Cartref digidol diwylliant Cymru.

Genod Gwych a Merched Medrus 2 gan Medi Jones-Jackson

Llenyddiaeth

Wedi’r mwynhau’r gyfrol gyntaf? Eisiau dysgu mwy am ferched o Gymru?

Dyma gyfle i ddod i adnabod 12 o ferched ysbrydoledig ac uchelgeisiol sydd wedi siapio Cymru heddiw.

Dewch i ddilyn ôl traed cyflym Lowri Morgan neu ddysgu am sgertiau mini Mary Quant. Beth ddigwyddodd ar fferm Rachel Rowlands? Pwy oedd Vulcana a sut mae darllen y sêr efo Cranogwen?   

Gyda delweddau gan Telor Gwyn a ffeithiau di-ri, gadewch i Genod Gwych a Merched Medrus 2 eich dysgu a’ch difyrru.

Dyma flas o’r gyfrol:

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH