Cymru fel Cenedl Heddwch

Mae Byw Mewn Heddwch (Llais y Lle, Cyngor Celfyddydau Cymru) wedi dod i ffrwyth trwy bartneriaeth yr Academi Heddwch a grŵp Heddwch Nain/Mam-gu. Mae’n gyfle i ferched Meirionnydd a phobl ifanc GISDA archwilio beth ydi heddwch i ni yng Nghymru heddiw o fewn ein cymunedau a thu hwnt. Roedd y gyntaf o’n sesiynau ‘Meirionnydd Heddychlon?’ […]
Cyflwyno SOSEJ

Mae SOSEJ yn brosiect newydd i bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru trwy grant Llais y Lle. Dyma flog gan Nico Dafydd, artist cymunedol ar y prosiect, yn esbonio’r syniad tu ôl i’r cynllun “Dwi wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am bwysigrwydd cerddoriaeth; i wrando arno, i’w chwarae, i’w gyfansoddi, a’i fwynhau gyda ffrindiau. I […]
Rhwyd: Cyflwyniad Lowri Jones am Dafarn Y Vale
Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Tafarn, Ysgol a Ffermwyr – Mentro a Chydweithio yn Nyffryn Aeron’ (29/07/2025). Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd. Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli […]
Gwehyddu a Gwnïo Heddwch

Ar draws y byd, mae merched yn creu eu heddwch mewnol trwy wnïo a gwehyddu ond hefyd yn defnyddio hynny mewn modd chwyldroadol i fynegi eu hunain. Dydan ni ddim yn wahanol yn hynny o beth. Gan ddefnddio cnu o’i fferm yn Llanfrothen, daeth Olwen Ford atom i wehyddu ac i ni gael sgyrsiau am beth ydi ystyr heddwch i ni heddiw o ran heddwch mewnol, addysg, bwyd, bywyd merched. Cafwyd sgyrsiau hynod o ddifyr a chreodd bawb fat o wlân i fynd adref. Mae cangen arbennig o Byw Mewn Heddwch hefyd yn weithredol yn ardal Y Bala dan arweiniad Margiad Jones a Gudrun Jones sy’n creu Ffenest Heddwch trwy wnïo a brodwaith. Gofynnwyd i bawb yn ein sesiynau ‘Taset ti’n edrych trwy ffenest heddwch, be’ faset ti’n ei weld?’ Mae Margiad a Gudrun yn dod â’r syniadau hyn ynghyd â bydd criw o ferched sy’n mynychu grwpiau gwnio yn ymgymryd a’r gwaith o wnïo’r ffenest fetr sgwar.
Geiriau’n gweiddi Heddwch

Mewn sesiynau hamddenol yn Y Pengwern, Llan Ffestiniog dros yr Hydref a’r Gaeaf, bu sawl un yn ymateb i syniadau gwahanol am heddwch efo’r awdur Sian Northey. Yn un o’r gweithdai, cafodd mynychwyr y cyfle i ymateb i waith celf Paul Peter Piech gan fod Sian, Llinos a Seran o brosiect Byw Mewn Heddwch wedi cael y cyfle unigryw i guradu ei arddangosfa yn Storiel, Bangor. Mae ei waith yn bendant yn gweiddi heddwch. Mae’r holl weithdai yn gyfle i fwrw bol ac i daflu syniadau ar lafar neu ar bapur a doedd ein sesiynau Gweledigaethau a Ryseitiau Heddwch ddim gwahanol wrth i ni fynd ati i feddwl am y bobl sydd ddim yn rhydd yn ein cymdeithas ac ar draws y byd ac i feddwl beth ydi’n gweledigaethau ni am heddwch a beth ydi’r cynhwysion angenrheidiol. I ddechrau’r flwyddyn newydd, daeth criw ohonom at ein gilydd i greu baneri heddwch o ddyfyniadau enwog yn ogystal â myfyrdodau ein hunain. Cynhaliwyd sesiwn gan Sian Northey a’r saer maen Gabriel Hummerstone yn defnyddio cerrig fel sbardun i feddwl am heddwch cyn i ni cyd-benderfynu ar air i’w gerfio mewn llechen. Mae’r diwydiant llechi wedi bod yn drawsnewidiol i gymunedau ym Meirionnydd ond mai gwaith dynion fu’r cerfio erioed. Roedd yn rymusgar iawn i ni fynd ati i naddu bob llythyren gyda’r daith araf i heddwch yn ein meddyliau.
Llyfr Lloffion Byw Mewn Heddwch

