Cartref digidol diwylliant Cymru.

Taith Circle of Fifths Tour

Tocynnau ar gael yma

Profiad theatr ymdrochol wedi’i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm a theatr o Butetown Gavin Porter.

Wedi’i chreu gyda chyfuniad o gerddorion ac artistiaid, a straeon bywyd go iawn gan bobl ledled Cymru, mae’r sioe yn cyfuno ffilm, cerddoriaeth a theatr i greu rhaglen ddogfen fyw.

Mae Circle of Fifths yn archwilio sut y gall cerddoriaeth a straeon ein cysylltu mewn cyfnod o alar a cholled – gan ganiatáu eiliad o fyfyrio a dathlu ar y cyd i ni.

Wedi’i chyflwyno gyntaf yn 2022 yng Nghaerdydd, mae Circle of Fifths yn dychwelyd yn hydref 2023 gan deithio’r sioe i leoliadau ledled Cymru ac i Lundain.

19-21/10: Glan yr Afon, Casnewydd

26/10: Ebbw Vale Institute, Glyn Ebwy

28/10: Capel Parc Du, Y Waun

3/11: Small World Theatre, Aberteifi

8/11: Drill Hall, Cas-Gwent

10/11: Hopkinstown Hall, Pontypridd

11/11: Butetown Community Centre, Caerdydd

17-20/1: Brixton House, Llundain

Circle of Fifths | Gavin Porter on working with the collective

Wrth i ni ddechrau ar ymarferion technegol, siaradon ni â Gav i ddysgu rhagor am weithio gyda chydweithfa anhygoel Circle of Fifths. Mae hefyd yn rhannu sut mae’n defnyddio ei brosesau gwneud rhaglenni dogfen i lunio’r perfformiad theatrig hwn.

Yn agor yr wythnos nesa, rydym yn addo y bydd hon yn sioe fydd yn gwneud i chi chwerthin, crio a dal eich anwyliaid ychydig yn agosach.

The Gentle Good – Galarfan

“Mae cymaint i’w ddarllen, ei weld a gwrando arno ar AM mae’n anodd gwybod ble i ddechrau. Fy nghyngor i? Mae unman yn gwbl iawn, a buan iawn y byddwch chi’n cwmpo lawr twll cwningen o ddiwylliant Cymreig rhyfeddol. Fe ddes i o hyd i waith newydd gan artistiaid rydw i’n eu caru eisoes a darganfyddais bobl a phrosiectau arbennig oedd yn newydd i mi mewn chwinc. Gallwch roi eich bys yn gywir ar guriad diwylliannol Cymru dim ond drwy fynd i’r wefan hon. Gwych.”

Ewch i weld DEWIS The Gentle Good isod nawr!

HMS Morris – Balls

Rhybudd: mae’r fideo yma’n cynnwys goleuadau’n fflachio sydd efallai ddim yn ddiogel ar gyfer pobl sydd gan epilepsi oleusensitif

Yn syml reit, neges y drydedd sengl oddi ar albwm newydd HMS ‘Dollar Lizard Money Zombie’ yw: ‘wrth gwrs fod bywyd hunan-gyflogedig ar brydiau’n teimlo’n frawychus o ansefydlog a’n ych-a-fi o hunan-hyrwyddol, ond yn y pendraw cofia fod gen ti ffrindiau sy’n dy gefnogi di, llu o freintiau sy’n hanu o amseriad a lleoliad dy enedigaeth, a does dim ystyr gwirioneddol i’r bydysawd beth bynnag, felly waeth i ti jyst ymroi i’r gwaith o dy flaen a mynd amdani fel cath i gythraul.’

Cynhyrchwyd gan HMS Morris ac Orchard Media
Ffilmio a golygu – Trigger Happy Creative
Cynorthyydd Cynhyrchu – Maisy Williams
Lleoliad – Bedwas Gymnastics Centre
Gwisgoedd a cholur- Heledd Watkins

Starring:
HMS Morris – Heledd, Sam, Billy a Iestyn.
Katie Hall
Lewys Siencyn
Elin Parisa Fouladi
Owain Jones
Jac Evans
Iwan Williams
Gruffydd Parry
+ gwestai arbennig iawn CARYL PARRY JONES
Diolch arbennig i llaw chwith Katie.

