun—mewn gweithdai dan arweiniad gan ddefnyddio deunyddiau lleol ac â phwysigrwydd personol. […]

Esgyn

Mae Esgyn yn brosiect gymunedol sy’n cyfuno gwnïo a chanu Cymraeg i gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac arfer dyddiol o’r iaith. Dan arweiniad Carys-Hedd, mae’n gwahodd cyfranogwyr ledled Aberteifi a gogledd Sir Benfro i ail-greu’r Betgwn traddodiadol gyda’i gilydd—pob un yn ei steil ei hun—mewn gweithdai dan arweiniad gan ddefnyddio deunyddiau lleol ac â phwysigrwydd personol. […]

Pam Common Art Collective

Rydym yn sefydliad dan reolaeth artistiaid sy’n gweithio at lefel llawr gwlad i gefnogi ecosystem o weithgaredd celfyddydol hygyrch yn Nwyrain Caerdydd. Rydym yn gweithio gyda ffurfiau darlledu, print, tyfu, coginio, a bwyta gydag artistiaid a chymunedau.

Biscuits Press

Gwasg risograph wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yw Biscuits Press, yn gweithio gydag artistiaid a chymunedau i greu print hygyrch. Mae wedi’i lleoli yng ngofod cymunedol Pam yn 1a Inverness Place yn Y Rhath, Caerdydd.

Yellow Back Books

Mae Yellow Back Books yn brosiect cydweithredol am lyfrau artistiaid a lluniwyd yn 2015. Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn cymryd ffurf siop lyfrau ac ystafell ddarllen, wedi’i lleoli yn g39. Wedi cymryd ffurf siop lyfrau artistiaid dros dro mewn unedau siopau, ffeiriau celf ac arddangosfeydd, gan gynnwys preswyliad gydag ArcadeCampfa yn 2018, bydd […]

ArcadeCampfa

Mae ArcadeCampfa yn sefydliad dan reolaeth artistiaid sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Rydym yn gweithio gydag artistiaid mewn mannau dinesig a chyhoeddus, yn ogystal â chomisiynu preswylfeydd digidol. Am 14 mlynedd roeddem wedi’n lleoli mewn dwy uned yng Nghanolfan Siopa Arcêd y Frenhines, a aeth i derbynyddiad yn 2023. Rydym yn cydlynu ‘Arcade Studios’ sydd […]

Arolwg Grŵp Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Mynediad a Chynhwysiant DAC

Archwilio sut mae cynhwysiant yn edrych ac yn teimlo i artistiaid anabl o gefndiroedd lleiafrifol, deall rhwystrau presennol, a chyd-greu syniadau i adeiladu amgylcheddau celfyddydol mwy hygyrch. Rhannwch eich barn ar ein harolwg erbyn 07/11/25 yma Bydd y Grŵp Gweithredu yn digwydd ar Zoom ar 19/11/25. Cofrestrwch eich diddordeb yma

Weave | Gwehyddu 2025 Panel: Three next steps for the sector

Cadeirydd: Justine Wheatley, Cadeirydd WAHWN Gyda: Heledd Fychan, MS Sandy Clubb, Swyddog Cenedlaethau’r Dyfodol Anna Howells, Iechyd Cyhoeddus Cymru Nina Ruddle, Prifysgol Wrecsam DUKE AL, Bardd y Gair Llafar, Awdur ac Artist Hip Hip Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru Angela Rogers, WAHWN I gael gwybod mwy am WAHWN ewch i: www.wahwn.cymru

Cocoon: A musical journey through the neonatal intensive care unit

Mae Beatrice Gbevegnon-Roper a Will Roper yn cyflwyno eu hymateb cerddorol i heriau a llawenydd profiad yr Uned Gofal Dwys Newyddenedigol (NICU). Fel cwpl priod a rhieni sydd wedi profi genedigaeth gynamserol eu merch (ar 26 wythnos), mae Cocoon yn adrodd hanes dimensiynau emosiynol a synhwyraidd y daith hon o safbwyntiau mam o liw a […]

Welcome to Weave | Gwehyddu 2025

Clywch gan y canlynol: Angela Rogers – Prif Swyddog Gweithredol, WAHWN Emily Van De Venter – Ymgynghorydd Arweiniol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru I gael gwybod mwy am WAHWN ewch i: www.wahwn.cymru

Lyn Lording-Jones

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau.   Artist y Mis ar gyfer mis Hydref yw’r Artist Gweledol Lyn Lording-Jones, artist peintio, lluniadu a llyfr braslunio ym Mhenmaenmawr, Gogledd Cymru. “Yn wreiddiol o Plymouth, cefais ddiddordeb mawr mewn celf yn ifanc iawn trwy athro ysbrydoledig […]

The City Socials 2025 // Am y gwaith

Ymunwch a ni yn ‘The City Socials’  Dydd Iau 25 Medi  The Canopi, 59-61 Tudor St, Caerdydd CF11 6AD  6:30pm Dysgwch fwy am yr artist, y gwaith, ac archebwch eich tocyn am ddim yma // teamcollectivecymru.org/cy/digwyddiadau/the-city-socials-september-2025 // Tidal City gan Ashley McAvoy a Tracy Harris Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn y dyfodol agos, wedi’i aflonyddu […]

Edrych yn ôl ac ymlaen

Mae arddangosfa sydd i’w gweld yn Llandudno ar hyn o bryd yn cyfuno gwrthrychau o sawl amgueddfa Gymreig a gwaith newydd gan artistiaid cyfoes. Beth mae’r cyfuniad hwn yn ei ddweud wrthym? Dyma ymateb un ymwelydd.   Fel llawer o’m cyd-Gymry, i lawr i’r brifddinas yr es i ganol Mehefin eleni i groesawu cychwyn yr […]

Comisiwn Artistiaid Anabl Corsydd Calon Môn

Mae Partneriaeth Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy’n gweithio i sicrhau dyfodol Corsydd Môn a dathlu eu hanes cyfoethog. Mae rhagor o wybodaeth am Gorsydd Calon Môn ar gael yma. Dyddiad cau: 12 hanner dydd, 29 Awst 2025 Hawdd i Ddeall a BSL ar gael yma. Y Comisiwn Mae Corsydd Calon Môn yn gweithio […]

Cais am Gynigion Comisiwn: Cyfle gwerth £10,000 i Artist Anabl yng Nghymru

Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru Mewn cydweithrediad â phrosiect CELF Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Iau 29 Awst 2025 Hawdd i Ddeall a BSL ar gael yma. Trosolwg Mae Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cynnig comisiwn gwerth £10,000 i artist anabl, b/Byddar neu niwrowahanol […]