Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gardd Bywyd Gwyllt Cymunedol Tanygrisiau

Mae prosiect cyffrous newydd yn dod i Danygrisiau…un lle gall y gymuned gyfan gymryd rhan i drawsnewid darn o dir segur ac sydd wedi gordyfu yn rhywle hardd, ymlaciol a gwych ar gyfer bywyd gwyllt! Dilynwch ni yma am ddiweddariadau a lluniau ar gynnydd!

Yr Amgylchedd

Mae ein gwaith amgylcheddol yn canolbwyntio ar warchod a gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac i bobl, ac felly mae’n amrywiol iawn! Dros Gaeaf, rydym yn gwneud llawer o waith yn rheoli’r rhywogaeth ymledol Rhododendron Ponticum. Yn ystod y Gwanwyn a’r Haf rydym yn canolbwyntio ar reoli lledaeniad Jac y Neidiwr (Himalayan Balsam) a Llysiau’r Dial (Japanese Knotweed), yn enwedig ar hyd ein hafonydd. Mae’r planhigion estron hyn yn fygythiad ofnadwy i’n bywyd gwyllt brodorol, ac rydym yn rheoli’r rhywogaethau hyn mewn gwahanol ardaloedd i’w hatal rhag dod yn broblem rhy fawr.

Mae maes arall o’n gwaith amgylcheddol yn cynnwys plannu coed. Ein nod yma nid yn unig yw creu mwy o goetir yn y Fro, ond hefyd fel ein hymateb i’r argyfwng newid hinsawdd. Rydym wedi plannu perllan gymunedol, yn ogystal â choed ffrwythau a dolydd blodau gwyllt yn yr holl ysgolion lleol, ac rydym yn bwriadu cychwyn meithrinfa goed i dyfu coed o darddiad lleol, y gellir eu dosbarthu wedyn i drigolion a phrosiectau eraill sydd eisiau eu plannu.

Rydym yn parhau i ddatblygu mannau gwyrdd a gerddi cymunedol ar draws yr ardal, ac wedi sefydlu sawl safle hynod lwyddiannus gyda phartneriaid gwahanol, o gymdeithasau tai i ysgolion!

Rydym yn gweithio gyda grwpiau ag unigolion o bob oed i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, llygredd, a sut i fwynhau a gofalu am natur. Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ddarn o’r prosiectau cymunedol hyn, defnyddiwch y botwm ‘cysylltwch â ni’ isod i ddweud wrthym beth yr hoffech ei wneud!

Cysylltwch â ni

Gig Daf Owain

Cerddoriaeth fyw am ddim gyda’r canwr Cymraeg Dafydd Owain. Perfformiad yn y prynhawn – amser i’w gadarnhau!

26/08

15:00

Buddsoddi / Investing

BUDDSODDI


Rydym yn gwerthfawrogi’r ffydd a’r ymddiriedaeth mae pobl wedi ei ddangos ers lansio’r ymgyrch i godi arian i droi breuddwyd o sefydlu llety mewn perchnogaeth cymunedol yn realiti.

Mae’r llety bellach wedi ei adnewyddu a phob llofft yn derbyn gwesteion. Serch hynny menter gymdeithasol yw Llety Arall ac rydym yn parhau i fod angen buddsoddiad i sicrhau bod hon yn fenter hir dymor fydd yn y pendraw yn troi’n fusnes nid er elw llewyrchus, all gyfrannu a rhoi’n ôl i gymuned Caernarfon.

Mae dal modd prynu cyfranddaliad £250 i fod â rhan yn y fenter. Golyga hyn bod gennych un bleidlais mewn cyfarfod cyffredinol; gallwch brynu mwy nag un cyfranddaliad ond un bleidlais fydd i bob aelod. Cysylltwch drwy ebost post@lletyarall.org neu ffoniwch 01286 662907.