WELSH WHISPERER

Cerddoriaeth fyw am ddim yn y bar gyda’r canwr gomedïwr Welsh Whisperer. Rhan o gynllun Talent mewn Tafarn gan S4C/Yr Egin ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 

(Mercher) 8:00 pm – 10:00 pm 

27/09/2023

Lansiad Blodeugerdd 2020

Sgwrs rhwng Ifor ap Glyn a golygyddion y gyfrol ‘Dweud y drefn pan nad oes trefn: blodeugerdd 2020’, Grug Muse ac Iestyn Tyne.

Prynwch y flodeugerdd yma!

Seiniau Stampus 1: Ffosfforws 1 gyda Ciarán Eynon

Podlediad arbennig i ddathlu lansio rhifyn cyntaf erioed Ffosfforws, cyfnodolyn newydd Cyhoeddiadau’r Stamp sy’n llwyfan i farddoniaeth o bob math. Mae Grug a Iestyn sgwrsio efo Ciarán am gynnwys y rhifyn, taith Ciarán fel sgwennwr, a sawl peth difyr arall. Mi gawn ni hefyd glywed cerddi newydd sbon sydd wedi eu cyhoeddi yn Ffosfforws gan Sion Tomos Owen, Manon Wynn Davies ac Alaw Tomos.

Rhybudd cynnwys: Ceir cyfeiriadau yn y rhifyn hwn at gerddi sy’n trafod trais a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.

Seiniau Stampus [o’r archif]: 24:24 gyda Leusa Llewelyn

Sgwrs o Hydref 2020 wrth i Leusa Llywelyn o Llenyddiaeth Cymru ac Iestyn Tyne & Esyllt Lewis o’r Stamp ddod ynghyd i drafod #Her24Awr ar ddiwedd y prosiect.

Cyfrannwyr #Her24Awr oedd: Beth Celyn, Dafydd Reeves, Dylan Huw, Eadyth Crawford, Elan Elidyr, Elen Gwenllian Hughes, Esyllt Lewis, Ffion Morgan, Ffion Pritchard, Gareth Evans-Jones, Gwenllian Spink, Gwenno Llwyd Till, Iestyn Tyne, John G. Rowlands, Lauren Connelly, Osian Meilir, Melissa Rodrigues, Rufus Mufasa, Ruth Lloyd Owen, Rhiannon M. Williams, Rhys Aneurin, Sara Louise Wheeler, Sioned Medi Evans, Steffan Dafydd a Tess Wood.

Bob blwyddyn ers 2012 ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth bu Llenyddiaeth Cymru yn herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Yn 2020, cafwyd newid cyfeiriad wrth i Llenyddiaeth Cymru gydweithio â’r Stamp i gynnal rhywbeth ychydig yn wahanol. Dan arweiniad golygyddion Y Stamp, roedd Her 24 x 24 yn dwyn ynghyd 24 artist am 24 awr.

Roedd yr artistiaid yn ffurfio cadwyn greadigol, gan ddechrau am hanner dydd ar 1 Hydref a gorffen am hanner dydd ar yr 2 Hydref. Roedd gan bob artist awr yr un i ymateb i waith yr artist blaenorol mewn unrhyw fodd creadigol, gyda’r gwaith gorffenedig yn cael ei rannu ar y we. Mae’r holl gynnyrch yn dal i fod ar gael draw ar sianel AM Y Stamp: https://amam.cymru/ystampus

Seiniau Stampus 2: merch y llyn a Stafelloedd Amhenodol o Ŵyl Geiriau Wrecsam

Darlleniadau estynedig o merch y llyn gan Grug Muse, a Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne, dwy o’r cyfrolau sydd ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Recordiwyd gyda chynulleidfa fyw yn Nhŷ Pawb fel rhan o Ŵyl Geiriau Wrecsam ar 23 Ebrill 2022.

Gyda diolch i Dylan Hughes a Gŵyl Geiriau Wrecsam am y gwahoddiad.

Rhybudd cynnwys: Ceir darlleniadau yn y rhifyn hwn o gerddi sy’n trafod galar a thrais, a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.

Seiniau Stampus 3: Ffosfforws 2 gyda Mari Elen, Buddug Roberts ac Osian Wynn Davies

Podlediad a recordiwyd yn fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, wrth i ni lansio ail rifyn Ffosfforws, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp. Sgwrs yn gyntaf rhwng Iestyn a Mari Elen, golygydd gwadd y rhifyn, am y profiad o guradu’r casgliad a rhai uchafbwyntiau personol o blith y cerddi; cyn i Buddug Roberts ac Osian Wynn Davies ymuno gyda’r panel i ddarllen a thrafod eu gwaith.