Ar ddechrau’r prosiect dosbarthwyd llyfrau lloffion i bawb oedd yn mynychu’r sesiynau – er mwyn iddynt gael cadw trefn ar eu creadigaethau. Un sy’n frwd iawn am greu brasluniau yn ymateb i bob sesiwn ydi Gudrun Jones. Dyma rai o’r gweithiau yma…
Gweithdai GISDA

Mae’r artist Fiorella Wyn a Llinos Griffin yn gweithio efo pobl ifanc GISDA ym Mlaenau Ffestiniog bob mis i greu gwaith yn ymateb i’r syniad o heddwch. Maent wedi cael y cyfle i ddylunio tatŵs heddwch, i greu cerfluniau clai ac i greu addurniadau Nadolig heddychlon. Yn ddiweddar, cynhaliwyd sesiwn addurno dillad efo negeseuon heddwch ac bellach, mae cotiau bendigedig ar eu ffordd, wedi eu haddurno mewn cerddi a geiriau!
Cofio ein Cyn-Neiniau

Parhad i ddathliad Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 ydi Byw Mewn Heddwch felly mae wedi bod yn hollbwysig i ni nodi hynny o’r cychwyn cyntaf. Ym mis Medi 2025, aethon ni am dro (Mynd am Dro at Mary) efo Mair Tomos Ifans i goffau gwaith Mary Ellis yr heddychwraig o Ddolgellau fu’n un o’r bedair i gydlynu’r Ddeiseb a hwylio efo hi draw i America i’w chyflwyno i ferched y wlad er mwyn rhoi pwysau ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Er na ddigwyddodd hynny, mae ymdrech y merched i gasglu bron i 400,000 o enwau merched Cymru yn anhygoel. Cerddon ni o Ddolgellau i Lanelltyd mewn glaw trwm (fel wnaeth rhai o’r merched oedd yn mynd o ddrws i ddrws i hel llofnodion) a chael hanes Mary Ellis gan Jessica John sydd wedi bod yn gweithio ar gael plac i’w choffau ynghanol Dolgellau. Mae Mair wedi bod yn rhedeg gweithdai creu Hetiau Heddwch yn Nolgellau a Dinas Mawddwy gan ein hatgoffa ni i gyd o’r merched o dan yr hetiau yn y 1920au. Yn deillio o hyn, mae penillion wedi eu creu gan y criw fel teyrnged i’n neiniau. Yn yr Ysgwrn dan arweiniad Meleri Davies a Sian Melangell Dafydd ddechrau Chwefror, cafwyd diwrnod hynod ddiddorol yn ymateb i’r merched anweledig sy’n cynnal ein cymunedau er mwyn gwella ein bywydau cymdeithasol a theuluol ni i gyd ond hefyd i ddysgu mwy am y merched a’u gelwid yn wrachod na gafodd y fraint o fyw eu bywydau mewn heddwch. Trwy eiriau a gan drin clai, mi gaethon ni fynegi ein hymateb i’r holl hanesion a thrafodaethau’r dydd.
Cynhyrchiadau UCAN