Rydym wedi sôn o’r cychwyn ein bod yn awyddus i sicrhau bod pawb yn gallu bod yn rhan o’r fenter ac felly mae posib buddsoddi trwy archeb banc unai £10 y mis am 25 wythnos neu £25 am 10 wythnos.

Gwyliwch y ffilm a helpodd ni gyrraedd ein targed cychwynnol. Mae negeseuon yr un mor berthnasol heddiw.

Hanes Y Tŵr

Mae gan Bwllheli hanes cyfoethog a chymuned glos. Tyfodd y dref o amgylch y diwydiannau adeiladu llongau a physgota a’r chwarel gwenithfaen. Gyda phoblogaeth o tua 4,000 o bobl, mae’r dref yn cynnig traethau a tirwedd hardd, a diwylliant lleol bywiog. Mae’n croesawu llif cyson o ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn.

Adeiladwyd Y Tŵr yn 1875 ac mae’n sefyll mewn lleoliad canolog ac amlwg ar y stryd fawr. Bu’r adeilad unwaith yn ganolbwynt prysur – gwesty, bwyty, bar ac ystafell i gynnal digwyddiadau cymdeithasol. Crewyd atgofion a datblygwyd syniadau cyffrous yn yr adeilad hwn. Credwn y gallai Y Tŵr unwaith eto ddod yn ganolbwynt cymunedol bywiog a fyddai’n rhoi bywyd newydd i’r dref ac yn helpu i adfer y stryd fawr.

Llety Arall: Ein Stori

Ein Stori

Cymdeithas Budd Cymunedol yw ‘Llety Arall Cyf’, sy’n eiddo i’w haelodau.

Sefydlwyd Llety Arall yn 2018 yn fenter gymunedol gyda’r nod o ddatblygu llety o safon mewn hen adeilad gwag yng nghanol Caernarfon. Roeddem am gynnig profiad Cymreig a Chymraeg a’r nod heddiw, fel bryd hynny yw gweithredu mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfeillgar, gan wneud yn fawr o fod yn rhan o economi lleol.

Yr hyn sy’n bwysig i ni…

  • Iaith a diwylliant Cymru
  • Amgylchedd a chynaladwyedd
  • Economi leol
  • Cymuned

Sgwrs GwyrddNi #3 – Trafnidiaeth Gyhoeddus

Sgwrs am ddatblygiadau cymunedol, sirol, cenedlaethol ac ysbrydoliaeth ryngwladol ym maes trafnidiaeth. O lwybrau cerdded a beicio, i fentrau rhannu ceir, darpariaeth bysiau, gwelliannau trenau a chysylltiadau Ewropeaidd. Yng nghwmni:

Dr Victoria Winkler – Sefydliad Bevan ac Aelod o Fwrdd Traveline
Lee Robinson – Trafnidiaeth Cymru
Anglea Jones – Parc Ceneldaethol Eryri
Wil Parry – O Ddrws i Ddrws

Pecyn Gwybodaeth: YMA

Clwb Plant / Kids Club

Ein prosiect newydd ar gyfer 2021 wedi ei ariannu gan Chwaraeon Cymru yw’r clwb plant sydd newydd ei ffurfio yn Antur Stiniog. Fe’i sefydlwyd yn y Parc Beicio i roi cyfle i blant lleol bro Ffestiniog ddefnyddio a mwynhau’r hyn y mae Antur Stiniog wedi’i greu ar y safle yma yn y parc beicio. Rhan fawr o hyn yw datblygu eu sgiliau beicio mewn amgylchedd dysgu diogel a strwythuredig a darparu sesiynau hyfforddi o ansawdd uchel. Y nod yn y pen draw yw meithrin beiciwr mynydd lawr allt o’r ardal allai fod yn bencampwr y byd yn y dyfodol.

Fel Cwmni cymunedol lleol, mae hwn yn gyfle gwych i gynnig cyfle nid yn unig i bobl ifanc brofi a datblygu eu sgiliau beicio ond hefyd i greu cyfeillgarwch, herio eu hunain a magu hyder. 



