SPAN Arts presents “A Child’s Christmas in Wales”
Mae Celfyddydau SPAN yn cyflwyno “Nadolig Plentyn yng Nghymru” ar blatfform arloesol “Theatr Soffa”! Mae cymunedau ledled Sir Benfro wedi bod yn gweithio’n galed tuag at berfformiadau o stori Nadolig annwyl Dylan Thomas allwch wylio o gysur eich cartref eich hun ym mis Rhagfyr 2021. Cynhaliwyd ymarferion dros alwadau fideo fel rhan o brosiect arloesol […]
Vaine Magazine

Mae VAINE yn gylchgrawn ac yn blatfform digidol gafodd ei sefydlu yn 2020 i roi llais i egin awduron ac ysgrifenwyr. Wedi’i selio yng Nghymru, mae’n cyhoeddi rhifynnau thematig bob chwarter o’r flwyddyn, yn cynnwys casgliad o farddoniaeth, ffuglen fer, ysgrifennu a chelf gan artistiaid ac ysgrifenwyr newydd ledled y byd, ac mae ar gael […]
‘Cribo’r Dragon’s Back’: Enillydd Gwobr Ysgrif 2021 O’r Pedwar Gwynt

-gan Rebecca Thomas
Rebecca Thomas yw enillydd cyntaf ein cystadleuaeth ysgrif. Mae’n fraint cyhoeddi ei hysgrif fuddugol yn Rhifyn Gaeaf 2021. Yn wobr bydd yn derbyn £300 ynghyd â phreswyliad i weithio ar ysgrif bellach.
Mae Rebecca Thomas yn gymrawd ôl-ddoethuraethol yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Bangor. Canolbwyntia ei hymchwil ar hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Cyhoeddir ei chyfrol History and Identity in Early Medieval Wales yng ngwanwyn 2022. Bydd ei nofel hanesyddol ganoloesol i oedolion ifanc yn cael ei chyhoeddi yn 2022 gan Gwasg Carreg Gwalch. Hon yw ei hysgrif gyhoeddiedig gyntaf.
Llun: Y Grib (Hawlfraint: Rebecca Thomas)
Inhale / Exile – Abeer Ameer (Seren)

Shara Atashi hails a vigorous poetry collection, epic in proportions and in theme: the history of war-torn Iraq
Patriarchaeth

Rydym yn colectif ffeministaidd annibynnol bach sy’n cael ei redeg gan artistiaid, eiriolwyr ac ysgrifenwyr o Gymru. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod byd cyhoeddi a chreadigrwydd Cymraeg yn ddiderfyn, a bod gofodau yn cael eu cynnal ar gyfer lleisiau newydd a sgyrsiau heriol.
Mae hwn yn gyhoeddiad radical a chydweithredol, ar ffurf cyfres o zines dwyieithog pob un â’i thema ei hun. Mae ein gwaith ffeministaidd mewn undod â chroestoriadoldeb, traws-gynhwysiant, diddymiad a gwrth-hiliaeth ac wedi ymrwymo iddo, gan flaenoriaethu gofal ar y cyd. Yn ymroddedig i addysgeg ryddfrydol, mae ethos Patriarchaeth yn cynnwys cymuned, cyfiawnder a llawenydd.
Patriarchaeth

zine dwyieithog ffeministaidd sydd â dyhead am newid / bilingual feminist zine aspiring for change // celf, art, essays, traethodau, poetry, barddoniaeth, playlists, twitter threads… all in one place / i gyd mewn un lle.
Rhowch lyfr yn anrheg
Chwilio am anrhegion Nadolig?
Dyma ambell lyfr a fydd yn siŵr o blesio plant a phobl ifanc o bob oed.
Y Gwynt Braf gan Gwyn Parry
Y Gwynt Braf gan Gwyn Parry, dilyniant o straeon atgofus, rhannol hunangofiannol, yw Llyfr y Mis. Portread cynnes o berthynas mam a mab dros ugain mlynedd a darlun o gymdeithas wledig sy’n prysur ddiflannu.
The must-have Spanish cookbook of the Year

Perfect for hardcore foodies and home cooks alike, ‘Bar 44 Tapas y Copas’ is packed with over 100 out of this world recipes which elevate Spanish cuisine to exciting new heights. Chicken sobrassada and spiced yoghurt, beetroot gazpacho, tuna tartare with apple ajo blanco, lamb empanada, strawberry and cava sorbet and pear and olive oil cake are just some of the dishes you can try at home. There’s even a chapter dedicated to sherry and Spanish wines with some fantastic cocktails mixed in for good measure. What more could you want?
Rownd 1, Gornest 3 – Prifysgol Bangor v Preseli v Plasmawr