Gyda diolch arbennig i Aled Jones o gwmni Y Pod am sicrhau fod y recordiad hwn ar gael i’w ddefnyddio.

Rhybudd cynnwys: Ceir darlleniadau a thrafodaethau yn y rhifyn hwn sy’n cyfeirio at golli plentyn.

Cwrdd Cymraeg – Mis Medi

Cwrdd, gyda Sara Louise Wheeler

Medi 4

16:00 

Cofrestrwch yma

Mae ein sesiwn Cwrdd nesaf yn benodol ar gyfer aelodau DAC sy’n medru’r Gymraeg neu’n awyddus i’w dysgu / ymwneud â hi mewn rhyw ffordd drwy eu gwaith celf! Byddwn ni’n siarad gyda Sara Louise Wheeler.

Byddwn ni’n ystyried lle y Gymraeg o fewn ymarfer creadigol ac i ba raddau mae iaith yn dylanwadu ar ein hymarfer.

Bydd y Cwrdd Cymraeg yn digwydd ar Ddydd Llun, y Medi 4 am 4pm ar Zoom, gyda BSL a chapsiynau caeedig ar gael fel yr arfer. Os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad eraill rhowch wybod i ni! There will also be translation if people who are not as fluent want to make use of that!

Dyma gyfle i ni gwrdd i drafod ein ymarfer, proses, syniadau a’n breuddwydion drwy gyfrwng y Gymraeg mewn modd hwyliog ac anffurfiol. Gadewch i ni groes-beillio!

Pennod 22 – Calon Oer dan Fron o Fraw

Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o ddelweddaeth y farwnad? A yw’n mynd yn rhy bell i ddweud bod Gruffydd yn cymharu Llywelyn â nab llai na Iesu Grist ei hun? Ac a yw gwedd ar hanes y bardd hwn – ffaith hanesyddol sy’n syfrdanol o wahanol i’r modd y mae llawer o Gymry yn canfod y berthynas rhwng Gruffydd a Llywelyn – hefyd yn fodd i egluro angerdd anghyffredin y gerdd bwerus hon?

Taith The Gentle Good Tour

Cyhoeddi’r ail daith o gylchdaith newydd PYST a’r Mentrau Iaith

4.10 – Canolfan Dylan Thomas – Abertawe / Swansea (Angharad Jenkins)
5.10 – Yr Hen Farchnad – Llandeilo (Bwca)
6.10 – Y Cwtsh – Pontyberem (Lowri Evans)
13.10 – Clwb y Bont – Pontypridd (Y Dail)
14.10 – Memo – Y Bari / Barry (Parisa Fouladi)
15.10 – Tyn y Tar Tavern – Baglan (Melda Lois)
19.10 – Gwesty Pen y Bryn Hotel – Llanfairfechan (Eve Goodman)
20.10 – Ysgol Gymraeg y Trallwng – Y Trallwng / Welshpool (Iwan Huws)
21.10 – Clwb Criced – Yr Wyddgrug / Mold (Gwilym Bowen Rhys)
22.10 – Tafarn Y Fic – Llithfaen (Gwyneth Glyn a Twm Morys)

CYNGERDD LANSIO ORGAN SOAR | SOAR ORGAN LAUNCH CONCERT

Mae’r noson arbennig wedi cyrraedd. Mae Organ unigryw Theatr Soar wedi deffro. Yn dilyn taith hir adnewyddiad yr organ, mae’r amser wedi dod i ddathlu ein trysoMae’r noson arbennig wedi cyrraedd. Mae Organ unigryw Theatr Soar wedi deffro. Yn dilyn taith hir adnewyddiad yr organ, mae’r amser wedi dod i ddathlu ein tryso#donnaedwardsr cymunedol. Byddwn […]

Cyfrannu/Donate

Sefydlwyd y clwb + yn 2017 i ymateb i’r angen o fewn cymuned LGBTQ+.