Dysgwch fwy yma

Ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Wrth ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli byddwch yn cefnogi ein gwaith ac yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ddiogelu ei dyfodol. 

Fel aelod o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli byddwch yn:

  • Derbyn yn Blwyddlyfr blynyddol

  • Derbyn ein cylchlythyr Y Cafn

  • Cael blaenoriaeth wrth archebu llety

  • Cael gwahoddiad i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

  • Rhan o’r gymuned o bobl sy’n caru Enlli

Gellir ymaelodi ag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli drwy lenwi’r ffurflen isod, neu drwy lawrlwytho’r ffurflen, ei hargraffu a’i dychwelyd drwy’r post i’r cyfeiriad isod, neu ffoniwch 07904 265604 neu e-bostiwch post@enlli.org am fwy o wybodaeth.

Sylwer: ar gyfer ceisiadau aelodaeth ar-lein, rydym yn defnyddio rhaglen trydydd parti trwy LocalGiving. Bydd y taliad yn cael ei brosesu ganddynt hwy mewn ffenestr newydd yn eich porwr, a fydd yn gofyn am eich taliad.

Neu cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen gais.

Cyfrannu / Donate

Mae adeiladau Ynys Enlli yn rhan o gymeriad unigryw’r ynys. Maent yn gartrefi i gymuned yr ynys ac i’r nifer fawr o ymwelwyr sy’n aros ar yr ynys bob blwyddyn, gan werthfawrogi heddwch ac awyrgylch y fangre arbennig hon. 

Mae’r adeiladau hanesyddol yn amrywio o adfeilion tŵr yr abaty o’r 13eg ganrif i ffermydd ystâd a adeiladwyd gan yr Arglwydd Niwbwrch yn y 19eg ganrif. Mae pob adeilad, gan gynnwys yr adeiladau fferm, yn cael eu gwarchod naill ai fel Heneb neu fel Adeilad Rhestredig (gradd 2). Mae rhestr hir o waith adnewyddu hanfodol, er enghraifft ffenestri sydd yn dirywio yn yr hinsawdd arforol, a thoeau sydd wedi sefyll am ddegawdau ac sydd angen eu hadfer gan eu bod wedi dechrau gollwng wrth i lechi symud yn ystod stormydd y gaeaf. Mae’r gost o gynnal a chadw’r hen adeiladau pwysig yn fwy nag incwm blynyddol yr Ymddiriedolaeth. 

Cyfrannwch Heddiw 

Gwirfoddoli yn Ynys Enlli

Mae gwirfoddoli yn gyfle i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth ar Ynys Enlli sy’n cynnal tir ac adeiladau’r ynys a gwarchod ei bywyd gwyllt a’i harddwch naturiol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i ymweld ag aros ar yr ynys tu hwnt i’r tymor gwyliau, neu i gael treulio cyfnod hir ar yr ynys yn ystod y tymor. Am eich llety ar yr ynys, mae disgwyl i chi weithio hyd at 5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Ewch amdani, gwnewch gais heddiw!

Gwirfoddolwyr Cyn ag ar ôl y Tymor (Chwefror-Mawrth, Hydref)

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno gyda’r tîm ar yr ynys o ganol Chwefror i ddiwedd Mawrth. Rydym yn chwilio am unigolion neu grŵp o wirfoddolwyr i ddod i helpu ail agor y tai yn barod at y tymor gwyliau. Mae yna lawer o waith glanhau, peintio a pharatoi i’w wneud yn yr wythnosau yma- felly croeso i chi ymuno am wythnos neu fwy. Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno gyda ni bob mis Hydref, ar ôl y tymor gwyliau orffen, er mwyn paratoi’r ynys at y Gaeaf.