Croeso i ornest rhif 3 Talwrn yr Ifanc! Ysgol y Preseli, Prifysgol Bangor neu Ysgol Plasmawr fydd yn mynd â hi heno tybed?!
Rownd 1, Gornest 2 – Llanhari v Syr Hugh Owen

Croeso i ornest rhif 2 Talwrn yr Ifanc! Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Gyfun Llanhari fydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd heno yn Nhalwrn yr Ifanc – Y Gogledd yn erbyn y De! Ymunwch gyda ni fory (12/11) am 7yh ar gyfer yr ornest olaf rhwng Prifysgol Bangor, Preseli a Phlasmawr
Talwrn yr Ifanc 2021 – Rownd 1

Dros dymor yr Hydref eto eleni, mi fydd 8 tîm o feirdd ifanc rhwng 14 a 25 yn cystadlu yn Nhalwrn yr Ifanc.
Mewn partneriaeth a BBC Radio Cymru a Llenyddiaeth Cymru, bydd y beirdd ifanc ar draws Cymru yn gorfod cwblhau cyfres o dasgau arbennig wedi’i gosod gan ein Meuryn, Gruffudd Owen.
Byddant yn derbyn sesiynau mentora gan Feirdd ifanc Cymru, er mwyn ymateb i’w tasgau, ac ychwanegwyd un her ychwanegol eleni, sef Tasg ar y Pryd, cwblhau llinell olaf Limrig.
Mi fydd y rowndiau cyntaf yn cael ei darlledu ar AM y 9, 10 a 11eg o Dachwedd 2021.
Rownd 1, Gornest 1 – Glan Clwyd v Cwm Rhondda v Bro Pedr
Croeso i ornest rhif 1 heno gyda Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Cwm Rhondda ac Ysgol Bro Pedr fydd wrthi yn talyrna heno, ond pwy fydd yn mynd a hi?!
Newid byd: Ar drothwy COP26 yn Glasgow

– R Gareth Wyn Jones
Ar drothwy uwchgynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26 yn Glasgow, bu O’r Pedwar Gwynt yn sgwrsio ag R Gareth Wyn Jones, awdur Energy, The Great Driver (2019), am yr argyfwng ynni, dad-dyfiant a chymunedau iwtopaidd. Dyma ran gyntaf y sgwrs.
Talwrn Yr Ifanc 21

Mi fydd rowndiau cyntaf Talwrn yr Ifanc Urdd Gobaith Cymru yn cael eu darlledu ar AM ar 9+10+11 o Dachwedd ar sianel yr Urdd!
Bydd y rownd derfynol ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru Rhagfyr 15
Cyhoeddi Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa ar gyfer 2021-22

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Silff Lyfrau ar gyfer 2021-22, sef detholiad o lenyddiaeth gan awduron o Gymru a argymhellir gan y Gyfnewidfa i gyhoeddwyr ar gyfer cyhoeddi mewn cyfieithiad.
Ein Stori –Lleisiau cyhoeddi heddiw
I nodi’n pen-blwydd yn 60, comisiynwyd dwy ffilm fer, Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw ac Our Story – Publishing voices today.
Mae Ein Stori – lleisiau cyhoeddi heddiw yn ffilm fer sy’n dathlu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Trwy leisiau Manon Steffan Ros, Jon Gower, Myrddin ap Dafydd ac eraill, mae’n archwilio cyfraniad y Cyngor Llyfrau dros y 60 mlynedd diwethaf, ac yn edrych ymlaen tuag at heriau a chyfleoedd y dyfodol.
Gwobr Mary Vaughan Jones

Anrhydeddu cyfraniad oes Menna Lloyd Williams gyda Gwobr Mary Vaughan Jones.
Rydym yn falch o anrhydeddu cyfraniad oes Menna Lloyd Williams wrth gyflwyno Gwobr Mary Vaughan Jones eleni.
Cyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, i berson a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.
Nos Fawrth, 2 Tachwedd 2021 am 19:00 edrychwn ymlaen at rannu digwyddiad digidol a fydd yn dathlu cyfraniad arbennig Menna Lloyd Williams i lyfrau plant.
Cyhoeddi ‘O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60’

Cyhoeddir O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60 heddiw i nodi pen-blwydd y sefydliad.
Mae’r gyfrol hardd hon yn adrodd stori’r Cyngor Llyfrau dros 60 mlynedd, o’i wreiddiau yn y 1960au hyd at heddiw.
‘Two Rivers from a Common Spring: The Books Council of Wales at 60’ published