Cyfrannwch yma

Ymaelodwch â DAC

Mae DAC yn gweithredu fel sefydliad aelodaeth gyda’r nod allweddol o gefnogi artistiaid a phobl greadigol anabl a Byddar i ffynnu yn y diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn annog sefydliadau celfyddydol i ymuno â ni i helpu i weithio tuag at sector gelfyddydol mwy myfyriol a chynhwysol.

Ymaelodwch yma

Eisteddfod Genedlaethol 2023

Rydym wedi cael wythnos gwerth chweil yn yr Eisteddfod. Mae hi wedi bod yn wythnos lawn cymdeithasu, hwyl a chwerthin. Diolch i bob person sydd wedi ein cefnogi drwy roddion.

Mae wedi galluogi i ni fynd i’r eisteddfod eleni. Rydym yn diolch i chi o waelod ein calonnau am y profiad bythgofiadwy hwn.

Caru Darllen: Awduron Pen Llŷn

Cyfle i wrando eto ar ambell sgwrs gyda rhai o awduron Pen Llŷn, yn cynnwys Llyr Titus, Gwenllian Ellis, Ffion Enlli, Casia Wiliam, Aled Hughes, Mared Llywelyn a Llio Maddocks.

Cymuned ar-lein Egin | Egin Online Community

Un o’n nodau ydy adeiladu cymuned ar draws Cymru – grwpiau lleol sy’n cysylltu â’i gilydd i rannu eu gweledigaethau, eu syniadau a’r gwersi mae nhw wedi eu dysgu ar hyd y ffordd.

Fel rhan o’r Gymuned Ar-Lein, cewch ddysgu mwy am brosiectau eich gilydd, cael eich hysbrydoli gan ddarganfod beth arall sy’n digwydd o gwmpas Cymru, trafod problemau ac atebion, a chwrdd â phobl yn eich ardal. Bydd Cymuned Ar-lein Egin hefyd yn caniatáu ichi rannu’ch lluniau a’ch fideos, creu digwyddiadau a gwahodd eraill, darganfod pa brosiectau a sefydliadau sy’n digwydd o’ch cwmpas, a dechrau trafodaethau newydd am bynciau sy’n agos at eich calon.

Hyd yn oed os nad ydych yn cael eich cefnogi gan y rhaglen Egin, gallwch wneud cais i ymuno â’r Gymuned Ar-lein Egin a chymryd rhan mewn trafodaethau trwy glicio yma a gofyn am ymuno – cewch eich derbyn os ydych yng Nghymru neu’n agos, ac os ydy eich gwaith neu ddiddordebau yn cyd-fynd â newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae’r platfform ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pennod 21 – Dyrchafu, Caru ac Ymladd: Barddoniaeth yn gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu

Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar rôl a hunaniaeth y bardd ei hun. Dychmygwn fod un ohonynt, Gwalchmai ap Meilyr Brydydd, yn strytio’n frolgar fel rapiwr ar lwyfan, a thrafod barddoniaeth gan fab Owain Gwynedd, Hywel, a’i ddiwedd alaethus ef.

Community Engagement | Amgysylltu-ar-gymuned

Mae cynulleidfaoedd a chymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Yn y ffilm hon, mae Gemma Hicks, Uwch Gynhyrchydd Ymgysylltu a’r Gymuned, a Ffion Wyn Morris, Cynhyrchydd Ymgysylltu a’r Gymuned yn cyflwyno’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda’n cymunedau.

Kidstown

Mae’n amser chwarae.

Gwahoddir plant 6-11 oed i Dreantur gan yr artistiaid Nigel a Louise gyda’r dylunydd Amy Pitt.

Gêm fawr ydy Treantur, a’r plant eu hunain sy’n ei dyfeisio hi.

Ar ôl cael pasbort, bydd y plant yn cael mynediad i ardal chwarae fawr yn yr awyr agored. Bydd pethau yno i chwarae â nhw, i’w hadeiladu ac i’w gwisgo. Bydd cynorthwywyr wrth law i helpu’r plant i wireddu’u dychymyg.

Gwahoddir oedolion i gael hoe, i ymlacio ac i wrando ar y newyddion am yr hyn sy’n digwydd y tu mewn.