Mae Cynhyrchiadau UCAN yn elusen perfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n ddall neu sydd ȃ nam golwg, a’u ffrindiau. Rydym yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein rheolaidd i’n haelodau gael cyfle i fod yn greadigol, cael hwyl a gwneud ffrindiau.
AD-DREFNU – Lleucu Elisa Jenkins
Ffilm yn olrhain hanes ymgyrch ad-drefnu Fflach Cymunedol a ffrwyth llafur eu gwaith caled o feithryn y sîn gerddorol lleol yn ardal Aberteifi blwyddyn wedi’r ymgyrch. Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.
Sŵn Mach – Lowri Page
Ffilm ddogfen am don newydd o arbrofi cerddorol Cymreig yng Nghanolbarth Cymru, yn cynnwys Tai Haf Heb Drigolyn, Osgled a Cerys Hafana. Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.
Croeso Y Diwylliant: Vol.1 – fruitb0y
Cipolwg agos ar y sîn MOBO yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar bedwar artist o gefn gwlad Cymru — fruitb0y, Bombero, Mr Phormula a Skylrk. Trwy eu straeon, mae’r ffilm yn archwilio eu teithiau, eu brwydrau, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Comisiynwyd yn rhan o rifyn arbennig o’r ŵyl ffilmiau digidol AmCam, i ddathlu […]
Garlleg – Kieron Shand
Hanes y casgliad celfyddydol o Aberystwyth, Garlleg. Comisiynwyd yn rhan o rownd arbennig o’r gŵyl ffilmiau digidol AmCam, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.
Rhwyd: Cyflwyniad Owen Llywelyn am Weithgor Dyffryn Aeron
Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Tafarn, Ysgol a Ffermwyr – Mentro a Chydweithio yn Nyffryn Aeron’ (29/07/2025). Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd. Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli […]
Rhwyd: Cyflwyniad Dr Osian Elias am Gadernid Iaith
Rhoddwyd y cyflwyniad hwn yn ystod digwyddiad ‘Rhwyd: Cyfarfod Cynllunio’ (16/01/2026). Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd. Mae Rhwyd yn brosiect ar y cyd rhwng IAITH: y ganolfan cynllunio iaith a Cymunedoli Cyf. Caiff ei ariannu gan YAC.
SOSEJ

Os ydych yn 16-25 oed ac yn byw yn ardal Eisteddfod y Garreg Las 2026, mae SOSEJ yn gyfle i weld tu mewn i’r ffatri gerddoriaeth. Mae SOSEJ yn gyfres o weithdai gan unigolion, mudiadau a grŵpiau mwyaf gweithgar y sîn gerddorol yng Nghymru, o ddylunwyr posteri i beirianwyr sain, a phopeth yn y canol, […]
Gwasanaeth Creadigol yn y Cartref
Gwasanaeth celfyddyd a iechyd i bobl hŷn ar draws Sir Gaerfyrddin. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ein partneriaid yn Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac yn eu paru gyda hwylusydd proffesiynol PSU ac artist. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, prosiect Cysylltu Sir Gaerfyrddin ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. https://peoplespeakup.co.uk/creative-home-delivery-service
BYW MEWN HEDDWCH

Nod ‘Byw mewn Heddwch’ ydi dod â merched ardal Meirionnydd ynghyd i drafod beth ydi ystyr heddwch i ni heddiw trwy gyfrwng y Gymraeg ac ymateb i’r sgyrsiau hyn yn greadigol. Mae’n barhad i’r gwaith o ddathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24. Dan ni hefyd yn gweithio’n fisol efo pobl ifanc GISDA ym Mlaenau Ffestiniog […]
Llinos Griffin – Meirionydd

Wedi’i sbarduno gan Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, bydd Byw Mewn Heddwch yn annog gweithredu celfyddydol yn archwilio heddwch. Mewn cydweithrediad ag Academi Heddwch Cymru a Heddwch Nain/Mam-gu, cynhelir sesiynau aml-gyfrwng i gymunedau di-lais Meirionnydd (pobl ifanc GISDA a merched yr ardal). Archwilir ‘heddwch’ yn ei ystyr ehangaf – o’r personol i’r rhyngwladol gan greu ‘cymuned heddwch’ ar […]
Gwefus

