Tyfu Cymunedol: Gall gerddi cymunedol, rhandiroedd a ffermydd trefol ddarparu cynnyrch ffres i’r gymuned tra’n lleihau milltiroedd bwyd a hyrwyddo bioamrywiaeth. Mae garddio gyda’ch gilydd yn adeiladu cysylltiadau cymdeithasol ac mae’n dda i’ch iechyd corfforol a meddyliol, heb sôn am faint o arian byddech chi’n safio ar fwyd! Mae gan lawer o’n Mentoriaid Cymheiriaid brofiad o sefydlu gerddi cymunedol a rhandiroedd, er enghraifft gyda Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol neu Bwyd Bendigedig.
Trwsio a Chynnal Beiciau: Gall feicio fod yn syniad da i leihau allyriadau carbon a gwella iechyd y cyhoedd. Mae gweithdai beiciau a arweinir gan y gymuned yn cynnig gwasanaethau trwsio, cynnal a chadw fforddiadwy a gallent gynnwys cyrsiau hyfforddi – gan roi sgiliau newydd i bobl leol.
Clybiau Ceir: Mae cynlluniau rhannu ceir yn caniatáu i bobl rentu ceir ar sail tymor byr, gan leihau’r angen am berchenogaeth car unigol a’r allyriadau cysylltiedig. Gall y cynlluniau hyn hefyd arbed arian i bobl o gostiau rhedeg car, fel yswiriant a chynnal a chadw. Gallai hyn ymestyn i glybiau ceir trydan, fel TripTo yng Nghanolbarth Cymru.
Benthyca, Cyfnewid, a Llyfrgell o Bethau: Gall rhannu adnoddau a hyrwyddo economi gylchol leihau gwastraff ac arbed arian. Mae mentrau a arweinir gan y gymuned, megis llyfrgelloedd offer, cyfnewid dillad, a llyfrgelloedd teganau, yn annog pobl i fenthyca yn lle prynu eitemau newydd. Mae’r sefydliad Benthyg yn gweithio i greu rhwydwaith dros Gymru o “Lyfrgelloedd o Bethau”, lle gall pobl fenthyg pob math o eitemau, o offer pŵer i gemau bwrdd – efallai bod un yn agos atoch chi’n barod!
Lleihau Gwastraff ac Uwchgylchu: Gall cymunedau ddod at ei gilydd i leihau pob math o wastraff – o wastraff bwyd i electroneg – a hybu uwchgylchu. Er enghraifft, mae’r mudiad Repair Cafe Wales , sy’n digwydd ledled Cymru, yn dod â phobl at ei gilydd i drwsio eitemau sydd wedi torri yn lle eu taflu. Gall mentrau eraill, fel gweithdai uwchgylchu a siopau Dim Gwastraff, annog pobl i ailfeddwl am sut mae nhw’n defnyddio pethau – neu datblygu sgiliau creadigol newydd!
Trafnidiaeth gyhoeddus gymunedol: Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn “gwyrddach” na gyrru – ond fel y mae llawer o bobl sy’n byw yng Nghymru yn gwybod yn iawn, gall diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd, ddibynadwy fod yn rhwystr enfawr i fyw eich bywyd o ddydd i ddydd. Rhwng 2017 a 2020, helpodd y prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru i gychwyn 24 o gynlluniau trafnidiaeth gymunedol leol ledled y wlad, gyda gwasanaethau fel galw-a-reidio, cynlluniau ceir cymunedol, llwybrau bysiau hyblyg a llogi bysiau mini ar gyfer grwpiau lleol i helpu cymunedau anghysbell i fynd o gwmpas eu bywydau.
Hybu Sgiliau ac Addysg Leol: Gall darparu addysg a hyfforddiant ar arferion cynaliadwy helpu cymunedau i daclo newid hinsawdd. Gall mentrau fel gweithdai wedi ei harwain gan y gymuned, cyrsiau, a digwyddiadau rhannu sgiliau rhoi cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd a chysylltu gyda eu cymuned. Er enghraifft, helpodd y prosiect Our Bright Future dros 128,00 o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau i’w gwneud â materion amgylcheddol – ym mhopeth o adeiladu cynaliadwy a thyfu bwyd i ymgyrchu, cynllunio a gwneud penderfyniadau.