Ymunwch â ni yn Treantur:

26-29 Gorffennaf, Y Drenewydd

Y tu allan i Oriel Davies, Y Parc, Y Drenewydd, Powys SY16 2NZ

5-12 Awst, Eisteddfod Genedlaethol Cymru,

Ar y maes, Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd LL53 6DW

18-21 Awst, Glyn Ebwy
Clwb Pêl-droed Beaufort Colts, Teras Brynteg, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent NP23 6NE


Hygyrchedd

Rydyn ni’n cynnig Saesneg gyda chymorth arwyddion, darlunwyr byw, cymorth cymorthyddion radio, sesiynau hamddenol, a theithiau cyffwrdd. Mae gan bob safle fynediad heb risiau ac mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Darganfyddwch fwy am bob lleoliad isod.

Cyfarfod Rhwydwaith Medi | September Network Meeting

21 Medi
10—11.30am

Y mis hwn rydym ni’n falch i lansio Sut Mae’n Mynd? #2.

Diolch i gyllid gan Sefydliad Baring, rydym ni’n trefnu rhaglen 2 flynedd i ddatblygu a chefnogi llesiant artistiaid ledled Cymru.

Bydd siaradwyr gwadd yn ymuno â ni sy’n rhan o’r tîm a fydd yn cyflwyno ac yn gwerthuso’r rhaglen.

Cofrestrwch yma

Capel Carmel

Dyma brosiect cymunedol sydd am adfywio’r safle lle saif Capel Carmel a hen Siop Plas i fod yn hwb gymdeithasol fywiog unwaith eto. Ein nod yw adnewydduo’r capel, tŷ, siop a’r ardd i greu adnodd treftadaeth cynaliadwy, a gweld bywyd unwaith eto yn y ‘capel bach gwyngalchog ym mhellafoedd hen wlad Llŷn’ a welodd Cynan. 

Mae’n anhygoel bod cymaint o gyfoeth hanesyddol a diwylliannol amrywiol yn perthyn i filltir sgwâr Plas Carmel. Ein gweledigaeth yw i gasglu a gwarchod y storiau hyn a’u pasio nhw ymlaen i’r cenedlaethau ifanc, tra’n gwneud lle i rhai newydd. Yma, rydym yn pontio gwerth canrifoedd o hanes a straeon lleol gyda’n byd ni heddiw, a’r rheiny yn rhan annatod o fywydau’r trigolion lleol. O lwybrau’r Seintiau a’r Pererinion i lwybrau Dic Aberdaron, dewch ar daith i Blas Carmel, ble mae tirwedd a daeareg yn cwrdd â hud a chwedlau lleol. Ein gobaith ydi y bydd straeon Plas Carmel yn aros efo chi am amser hir, os nad am byth.

Clwb Cerdded

Teithiau cerdded wythnosol (os yw’r tywydd yn caniatau) yn yr ardal, gydag anhawster a phellter yn amrywio. I weld y rhaglen ddiweddaraf, gweler y poster yn Ty’n Llan, ar ein tudalen Facebook neu cysylltwch â Meinir Williams ar 07717 488177. Mae’r teithiau fel arfer yn cychwyn yn Ty’n Llan a naill ai’n cwblhau cylchdaith oddi yno, neu gyrru pellter byr i’r man cychwyn, lle bynnag fo hynny! Esgidiau a dillad addas yn hanfodol – croeso i bawb!

Dydd Gwener | 9:30-11:00

Clwb Cinio Pobl Hŷn

Bydd ein clwb cinio i bobl hŷn yn cychwyn ar Fedi 21 a chyn hir byddwn yn rhyddhau manylion am y fwydlen a sut i archebu ymlaen llaw. Hoffwn ddiolch i’n harianwyr Mantell Gwynedd a Sefydliad Cymunedol Cymru am y grantiau sydd yn ein galluogi ni i gynnig pryd 2 gwrs am bris gostyngedig i bobl oedran 60+.

Dydd Mercher | 12:00 – 14:30

Ymarfer Corff Cadair (Neu Sefyll)

Dewch i gadw’n ystwyth mewn partneriaeth a Dawns i Bawb. £2 y sesiwn, gan gynnwys paned ar y diwedd. Addas i bob oed a gallu. Llefydd cyfyngedig i 12 person felly rhaid archebu ymlaen llaw. Cysylltwch â post@dawnsibawb.org / 01286 685220 i gofrestru.

Dydd Mercher | 10:00 – 10:45

Lôn i Les

Dewch i ymuno â chriw hwyliog Lôn i Les. Cewch gyfle i fynychu digwyddiadau a gweithgareddau ar draws Benrhyn Llŷn a chael y cyfle i gymdeithasu dros baned a chacen. Gall O Ddrws i Ddrws eich cludo i’r digwyddiad neu weithgaredd a mynd a chi adref.