Gwirfoddolwyr Hir Dymor (Ebrill-Medi)

Rydym yn edrych am wirfoddolwyr hir dymor i gynorthwyo yn ystod y tymor gwyliau. Mae tymor gwyliau Ynys Enlli yn rhedeg rhwng dechrau Ebrill a diwedd Medi, ag mi rydym yn edrych am unigolion neu gwpwl o ffrindiau/partneriaid i ymuno gyda’r tîm am 3-8 wythnos ar y tro. Mi fyddwch yn helpu gydag amryw o dasgau megis glanhau a thorri gwair.

Gwirfoddolwyr Crefftus (Chwefror-Hydref)

Os oes gennych chi sgiliau penodol yn un o’r pethau isod rydym â diddordeb arbennig mewn clywed gennych.

  • Gwaith Saer

  • Gwaith calch, pwyntio, plastro, rendro

  • Codi waliau cerrig sych

  • Gwaith toi

  • Sgiliau gwaith tai cyffredinol

Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio i wirfoddoli gyda ni, cwblhewch y ffurflen gais a anfonwch i’r e-bost/cyfeiriad post ar ddiwedd y ffurflen. Cysylltwch â bardseyenlli@gmail.com os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ffurflen Gais

Llechi, Glo, Cefn Gwlad

Mae Sylfaen Cymunedol newydd ddathlu dwy flynedd o gydweithio gyda phrosiect Llechi, Glo, Cefn Gwlad, mudiad sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo arweinyddiaeth gymunedol ymhlith pobl iau mewn naw ardal ledled Cymru.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Sefydliad Rank a’r Loteri Cymunedol.

Rôl Sylfaen ydi paratoi a darparu hyfforddiant theori, praxis, a sgiliau datblygu cymuned.

Sbarc – Mis Awst

SBARC – Roc Dydd Mawrth | 22.8.2023 | 10:00 – 16:00 Lleoliad: GALERI CAERNARFON Tocynnau: £5 Oedran: 12 – 18 oed Yn y gweithdy yma, bydd cerddorion amlwg y sin roc Gymraeg yn rhannu eu doethineb cerddorol efo chi. /// SBARC is back once again to bring the summer holidays to a close! In this […]

Aelodau Cymunedoli Cyf | Cymunedoli Cyf members

Gŵyl Fedi 2023

Dydd Sadwrn 2 Medi

Bob Delyn a’r Ebillion / Maes Parcio / Traed Moch Môn

Am ddim

Egin: Cefnogi cymunedau yng Nghymru i daclo newid hinsawdd

Mae Egin yn raglen sy’n bwriadu datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd.

Prif ffocws Egin ydy gweithio gyda grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ond sydd yn debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd.

Gyda’r heriau niferus sy’n ein hwynebu nawr ac yn y degawdau nesaf, mae’n bwysicach nag erioed bod cymunedau’n gallu dod at ei gilydd i siarad, cynllunio a chreu’r newidiadau y mae nhw eisiau eu gweld – i greu dyfodol sy’n deg, cynaliadwy, a sy’n gweithio i bawb.

Rydym yn gwybod y gallai hi fod yn anodd gwybod ble i ddechrau a beth i’w wneud, a dyna pam yr ydym yn cysylltu grwpiau cymunedol gyda Mentoriaid Cymheiriaid. Mae nhw’n bobl sydd eisoes wedi gwneud prosiectau tebyg ac sy’n hapus i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i’ch helpu i wneud y newidiadau rydych eisiau eu gweld.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau heb hanes blaenorol o weithio ar hinsawdd a chynaliadwyedd, neu sydd ddim yn siŵr o ble i ddechrau.

Mae Egin yn cael ei redeg gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) a bydd yn rhedeg tan 2029. Mae’n cael ei hariannu trwy Camau Cynaliadwy Cymru – Grant Mentora; mae’r grantiau yn cael eu gweinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’r arian yn dod o’r Cynllun Asedau Segur – sy’n rhoddi arian wedi ei adael heb ei gyffwrdd am fwy na 15 mlynedd mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.