Two Rivers from a Common Spring: The Books Council of Wales at 60 is published today to mark the organisation’s anniversary.
The beautiful volume tells the story of the Books Council over the last 60 years, from its origins in the 1960s to the present day.
Y Wladwriaeth Brydeinig a Senedd Cymru

I’r sawl yn ein plith nad yw yn ymglywed â swyn Prydeindod, mae yna rywbeth digon chwithig am y seremonïau a gynhelir i agor sesiynau newydd o’n Senedd genedlaethol. Prin mai gormodiaith yw dweud bod y rôl ganolog a chwaraeir yn y seremonïau hyn gan ddau o gonglfeini sefydliadol y wladwriaeth – y frenhiniaeth a’r […]
Pennod 9 – Sioned Wiliam ac Aled Hughes

Yr awdur a’r comisiynydd comedi, Sioned Wiliam a’r cyflwynydd a’r newyddiadurwr Aled Hughes, sy’n ymuno a Mari Siôn i drafod llyfrau.
Lansiad ‘YSBRYDION’, Elwyn Edwards

Lansiad llyfr ‘Ysbrydion’ gyda’r awdur, y Prifardd Elwyn Edwards, a Haf Llewelyn yn ei holi. Mae Elwyn (neu Swêl i’w ffrindiau) yn fyw o siop Awen Meirion yn Y Bala.
Prynwch eich copi o ‘Ysbrydion’ yma!
Llyfrau Arswyd – Dewis Elidir Jones

A Chalan Gaeaf ar y gorwel, dyma ddetholiad yr awdur Elidir Jones o gyfrolau a fydd yn siŵr o codi gwallt eich pen …
Still, She Calls
Still, She Calls.
Cerdd gan Eric Ngalle
Comisiynwyd gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon 2021
Mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth
Darllenir gan Eric Ngalle
Ffilm gan Cathie Thurgate
Sain y cefndir gan Sonic-ranger’
Ieuan Wyn – Cynefin a Chymuned
Darlith barddonol a gafaelgar wrth i Ieuan Wyn drafod beth yw ystyr Cynefin a Chymuned.
Lansiad ‘Ar Daith Olaf’ – Alun Davies
Prynwch eich copi yma
Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau / Literature Across Frontiers

Literature Across Frontiers (LAF) – European Platform for Literary Exchange, Translation and Policy Debate aims to develop intercultural dialogue through literature and translation and highlight less translated literatures. We are based in Wales, United Kingdom, and work in partnership with organisations and individuals across Europe and beyond to foster literary diversity and create opportunities for […]
Darlith Clawr Dof – Y Prifardd Twm Morys

Lluniau: Tudur Dylan Jones
Dathlu Cyhoeddiadau Barddas yn 40ain oed

Lluniau: Tudur Dylan Jones
Prif Feirdd Eisteddfod Amgen

Lluniau: Tudur Dylan Jones
Lansio Rhuddin
Prynwch eich copi o ‘Rhuddin’ yma!
Yoga gyda Laura Karadog

Lluniau: Tudur Dylan Jones
Sara Mai a Lleidr y Neidr
Dyma Casia Wiliam yn darllen y bennod gyntaf o Sara Mai a Lleidr y Neidr. Enillodd y llyfr cyntaf yn y gyfres (Sw Sara Mai) Wobr Tir na n-Og 2021!
Pennod 8 – Ion Thomas a Bethan Hughes
Yr athro ysgol uwchradd Ion Thomas a phrif lyfrgellydd Sir Ddinbych, Bethan Hughes sy’n ymuno â Mari Siôn i drafod llyfrau.
Lansiad ‘Hela’ – Aled Hughes

Marged Tudur sy’n holi’r cyflwynydd radio a theledu, Aled Hughes, am ei nofel gyntaf, Hela.
Hela – Nofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned. Ewch i’w phrynu yma
Cant a Mil o Freuddwydion: Anghenfil yr Afon Arbennig

Mae Gŵyl Swigod a Sain yn ôl ond y tro yma mae yna gystadleuaeth wahanol iawn yn rhan ohoni ac mae Albi yr anghenfil yn benderfynol o’i hennill! Mae angen iddo greu’r don fwyaf, ond dydy e ddim yn gwybod sut?! Mae’r gystadleuaeth am fod yn un agos oherwydd mae Osian yr octopws, Poli y pysgodyn, Casi y ceffyl môr, a Siôn y siarc wedi penderfynu cystadlu hefyd. Ymunwch â ni am hwyl di-ri i weld pwy fydd yn cipio’r goron a’r fedal aur yng nghystadleuaeth Taenu’r Tonnau! Gwyliwch ddarlleniad o’r stori gan Siani Sionc isod neu darllenwch y stori yma.
GOLWG | CYF. 34 | RHIF. 4 | MEDI 23