Ydach chi’n adnabod rhywun fyddai’n hoffi ymuno gyda’r grŵp? Rhywun sydd heb fod allan es tro byd, rhywun sydd wyrach yn unig? Mae croeso cynnes a llond trol o hwyl i gael gyda chriw Lôn i Les. Mae ychydig o gymdeithas yn gwneud lles i bawb!

Cysylltwch â Lois am fwy o fanylion 07867 531 248 neu lois@oddrwsiddrws.cymru

Gwefryl

Car trydan i’w rannu gyda trigolion Llŷn ydy Gwefryl. Cofrestrwch â chlwb ceir O Ddrws I Ddrws er mwyn defnyddio ein Hyundai Kona neu ennill arian drwy rannu’ch car chi pan nad ydych yn ei ddefnyddio. O ddwy awr i ddau ddiwrnod, rhatach na prynu car eich hyn.

Eich car chi ddim ar gael am pa bynnag reswm? Defnyddiwch ein car ni!

Cysylltwch â Wil Parry ar:

wil@oddrwsiddrws.cymru
neu 07500 894 331

Rydym yn defnyddio Karshare i weinyddu’r gwasanaeth, byddwn yn eich cofrestru ar eu gwefan ac yn talu unrhyw flaendal. Bydd angen lawr-lwytho eu ap fydd hefyd yn oriad i’r car.

Gallwch gofrestru ar Karshare ar eich liwt eich hyn hefyd.

Gardd Bywyd Gwyllt Cymunedol Tanygrisiau

Mae prosiect cyffrous newydd yn dod i Danygrisiau…un lle gall y gymuned gyfan gymryd rhan i drawsnewid darn o dir segur ac sydd wedi gordyfu yn rhywle hardd, ymlaciol a gwych ar gyfer bywyd gwyllt! Dilynwch ni yma am ddiweddariadau a lluniau ar gynnydd!

Yr Amgylchedd

Mae ein gwaith amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac i bobl, ac felly mae’n amrywiol iawn! Dros Gaeaf, rydym yn gwneud llawer o waith yn rheoli’r rhywogaeth ymledol Rhododendron Ponticum. Yn ystod y Gwanwyn a’r Haf rydym yn canolbwyntio ar reoli lledaeniad Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam) a Llysiau’r Dial (Japanese Knotweed), yn enwedig ar hyd ein hafonydd. Mae’r planhigion estron hyn yn fygythiad ofnadwy i’n bywyd gwyllt brodorol, ac rydym yn rheoli’r rhywogaethau hyn mewn gwahanol ardaloedd i’w hatal rhag dod yn broblem rhy fawr.

Mae maes arall o’n gwaith amgylcheddol yn cynnwys plannu coed. Ein nod yma nid yn unig yw creu mwy o goetir yn y Fro, ond hefyd fel ein hymateb i’r argyfwng newid hinsawdd. Rydym wedi plannu perllan gymunedol, yn ogystal â choed ffrwythau a dolydd blodau gwyllt yn yr holl ysgolion lleol, ac rydym yn bwriadu cychwyn meithrinfa goed i dyfu coed o darddiad lleol, y gellir eu dosbarthu wedyn i drigolion a phrosiectau eraill sydd eisiau eu plannu.

Rydym yn parhau i ddatblygu mannau gwyrdd a gerddi cymunedol ar draws yr ardal, ac wedi sefydlu sawl safle hynod lwyddiannus gyda phartneriaid gwahanol, o gymdeithasau tai i ysgolion!

Rydym yn gweithio gyda grwpiau ag unigolion o bob oed i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, llygredd, a sut i fwynhau a gofalu am natur. Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ddarn o’r prosiectau cymunedol hyn, defnyddiwch y botwm ‘cysylltwch â ni’ isod i ddweud wrthym beth yr hoffech ei wneud!

Cysylltwch â ni

Gig Daf Owain

Cerddoriaeth fyw am ddim gyda’r canwr Cymraeg Dafydd Owain. Perfformiad yn y prynhawn – amser i’w gadarnhau!

