Prawf MOT – Bethan Gwanas (Gwasg y Bwthyn)
Mae Mot yn gi arbennig, ac mae’n meddwl y byd o’i berchennog, Lea. Ond mae ei dewis hi o ddynion yn ofnadwy ac mae Mot yn penderfynu mai fo ydi’r un i’w helpu i ddod o hyd i ddyn call … ac i gael gwared â’r rhai sydd ddim yn plesio. Dyma nofel ysgafn, obeithiol a chynnes am gariad, ffyddlondeb a heneiddio – drwy lygaid ci.
Mam – Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau – gol. Mari George (Barddas)
Casgliad o gerddi hen a newydd sy’n dathlu rôl y fam, yn gerddi gan feirdd sy’n famau eu hunain ac yn gerddi llawn atgofion am famau o bob oed. Plethir y cerddi â darluniadau hardd. Dyma gyfrol a fyddai’n gwneud anrheg ddelfrydol.
Chwerwfelys – Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Mae Alys yn gwireddu ei breuddwyd trwy redeg bwyty llwyddiannus yn Nyffryn Clwyd gyda’i chariad, Duncan. Ond pan gaiff Duncan gynnig i deithio’r byd i ffilmio rhaglen deledu, mae’n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â’r bwyty. Dilyniant i’r nofel boblogaidd Mudferwi.
Y Gwynt Braf – Gwyn Parry (Gwasg Carreg Gwalch)
Wrth i iechyd ei fam ddirywio, dechreua Glyn deithio o’i gartref yn Nulyn i Fôn ei febyd. Wrth iddo fynd â hi am dro yn y car o amgylch arfordir yr ynys, mae hi’n hel atgofion am ei bywyd. Dilyniant o straeon atgofus yn cynnig portread cynnes o berthynas unigryw rhwng mam a mab dros gyfnod o ugain mlynedd, ac o gymdeithas wledig ar Ynys Môn sy’n prysur ddiflannu.
Pum Diwrnod a Phriodas – Marlyn Samuel (Y Lolfa)
Pan mae ei mab ieuengaf yn penderfynu priodi yn yr Eidal, mae Carys yn edrych ymlaen at fwynhau ei hunan yn Sorrento, ac yn goron ar y cwbl, priodas Gethin a Rebeca. Ond mae pawb yn cael sioc pan mae un gwestai arbennig yn landio. Nofel gyfoes, lawn hiwmor gan yr awdur poblogaidd Marlyn Samuel.
Ar gael o’ch siop lyfrau leol.