Steil Yvonne Evans – cyflwynydd Heno a Prynhawn Da. Hefyd yn #golwg wythnos yma…
🔹Ysbytai yn wynebu heriau “digynsail” yn ôl Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd y Gogledd
🔹“Cynllun cyfrwys i danseilio datganoli” yn cynddeiriogi Sharon Morgan
🔹Rhoi newydd wedd i Blodeuwedd & Co
Asisko Urmenta

Y Prosiect Bydd Asisko’n cydweithio gyda rhai o ddisgyblion Adran Gelf Ysgol Botwnnog ar y prosiect ‘Pererindod’. Gan ddefnyddio’r Fasgeg a’r Gymraeg yn unig, bydd modd cyfathrebu drwy gyfrwng darluniau cartŵn ac arddulliau eraill wrth iddynt ymateb i waith ei gilydd. EGITASMOA Asisko Ysgol Botwnnog ikastetxeko Arte saileko ikasle batzuekin lanean arituko da “Erromesaldi” izeneko […]
“People’s Pilgrimage | Pererindod Pobl” – Emily Meilleur & Femke Van Gent
“Cofrodd” – Iestyn Tyne

Pererindod lythrennol fydd prosiect Iestyn Tyne, sef taith ar droed o Gaernarfon i Enlli. Yn ei hanfod, profiad o ddychwelyd fydd hwn i Iestyn, o’i gartref presennol yng Nghaernarfon i’w fan genedigol; ond bydd hefyd yn gyfle i fyfyrio ar safbwyntiau cymdeithasol-economaidd, iaith a diwylliant, ecoleg a daeareg, newid hinsawdd, a dyfodol cymunedau arfordirol gogledd-orllewin Cymru. Bydd y profiadau’n bwydo i mewn i gyfansoddi a churadu casgliad o gerddoriaeth a barddoniaeth i fapio’r bererindod.
Iestyn Tyneren proiektua, hitzez hitz, erromesaldi bat, benetako pregrinazioa, izango da – Caernarfonetik Enlli uhartera oinez egingo duen bidaia. Iestyn-ek itzuleraren prozesua biziko du, gaur egun Caernarfonen duen etxetik jaioterriraino itzuliko baita; ikuspegi ezberdinetatik hausnartzeko aukera ere izango du – ikuspegi sozioekonoa, hizkuntza eta kultura, ekologia eta geologia, klima aldaketa eta baita Gales ipar-mendebaldeko kostaldeko komunitateen etorkizunaz ere. Bere bizipenek musika eta poesia multzo bat sortuko dute, eta horietan oinarritua bere erromesaldiaren mapa ere osatuko dute.
Astronaut Selection
FFLACH NEWYDDION Dewiswyd ein gofodwr! Gwyliwch yma wrth I Ralphy synnu’r cadet lwcus!
Pantycelyn a’n Picil Ni Heddiw gan Cynog Dafis

Cynog Dafis, awdur ‘Pantycelyn a’n Picil Ni Heddiw’, sy’n siarad gydag Aled Jones Williams am y gyfrol “llawn gobaith”.
Genod Gwych a Merched Medrus 2 gan Medi Jones-Jackson

Genod Gwych a Merched Medrus 2 gan Medi Jones-Jackson yw Llyfr y Mis i Blant, mis Medi.
Gŵyl Gerallt 2021

01 – 03/10/21
Tŷ Newydd, Llanymstundwy
Tocyn: £20
Archebwch YMA.
Adolygiad Y Cymro: Cat gan Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen

Dw i wedi dechrau ar gyfres Y Pump y ffordd groes, drwy gychwyn ar ddiwedd y daith, ar ddiwedd blwyddyn ysgol. Cat yw’r bumed nofel yn y gyfres arloesol hon o lyfrau ar gyfer pobl ifanc sy’n dilyn pum cymeriad ym Mlwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llwyd. Fel person yn fy ugeiniau hwyr (sydd yn ymddwyn […]
Awen Bro – Cysur Cymdogaeth gan Vivian Parry Williams
Dyma i chi gerdd cyfansoddiwyd gan fardd lleol Vivian Parry Williams eleni.