Gall grwpiau a gefnogir gan Egin dderbyn hyd at 3 diwrnod o Fentora Cyfoedion gan bobl sydd eisoes wedi gweithio ar brosiectau tebyg. Bydd mentoriaid yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau, creu cynllun gweithredu, a mesur effaith eich prosiect. Gall grwpiau a gefnogir hefyd gael archwiliad ynni ar adeilad cymunedol trwy ein partneriaid Asiantaeth Ynni Severn Wye, a gall unrhyw grŵp sydd wedi derbyn mentora fod yn gymwys i wneud cais am grant o hyd at £15,000 o grantiau Egin gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mwy o wybodaeth ar www.egin.org.uk

Fidio Gwesty Seren Video

Fidio byr yn arddangos Gwesty Seren, ein Gwesty 3 seren sydd yn cynnig gwyliau ysbaid i oedolion efo anableddau dysgu.

Awen Bro – Gwyl Car Gwyllt 2023

Wel dyma ni cip olwg i chi o gwyl Car Gwyllt 2023 lle does ddim rhaid fod yn car, yn feic, yn tractor dim ond ychydig bach yn wyllt. 

Seren

Fidio byr yn dangos prosiectau Seren. 

Plas Bodfa Projects

Prosiectau unigryw, cynhwysol, creadigol wedi eu gwreiddio yn Ynys Môn ac yn ymestyn ar draws Cymru a’r byd, yn cyfuno celf gyfoes ac adrodd storiâu gyda’r gwyddorau a chysylltiad gyda holl elfennau ein hamgylchedd.

JACOB ELWY

Nos Wener, 30 Mehefin o 8 o’r gloch ymlaen
Am ddim, croeso i bawb.

Sut i daclo newid hinsawdd trwy weithredu yn y gymuned

Mae Egin yn cefnogi cymunedau i weithredu ar newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy – ond be’ mae hynny’n ei feddwl? Gall y term “gweithredu hinsawdd” fod yn ddigon dryslyd, ond pan ‘dych chi’n rhoi’r gair “cymuned” yna, mae’n dod yn llai clir fyth!

Dyma rai enghreifftiau o sut y gall gweithredu hinsawdd cymunedol edrych. Mae gennym ni grwpiau sy’n mynd drwy ein proses Mentora Cymheiriaid yn canolbwyntio ar rai o’r syniadau hyn, ac fe wnaethom gefnogi llawer mwy ar Adfywio Cymru. Nid yw’r rhestr yma yn cynnwys popeth, ond y syniad ydy rhoi rhai syniadau i chi o be’ gallai eich cymuned ei wneud.

Mae ein prosiectau Egin wedi dechrau!

Mae Woody’s Lodge, Penlan yn elusen sy’n cefnogi cyn-filwyr ac aelodau o’r gwasanaethau argyfwng a’u teuluoedd, gyda rhwydwaith o safleoedd ledled Cymru. Ar safle Woody’s Lodge yn Sir Gaerfyrddin, mae ganddyn nhw 11 erw o goed aeddfed, gerddi a phorfa. Maent yn cynnig ystod o weithgareddau i gefnogi eu haelodau.

Cysyllton nhw ag Egin ynglŷn â chynlluniau ar gyfer safle rhandiroedd, prosiect tyfu bwyd a busnes sudd afal. Gan ddefnyddio eu profiad o weithio gyda phrosiectau garddwriaethol eraill, siaradodd y Mentoriaid Cymheiriaid Cathryn a Louise am wahanol opsiynau gyda staff Woody; defnyddiau tir posibl, microhinsoddau ecolegol, cyfleoedd ariannu, a meithrin brwdfrydedd.

