Lleuad yn Olau – T. Llew Jones
Lle gwell i ddechrau? Mae’n debyg bod T. Llew Jones wedi gwneud mwy na neb arall i gyfrannu at lenyddiaeth arswyd yn Gymraeg. Fe fyddai’n hawdd argymell Ysbryd Plas Nantesgob, neu hyd yn oed ei addasiad Popeth am Ysbrydion o gyfres Byd yr Anhysbys (oedd yn byw’n barhaol yn fy mag ysgol am flynyddoedd), ond mae’n anodd curo’r clasur Lleuad yn Olau. Mae’r stori ‘Y Fraich Aur’ yn llwyddo i godi ias bob un tro.
Coelion Cymru – Evan Isaac
Mae ’na ddigonedd o lyfrau am lên gwerin, ysbrydion a thylwyth teg Cymru ar gael – ond mae’r rhan helaeth ohonyn nhw’n Saesneg, ac yn colli neu’n camddeall eitha tipyn yn y cyfieithu. Coelion Cymru, heb os, ydi’r llyfr mwyaf awdurdodol am ochr dywyll ein traddodiadau sydd ar gael yn Gymraeg. Mae’n werth chwilota drwy siopau ail-law am gopi, a’i ddarllen dan olau cannwyll.
Y Clychau – D. Griffith Jones
Un o glasuron coll yr iaith Gymraeg, sy’n darllen fel B-movie o’r ’50au – yn y ffordd fwyaf godidog. Mae criw o wyddonwyr yn mentro i ganol Cors Fochno … ac yn darganfod bod trigolion Cantre’r Gwaelod yn fyw ac yn iach (wel, mewn ffordd) ar ffurf sombis sydd ar ôl eu gwaed. Gwirioneddol wych.
Rhywbeth yn Trwblo – Dafydd Glyn Jones (gol.)
Rhaid bod yn onest a chyfadde mai fy nhad olygodd y casgliad yma o straeon ysbryd. Ond does dim lle gwell i ddechrau os ydych am oeri’r gwaed dros Galan Gaeaf, efo dwsinau o straeon byrion gan awduron mor ddychrynllyd â Daniel Owen, Kate Roberts, ac Islwyn Ffowc Elis. Dydi’r canon llenyddol Cymraeg erioed wedi bod mor iasol.
Un Cythraul yn Ormod – Andras Millward
Mae’r diweddar Andras Millward yn haeddu cymaint o glod am wneud gyrfa o ysgrifennu nofelau arswydus a ffantasïol i bobl ifanc – a hynny yn y ’90au, cyn i gyfresi Harry Potter a’r Hunger Games wneud llyfrau fel’na’n cŵl. Un Cythraul yn Ormod ydi’r llyfr arswyd mwyaf pur ganddo, am ymchwilydd preifat sy’n cael ei dynnu i fyd hunllefus y tu hwnt i’w ddychymyg.
Straeon i Godi Gwallt – Irma Chilton
Cyfrol o straeon byrion i bobl ifanc, â’r clawr yr un mor arswydus â’r cynnwys. Wir, fydd gweld y gath ’na’n hisian arna i o silffoedd llyfrau fy rhieni’n aros efo fi am byth. Ac mae’r cynnwys ei hun yn fwy brawychus fyth, yn debyg o godi ofn ar yr oedolyn mwyaf dewr, heb sôn am y gynulleidfa darged …
Yr Anhygoel – J. Aelwyn Roberts
Cafodd cenhedlaeth o bobl ifanc (a mi yn eu plith) eu dychryn i’r byw gan gyfres ar S4C o’r enw O’r Ochr Draw (1999), yn dramateiddio profiadau’r Parchedig J. Aelwyn Roberts wrth iddo gael gwared ar ysbrydion o amgylch gogledd-orllewin Cymru. Rhaglen wych – ond lot, lot rhy frawychus. Be well, felly, na darllen am yr un straeon ysbryd, a medru cau’r llyfr pan mae pethau’n mynd yn ormod?
Hen Bethau Anghofiedig – Mihangel Morgan
Nofel arswyd ddiweddar, sy’n dibynnu’n llwyr ar draddodiadau clasurol y stori ysbryd: hen dŷ yng nghanol nunlle, synau rhyfedd yn y nos – yr holl gybôl. Yn ddigon eirionig, mae’n gwneud i unrhyw ffan o’r math yma o beth deimlo’n gartrefol yn syth. Ac os oes gennych chi flys darllen stori debyg, ond iddi dipyn mwy o wirionedd …
Borley Cymru – J. Towyn Jones
Astudiaeth fanwl o un adeilad – Ficerdy St Paul, Llanelli – sydd wedi profi mwy na’i siâr o ddigwyddiadau anesboniadwy. Dwi’n cofio darllen hwn o glawr i glawr ar ddiwrnod braf yn maes parcio Eisteddfod Meifod 2002 – a theimlo’r blew yn codi ar fy ngwar, er gwaetha hyn. Dwi ddim wedi mentro ailddarllen y llyfr ar yr adeg hon o’r flwyddyn, efo’r llenni ’di cau, a’r gwynt yn udo tu allan …
Straeon y Meirw – Jac L. Williams
Dyw hwn ddim o reidrwydd yn llyfr arswyd traddodiadol, er bod y teitl yn awgrymu hynny. Oes, mae ’na fynwent a marwolaeth a melltithion … ond mae’r straeon heb unrhyw agweddau goruwchnaturiol yn fwy brawychus na phopeth arall ar y rhestr ’ma. Dydi’r tristwch a’r torcalon ddim yn stopio, ac mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor wirioneddol greulon mae bywyd yn medru bod. Nos Galan Gaeaf hapus.
Awdur a sgriptiwr yw Elidir Jones. Mae’n hen gyfarwydd â phob math o straeon gwerin, ar ôl gweithio fel ymchwilydd a sgriptiwr ar y cyfresi teledu Cynefin ac Arfordir Cymru. Mae hefyd yn awdur y nofel Y Porthwll, y gyfres Chwedlau’r Copa Coch (Yr Horwth (2019), Melltith yn y Mynydd (2020), a llyfrau Seren a Sbarc gyda Huw Aaron. Enillodd Yr Horwth wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020, yn y categori Plant a Phobl Ifanc.