Sefydlwyd y cwmni Gwefus gan Llinos Griffin yn 2014 er mwyn dod â’i holl brofiadau gwaith ynghyd gan gyfuno’r lleol a’r rhyngwladol. Sesiynau dysgu Cymraeg ar-lein Cyfieithu Prosiectau creadigol a chymunedol
Kamalagita Hughes – Bridgend
Oedd y prosiect yn treialu gweithdai adrodd straeon rhwng cenedlaethau gan annog dwyieithrwydd a mwynhad o’r Gymraeg gydag amrywiaeth o grwpiau. Yn defnyddio perfformiadau adrodd stori, gweithdai creadigol a thechnegau trawsiaith i feithrin hyder mewn cyfranogwyr o gwmpas defnyddio a mwynhau’r Gymraeg sydd ganddynt eisoes a datblygu geirfa newydd, gyda ffocws penodol ar rieni, dysgwyr […]
Rhaglen People Speak Up – Effaith

Yn ystod Hydref 2023 – Mawrth 2024, derbyniodd PSU grant Creu CCC i ddatblygu’r rhaglen Lles Creadigol yn People Speak Up, canolfan celfyddyd, iechyd a lles Llanelli – amser a gofod i’r gymuned gysylltu’n greadigol a dod o hyd i’w llais trwy adrodd straeon, gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddydau digidol, celfyddydau gweledol, gwirfoddoli a sgyrsiau […]
Chwarae Stryd Sir Gar
Mae Chwarae Stryd yn rhoi cyfle i deuluoedd ddefnyddio gofod awyr agored, i gysylltu ac i chwarae. Ni’n creu’r amser, y gofod a’r offer, yna mae’n dibynnu ar ein cymunedau i wneud a chwarae! https://peoplespeakup.co.uk/street-play-sir-gar
Pobol yn Canu!

Grŵp canu sydd ddim yn debyg i unrhyw grŵp canu arall. Dan arweiniad Nerissa Joan, mynega dy hun trwy gân a gafaela yn dy lais unwaith eto. Cyfle i ti gysylltu gyda dy hunan a’r gymuned trwy arbrofi gyda chanu creadigol. Dydd Ian, 10.30am-12pm People Speak Up, Stryd Parc, Llanelli Am ddim Oed 16+ https://peoplespeakup.co.uk/people-sing-up!
People Speak Up Ifanc
People Speak Up, Stryd Parc, Llanelli Oed 11+ Am ddim Dydd Mawrth – ‘Galw Heibio’ Llesiant Creadigol 4pm – 6pm Dydd Mercher – ‘Gwna fe!’ Lles Creadigol – 4pm – 6pm Mae PSU Ifanc (YPSU yn fyr!) yn lle i bobl ifanc gwrdd, dod o hyd i’w hunain a chodi eu lleisiau. Mae’n lle i […]
P’nawn Arty – Llanelli | Caerfyrddin

16+ People Speak Up, Llanelli – Pob dydd Mawrth 1pm-3pm Canolfan Byw’n Dda Sir Gaerfyrddin – Pob Dydd Gwener, 1.pm-2.30pm Mae Pnawn Arty yn grŵp celf am ddim i unrhyw un o gwbl. Does dim angen profiad celf blaenorol – bydd ein hwyluso creadigol yn eich tywys trwy ba dasgau bynnag sy’n digwydd yn y […]
Amser Dishgled yn Llanelli | Caerfyrddin

Canolfan Byw’n Dda Sir Gaerfyrddin – Pob Dydd Iau, 1.pm-2.30pm People Speak Up, Llanelli – Pob dydd Gwener 11am-1pm Bwcia nawr – am ddim! Amser creadigol i gwrdd â ffrindiau newydd, rhannu straeon, gwenu a chofio. Mewn partneriaeth â Chymunedau Cyfeillgar â Dementia. Gofod i’r rhai sydd ar daith dementia i ddod at ei gilydd […]
Hammad Rind – Caerdydd

Nod prosiect Lleisiau Grangetown yw hyrwyddo gweithgareddau llenyddol Cymraeg yn Grangetown, un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol a difreintiedig yng Nghymru. Bydd y gweithgareddau yn cynnwys digwyddiadau Meic Agored Cymraeg, clybiau llyfrau a chyrsiau ysgrifennu creadigol. Gweledigaeth gyffredinol y prosiect yw dod â’r Gymraeg i’r gymuned mewn ffordd gynhwysol a hygyrch. Dyma gipolwg ar y prosiect hyd […]
Carys Hedd – Sir Benfro