26/08

15:00

Buddsoddi / Investing

BUDDSODDI


Rydym yn gwerthfawrogi’r ffydd a’r ymddiriedaeth mae pobl wedi ei ddangos ers lansio’r ymgyrch i godi arian i droi breuddwyd o sefydlu llety mewn perchnogaeth cymunedol yn realiti.

Mae’r llety bellach wedi ei adnewyddu a phob llofft yn derbyn gwesteion. Serch hynny menter gymdeithasol yw Llety Arall ac rydym yn parhau i fod angen buddsoddiad i sicrhau bod hon yn fenter hir dymor fydd yn y pendraw yn troi’n fusnes nid er elw llewyrchus, all gyfrannu a rhoi’n ôl i gymuned Caernarfon.

Mae dal modd prynu cyfranddaliad £250 i fod â rhan yn y fenter. Golyga hyn bod gennych un bleidlais mewn cyfarfod cyffredinol; gallwch brynu mwy nag un cyfranddaliad ond un bleidlais fydd i bob aelod. Cysylltwch drwy ebost post@lletyarall.org neu ffoniwch 01286 662907.

Rydym wedi sôn o’r cychwyn ein bod yn awyddus i sicrhau bod pawb yn gallu bod yn rhan o’r fenter ac felly mae posib buddsoddi trwy archeb banc unai £10 y mis am 25 wythnos neu £25 am 10 wythnos.

Gwyliwch y ffilm a helpodd ni gyrraedd ein targed cychwynnol. Mae negeseuon yr un mor berthnasol heddiw.

Hanes Y Tŵr

Mae gan Bwllheli hanes cyfoethog a chymuned glos. Tyfodd y dref o amgylch y diwydiannau adeiladu llongau a physgota a’r chwarel gwenithfaen. Gyda phoblogaeth o tua 4,000 o bobl, mae’r dref yn cynnig traethau a tirwedd hardd, a diwylliant lleol bywiog. Mae’n croesawu llif cyson o ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn.

Adeiladwyd Y Tŵr yn 1875 ac mae’n sefyll mewn lleoliad canolog ac amlwg ar y stryd fawr. Bu’r adeilad unwaith yn ganolbwynt prysur – gwesty, bwyty, bar ac ystafell i gynnal digwyddiadau cymdeithasol. Crewyd atgofion a datblygwyd syniadau cyffrous yn yr adeilad hwn. Credwn y gallai Y Tŵr unwaith eto ddod yn ganolbwynt cymunedol bywiog a fyddai’n rhoi bywyd newydd i’r dref ac yn helpu i adfer y stryd fawr.

Llety Arall: Ein Stori

Ein Stori

Cymdeithas Budd Cymunedol yw ‘Llety Arall Cyf’, sy’n eiddo i’w haelodau.

Sefydlwyd Llety Arall yn 2018 yn fenter gymunedol gyda’r nod o ddatblygu llety o safon mewn hen adeilad gwag yng nghanol Caernarfon. Roeddem am gynnig profiad Cymreig a Chymraeg a’r nod heddiw, fel bryd hynny yw gweithredu mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfeillgar, gan wneud yn fawr o fod yn rhan o economi lleol.

Yr hyn sy’n bwysig i ni…

  • Iaith a diwylliant Cymru
  • Amgylchedd a chynaladwyedd
  • Economi leol
  • Cymuned

Clwb Plant / Kids Club

Ein prosiect newydd ar gyfer 2021 wedi ei ariannu gan Chwaraeon Cymru yw’r clwb plant sydd newydd ei ffurfio yn Antur Stiniog. Fe’i sefydlwyd yn y Parc Beicio i roi cyfle i blant lleol bro Ffestiniog ddefnyddio a mwynhau’r hyn y mae Antur Stiniog wedi’i greu ar y safle yma yn y parc beicio. Rhan fawr o hyn yw datblygu eu sgiliau beicio mewn amgylchedd dysgu diogel a strwythuredig a darparu sesiynau hyfforddi o ansawdd uchel. Y nod yn y pen draw yw meithrin beiciwr mynydd lawr allt o’r ardal allai fod yn bencampwr y byd yn y dyfodol.

Fel Cwmni cymunedol lleol, mae hwn yn gyfle gwych i gynnig cyfle nid yn unig i bobl ifanc brofi a datblygu eu sgiliau beicio ond hefyd i greu cyfeillgarwch, herio eu hunain a magu hyder. 



Dysgwch fwy yma