“Rwy’n gobeithio y bydd creu cysylltiadau trwy nodau cyffredin fel plannu coed a thyfu bwyd yn helpu i feithrin gwydnwch mewn unigolion a chymunedau,” meddai’r Mentor Cymheiriaid Cathryn Wyatt.

Mae Richard Rose, cydlynydd y grŵp newydd drefnu ei ddigwyddiad plannu coed cyntaf (i gynyddu diddordeb yn y mentrau uchod), mae ganddo doiledau compost symudol ar y gweill, a thwnnel polythen gyda gwelyau yn barod ar gyfer eginblanhigion. Y cyfan wedi cychwyn dros y misoedd diwethaf!

Pwy yw DTA Cymru?

DTA Cymru yw’r prif sefydliad sy’n rhedeg rhaglen fentora Egin. Felly, pwy ydan ni?

Prosiect Ieuenctid LHDTQ+ / Prosiect LGBTQ+ GISDA

Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ein Prosiect Ieuenctid LHDT+ yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy’n uniaethu fel LHDT+( Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thraws)

Rydym yn cynnal Clybiau Ieuenctid wythnosol o Gaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Pwllheli, sy’n darparu lle diogel ac ymlaciol i’n haelodau allu mynegi eu hunain heb rwystr

Ynghyd â’n clybiau, rydym yn cynnig hyfforddiant achrededig a sesiynau ymwybyddiaeth ar faterion LHDT+ ac yn eu cyflwyno i ysgolion, colegau a sefydliadau eraill sy’n cefnogi pobl ifanc.

GISDA yn Efrog Newydd

Wythnos yma mae Klaire a Kayley, gwirfoddolwyr prosiect LHDTC+ Caernarfon, wedi teithio i Efrog Newydd i fynychu cynhadledd Ali Forney Center. Tra yno byddent yn cynrychioli GISDA yn cyflwyno’r arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc LHDTC+ mewn cymunedau gwledig

WE’RE RECRUITING – PROJECT OFFICER

Beth yw’r Young Promoters Network x Beacons Cymru?

Mae Beacons Cymru yn edrych ymlaen at gyhoeddi cam nesaf y Young Promoters Network (YPN). Wedi’i sefydlu yn Rhondda Cynon Taf yn 2010, mae’r rhwydwaith wedi lansio nifer o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth trwy ddatblygu sgiliau allweddol mewn peirianneg sain, rheoli digwyddiadau, hyrwyddo, ffotograffiaeth, a llawer mwy.

Nod y YPN yw grymuso pobl ifanc trwy ddarparu set sgiliau newydd iddynt, gan gynyddu eu cyfleoedd gyrfa o fewn y sectorau cerddoriaeth fyw wrth hybu hunan-barch a hyder. Nawr mae’r prosiect yn cymryd camau breision i ddod yn Gymru gyfan, gan helpu mwy o bobl ifanc i gael mynediad at gerddoriaeth fyw.

Mae’r YPN yn cynnig cyfle i chwe pherson ifanc, 18-25 oed, o bob rhan o Gymru, i ddatblygu eu sgiliau fel hyrwyddwyr, cael mynediad i rwydweithiau diwydiant newydd a chynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.

Yr hyn y mae’r prosiect yn ei ddarparu;

> Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd mewn rheoli digwyddiadau byw

> Arian i dalu costau cynnal digwyddiad

> Mynediad i rwydwaith newydd o gyd-hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

> Hyfforddiant proffesiynol, mentoriaeth, a chyngor un-i-un trwy Gymdeithas yr Hyrwyddwyr Annibynnol.

Yn gyffredinol, darparu’r offer i ddechrau eu teithiau fel hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw, creu cymunedau newydd, a rhoi sylw i artistiaid/bandiau o fewn y cymunedau hynny.

Mae’r YPN yn deall nad oes dim byd yn lle profiad uniongyrchol i helpu pobl ifanc i gyflawni ac rydym yn falch o ddarparu’r profiad hwnnw!

NI’N RECRIWTIO!