Esgyn – prosiect a fydd yn pwytho’n cymuned Codi Canu â gwaith tecstilio creadigol ynghyd yng Ngogledd Sir Benfro. Gwnawn hyn drwy ail greu’r Betgwn, rhan o’r wisg draddodiadol Gymreig i’w gwisgo mewn perfformiadau fel Y Fari Lwyd. Byddwn hefyd yn ymgynghori gyda’r cymunedau beth yn hoffent eu creu allan o ddefnyddiau wedi’u hail gylchu […]
Prosiect Esgyn, Llais y Lle

Mae Esgyn yn brosiect gymunedol sy’n cyfuno gwnïo a chanu Cymraeg i gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac arfer dyddiol o’r iaith. Dan arweiniad Carys-Hedd, mae’n gwahodd cyfranogwyr ledled Aberteifi a gogledd Sir Benfro i ail-greu’r Betgwn traddodiadol gyda’i gilydd—pob un yn ei steil ei hun—mewn gweithdai dan arweiniad gan ddefnyddio deunyddiau lleol ac â phwysigrwydd personol. […]
Esgyn

Mae Esgyn yn brosiect gymunedol sy’n cyfuno gwnïo a chanu Cymraeg i gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac arfer dyddiol o’r iaith. Dan arweiniad Carys-Hedd, mae’n gwahodd cyfranogwyr ledled Aberteifi a gogledd Sir Benfro i ail-greu’r Betgwn traddodiadol gyda’i gilydd—pob un yn ei steil ei hun—mewn gweithdai dan arweiniad gan ddefnyddio deunyddiau lleol ac â phwysigrwydd personol. […]
Rhian Anderson – Caerffili

Bydd Celf yn y Caffi yn cael ei gynnal fel sesiynau celf greadigol sy’n dod â phobl o Ddyffryn Aber ynghyd gyda’r nod o hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd wedi’i anelu at bob lefel a gallu, gan gynnwys y rhai heb unrhyw brofiad blaenorol ond diddordeb a chwilfrydedd am y Gymraeg. Dyma ychydig am y prosiect: Yn […]
Storiel , Amgueddfa Gwynedd

Mae Storiel yn oriel gelf a amgueddfa ym Mangor sy’n cyflwyno celf a casgliadau hanes cymdeithasol o bob rhan o’r gogledd, gyda phwyslais arbennig ar Wynedd. Nod Gwasanaeth Amgueddfeydd Gwynedd yw casglu eitemau, gofalu amdanynt, eu gwarchod, eu harddangos a’u dehongli ar sail hanes a chymeriad unigryw Gwynedd a sicrhau bod y casgliadau hyn yn […]
Pam Common Art Collective

Rydym yn sefydliad dan reolaeth artistiaid sy’n gweithio at lefel llawr gwlad i gefnogi ecosystem o weithgaredd celfyddydol hygyrch yn Nwyrain Caerdydd. Rydym yn gweithio gyda ffurfiau darlledu, print, tyfu, coginio, a bwyta gydag artistiaid a chymunedau.
Rhwyd

Rhwydwaith yw Rhwyd sy’n cefnogi mentrau cymunedol i sicrhau lle’r Gymraeg wrth iddynt gynnal gwaith cymunedol ac adfywio economaidd.
Kumbukumbu
Darganfyddwch gyfoeth hanes a diwylliant Du Cymreig. Mae Kumbukumbu yn bodoli i ddathlu, gwarchod a rhannu hanes gwerthfawr a diwylliant bywiog cymunedau Du Cymreig. Gyda’n casgliadau cynhwysfawr ac ymgysylltu cymunedol, rydym yn sicrhau bod y straeon pwysig yma yn cael eu cofio, ac yn parhau i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol.
Somewhere Over The Bay Bro