Ynni Adnewyddadwy Cymunedol: Gall prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned, fel tyrbinau gwynt, paneli solar neu gynhyrchu trydan dŵr, ddarparu ynni glân a chynhyrchu incwm i’r gymuned. Er enghraifft, yng Ngogledd Cymru, nod Ynni Ogwen yw dal y pŵer o lif yr afon Ogwen i gynhyrchu trydan a bwydo elw yn ôl i brosiectau amgylcheddol a chymunedol yn yr ardal leol.
Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Cymunedol: Gall gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau cymunedol, fel canolfannau cymunedol a neuaddau pentref, leihau biliau ynni ac allyriadau carbon. Gallai mentrau a arweinir gan y gymuned gynnwys archwiliadau ynni neu brosiectau ôl-osod. Mae ein partner, Asiantaeth Ynni SevernWye, yn darparu aseswyr technegol i Egin – maent yn gallu cynnal archwiliadau ynni ar gyfer y grwpiau rydym yn eu cefnogi.
Dim ond rhai syniadau ydy’r rhain! Gallai gweithredu hinsawdd cymunedol fod yn unrhyw beth sy’n dod â lleisiau gwahanol o’r gymuned at ei gilydd i leihau allyriadau carbon, ceisio byw mewn cydbwysedd gwell â’r ddaear, ailfeddwl faint y mae gwir angen inni ei ddefnyddio a’i daflu, neu helpu i addasu at newid hinsawdd.
Dyma rhai linciau a all eich ysbrydoli gyda mwy o syniadau:
Gweithrediad cymunedol i’r amgylchedd – Cronfa Gymunedl y Loteri Genedlaethol
Community action for the environment – from The National Lottery Community Fund. Adroddiad yn archwilio dysgu o brosiectau a ariannwyd, gyda ffocws ar awgrymiadau ymarferol ar sut i sbarduno, ysgogi a chynnal gweithredu cymunedol lleol.
Prosiectau wedi eu cefnogi gan Adfywio Cymru – archif o flog Adfywio Cymru, sy’n edrych yn fanwl ar astudiaethau achos o rai o’r prosiectau a gefnogwyd
Ynni Cymunedol Cymru – sefydliad aelodaeth dielw sydd wedi’i sefydlu i roi cymorth a llais i grwpiau cymunedol sy’n gweithio ar brosiectau ynni yng Nghymru
Carbon Copy – Darllennwch straeon am weithredu hinsawdd lleol ar draws y DU
Repair Cafe Wales – Mae caffis trwsio yn digwydd ar ddyddiau rheolaidd ac yn gyfle i chi ddod a’ch eitemau sydd wedi’i torri i gael eu trwsio am ddim gan wirfoddolwyr.
Repair Cafe Wales – Mae caffis trwsio yn digwydd ar ddyddiau rheolaidd ac yn gyfle i chi ddod a’ch eitemau sydd wedi’i torri i gael eu trwsio am ddim gan wirfoddolwyr
Benthyg – Home (benthyg-cymru.org) – Nod Benthyg yw creu rhwydwaith o Lyfrgelloedd o Bethau ledled Cymru, gan ei gwneud hi’n haws benthyca eitemau yn hytrach na gorfod bod yn berchen ar un o bopeth.
Projects and Partnerships | Community Transport Association (ctauk.org) – Rhestr o gynlluniau trafnidiaeth gymunedol a ariannwyd drwy Cysylltu Cymunedau yng Nghymru
Wales | Social Farms & Gardens (farmgarden.org.uk) – Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yn helpu i sefydlu gardd gymunedol, CSA, fferm ofal, fferm ysgol neu unrhyw beth yn y canol
About – Mid-Wales Electric Car Clubs (tripto.org.uk) – clwb ceir trydanol yng Nghanolbarth Cymru