Cartref digidol diwylliant Cymru.

CEREDIGION

CymunedFfilm

Mas-o-ma! Dyna beth ma’r rhan fwyaf o bobol ifainc wedi’u magu yng nghefn gwlad yn dyheu am wneud. Wel, dyna stori boblogaidd y cyfryngau, beth bynnag.

Mae’r ffilm fer CEREDIGION yn cwestiynu’r naratif ddiog honno. Yn siarad â rhai sydd ar fin ’madael yn ogystal â rhai sydd wedi dychwelyd daw’r ffilm ar ddiwedd prosiect Arfor Llywodraeth Cymru, cynllun a ddarparodd grantiau gwneud gwahaniaeth-go-iawn i fentergarwyr ifainc i’w galluogi i fuddsoddi yn eu dyfodol o fewn broydd Cymraeg eu mebyd.

Er ir ffilm gael ei hariannu’n raddol gan Arfor, mynnodd y fenter greu-ffilmiau gymdeithasol Wes Glei ryddid golygyddol er mwyn eu galluogi i fynd at graidd y cwestiwn diboblogi ‘ma a chael gw’bod beth yn wir sy’n chwildroi yn y meddyliau Cymreig ifainc hyn wrth iddynt wynebu’r dyfodol.

Elliw Dafydd (Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr)

RHANNWCH