Mae Somewhere Over the Bay Bro yn stori am gymuned, teulu, colled a chysylltiad. Dyma stori am fenyw a adawodd ei chymuned yn Tiger Bay ym 1945 ac sy’n dychwelyd heddiw i ganfod bod croeso iddi o hyd. Mae’r ddrama’n ymchwilio i farwolaeth cymuned trwy alaru am ei thad ac yn archwilio beth mae’n ei […]
CEREDIGION
Mas-o-ma! Dyna beth ma’r rhan fwyaf o bobol ifainc wedi’u magu yng nghefn gwlad yn dyheu am wneud. Wel, dyna stori boblogaidd y cyfryngau, beth bynnag. Mae’r ffilm fer CEREDIGION yn cwestiynu’r naratif ddiog honno. Yn siarad â rhai sydd ar fin ’madael yn ogystal â rhai sydd wedi dychwelyd daw’r ffilm ar ddiwedd prosiect […]
Wês Glei
Taith Gerdded Terfysgoedd 1919

Rydym wrth ein bodd eich gwahodd i daith gerdded ddwyieithog diweddaraf am derfysgoedd hil ar Sadwrn 25ain Hydref, 2025. Dros ganrif yn ôl roedd Caerdydd yn dyst i’r terfysgoedd gwaethaf hil o’u bath ym Mhrydain– gan adael “o leiaf tri yn farw”, a llawer mwy wedi eu halltudio i’r Ymerodraeth Brydeinig. Oedd Muhammad Abdullah dim […]
Hydref GwyrddNi

15/10/25 – 31/10/25 Dewch i ymuno hefo hydref o hwyl! Mae Hydref GwyrddNi yn galendr o ddigwyddiadau i bawb sydd eisiau dathlu a chymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd lleol, cymunedol. Beth sy’n mynd ymlaen fel rhan o Hydref GwyrddNi? Ewch i’r dudalen Digwyddiadau i gadw llygaid ar bopeth sy’n digwydd!
Y Glo o Dan ein Traed, Y Gwynt uwch ein pennau
Valleys Cymunedoli Cymoedd: Stori O’r Cymoedd
Defending the Right to Protest Research- Palestine and Solidarity in England and Wales: Online event to launch our research report

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Insaafi

Ystyr Insaafi yw cyfiawnder a thegwch mewn Arabeg, Wrdw a Hindi. Sefydliad celfyddydau ymbarél yw Insaafi sydd â’i wreiddiau yn Trelluest, Caerdydd, a Wandsworth, Llundain. Gyda dros 40 mlynedd o brofiad, rydym yn parhau â’n hetifeddiaeth gyda dull blaengar sy’n cwmpasu cyfiawnder cymdeithasol, polisi, y celfyddydau a threftadaeth.
GWYDDGig 2025

Gŵyl Gymunedol Gymraeg newydd yn Yr Wyddgrug yw Gwyddgig sy’n ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sesiynau addas i ddysgwyr a mwy. Felly dyma estyn gwahoddiad i chi i ymuno yn y bwrlwm ar Sgwâr Daniel Owen ar 12fed Gorffennaf 2025 – ar hyn oll am ddim!
Haf GwyrddNi

19/07/2025 – 03/08/2025 Dewch i ymuno hefo haf o hwyl! Mae Haf GwyrddNi yn galendr o ddigwyddiadau i bawb sydd eisiau dathlu a chymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd lleol, cymunedol. Dyma rhai o’r digwyddiadau a fydd yn digwydd – manylion i ddod! Gŵyl Gardd Wyllt (Penygroes) Gŵyl Gwneud Dyffryn Ogwen Anturiaethau a theithiau cerdded Teithiau tywys […]
Cymunedoli

Rhwydwaith o fentrau a busnesau cymunedol yw Cymunedoli Cyf sy’n cefnogi pobl, yn rhedeg cynlluniau trafnidiaeth gymunedol, yn cynhyrchu ynni, datblygu Gymunedol, economi, tafarndai gofal a llawer mwy ac yn hyfforddi arweinwyr mentrau cymunedol y dyfodol. Ond beth mae cymunedoli yn feddwl? Mae cymunedoli yn golygu bod y gymuned yn berchen ar ei hadnoddau ei […]