Rydym yn chwilio am berson ifanc brwdfrydig, ymroddedig a threfnus i ymuno â thîm Beacons Cymru a helpu i gyflawni ein prosiect YPN.

Byddwch yn helpu i lunio dyfodol y diwydiant cerddoriaeth fyw ledled Cymru.

Beacons Cymru – Swyddog Prosiect Iau (1 rôl ar gael)- Oherwydd cyfyngiadau ariannol, dim ond ar gyfer pobl ifanc 18-25 oed y mae’r rôl hon ar agor.

Dim angen profiad na chymwysterauRydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd wedi profi rhwystrau i’r diwydiant cerddoriaeth.

Tymor: 11 mis @ 10 awr yr wythnos.

DYDDIAD CAU: 08/05/23.

Awen Bro: Caban – trydydd yn y cyfres

Caban 3ydd yn y Gyfres ble fy Catrin O’Neill yn diddannu gyda cerddoriaeth byw a Gwern Gwynfil a Geraint Tomas yn cynnal sgwrs am ymgyrch a dyfodol Yes Cymru. 

Egin

Mae Egin yn raglen sy’n bwriadu datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Ein prif ffocws ydy grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am […]

Gerddi Maes y Plas

Gerddi Maes y Plas :
Mae gwaith wedi bod yn mand ymlaen ers thai misoedd tu ol i Gwesty’r Manod i greu gardd gymunedol ar y tir, dyma Wil i egluro mwy am y cynlluniau cyffrous


WAHWN Cymru

Rhwydwaith o gydweithwyr sy’n ehangu’n gyflym yw Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, sy’n cyflawni gwaith ym maes y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae’r rhwydwaith yn cynrychioli aelodau o sectorau’r celfyddydau, iechyd ac addysg uwch ac mae’n cynnwys ymarferwyr sy’n gweithio ar draws yr ystod gyfan o ymarfer celf mewn iechyd, y celfyddydau a […]

Awen Bro: Caban gyda Elidyr Glyn a Myrddin ap Dafydd

Dyma cyntaf yn cyfres Cangen Bro Ffestiniog Yes Cymru o nosweithiau Caban.
Cafwyd noson wych gyda Myrddin Ap Dafydd yn herio’r gynulleidfa i dychmygu, ymchwilio a gweithio er mwyn annibyniaeth i Gymru ac Elidyr Glyn yn difyrru gyda adloniant byw.

Menter BRO – Yr Aelwyd

Newyddion Cyffrous!

Mae hen adeilad yr Urdd yn Blaenau Ffestiniog wedi cael ei brynu gan y gymuned a rwan mae’r gwaith cyffrous yn cychwyn

Pa fath o ofod ac adeilad da’ ni ange fel cymuned a be be dan ni eisiau gweld yn digwydd yna?

SUMMIT: Artist Call Out – Cerddoriaeth O Gymru: Pioneering Change

Mae Beacons Cymru yn chwilio am artistiaid i gyfrannu gweithiau i arddangosfa a gynhelir yng Nghaerdydd ar 2 Mawrth fel rhan o Ŵyl Summit 2023. Thema’r arddangosfa yw “Cerddoriaeth O Gymru: Arloesi Newid”. Gofynnwn i ymgeiswyr gyflwyno gweithiau yn seiliedig ar eu dehongliad personol o’r thema hon. Rydym yn derbyn gweithiau o bob disgyblaeth. Gall […]

Menter Bro: Bwyd a Mwy

Mis yma ar y 25/1/23 mi fydd noson pop-up Bwyd a Mwy yn cymryd lle yn Ysgol y Moelwyn
Bwydlen wych ar gael i’r gymuned am ddim felly dewch yn llu i cael pryd, cymdeithasu a mwynhau!
Cyntaf i’r felin ydi hi felly cofich bwcio’ch bwrdd gyda Bwyd AMwy
#bwydamwy