Ynys – Gyda Ni
Gwyliwch fideo ar gyfer sengl newydd Ynys, Gyda Ni, oddi ar yr albwm newydd ‘Dosbarth Nos’ bydd yn cael ei ryddhau ar Recordiau Libertino ar y 12fed o Orffennaf.
Berian – DSD
‘DSD’, fy sengl cyntaf, allan nawr / My debut track, ‘DSD’, out now via UNTRO. Cyfarwyddwr / Director : Aled Victor Ariannir gan / Funded by : Cronfa Fideos Lwp x PYST Music Video Fund
BERIAN – DSD

‘DSD’, fy sengl cyntaf, allan nawr / My debut track, ‘DSD’, out now via UNTRO.
Cyfarwyddwr / Director : Aled Victor
Ariannir gan / Funded by : Cronfa Fideos Lwp x PYST Music Video Fund
Digwyddiad Rhannu Comisiynau Trawsgyweirio | Modulate Commission Sharing Event

Dyddiad: 06/06/24
Amser: 18:00-19:00
IAP: Claire Anderson
Capsiynau: Mirella Fox
Cofrestrwch yma.
Ymunwch â ni i glywed am y pedwar prosiect cerdd a gomisiynwyd gan bedwar cerddor ifanc talentog yn ymateb i alwad gennym ni i “Deall y profiad byw o fod yn gerddor/person anabl yng Nghymru yn y byd cyfoes. Mae’n ymwneud â sut mae hi i chi yn y presennol.” ac mae rhai themâu cyffredin yn y modd y maent wedi ymateb i hyn ac mae rhai wedi manteisio ar y cyfle i ehangu ar ei waith.
Dewch draw i ddarganfod beth sy’n cysylltu’r pedwar artist hyn sydd ag arddulliau a dulliau gwahanol iawn o wneud cerddoriaeth yn ogystal â phrofiadau unigol iawn o fod mewn diwydiant sy’n dal i analluogi cerddorion ifanc talentog oherwydd eu bod yn digwydd bod â nam neu ddau.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth: rachel@dacymru.com neu nye@dacymru.com
Yws Gwynedd – Bae
Sengl Dawns Indi hafaidd newydd gan Yws Gwynedd wedi’i gynhyrchu a’i recordio gan yr amryddawn Rich James Roberts, sydd hefyd drymio i’r band. Mae’r trac yn enghraifft fywiog o naws cerddorol y band a’r cynhyrchydd. Mae Balafon N’famady Kouyate yn ymddangos ar y recordiad hefyd, a hon yw sengl cyntaf y band ers mis Awst y llynedd.
Mae Bae yn dapestri cyfoethog o sain sy’n cyhoeddi’r albwm sydd i ddod, fydd yn cynnwys set llawn o draciau, sydd wedi’i recordio dros gyfnod o 2 flynedd. Mae’r albwm hir-ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi’i osod cyn diwedd y flwyddyn.
I gyd-fynd a’r sengl, dyma fideo sydd yn wledd weledol ac yn serennu Saran Morgan a Gwion Morris Jones.
Ara Deg 2024

Neuadd Ogwen, Bethesda
Dydd Iau 22/8 7yh
DAS KOOLIES
GROUP LISTENING
Dydd Gwener 23/8 7yh
BILL RYDER-JONES
Dydd Sadwrn 24/8 o 10yb
- 10:00 – Ffair recordiau, llyfrau, dillad a brecwast
-
11:00 – Ffilm PANDORA’S BOX gyda thrac sain byw gan PAT MORGAN ac ALAN HOLMES
-
15:00 STRAWBERRY GUY + cefnogaeth i’w gadarnhau (Capel Jerwsalem)
-
17:00 – DJ DON LEISURE (Fic)
-
19:00 – Hwyr
-
MERCHED LLOERIG
-
FFLAPOGRAM
-
GRUFF RHYS
-
DJ DON LEISURE
- DJ ANDY VOTEL
Tocynnau penwythnos ar gael yma
BERIAN – DSD
Mae sengl gyntaf y cynhyrchydd, BERIAN, allan nawr drwy UNTRO!
Bydd y fideo yn cael ei ddangos am y tro cyntaf cyn pob dangosiad o’r ffilm ‘Hoard’ yn Chapter fis yma. Archebwch eich tocyn yma.
CWMWL TYSTION III | EMPATHY ar daith / on tour

30/5/24 – Pontio, Bangor, gyda sesiwn holi ac ateb ar ôl y perfformiad
31/5/24 – Tŷ Pawb, Wrecsam (fel rhan o Wŷl y Wal Goch)
1/6/24 – Theatr y Werin, Aberystwyth
5/6/24 – Lost ARC, Rhaeadr Gwy
6/6/24 – Theatr Soar, Merthyr Tudful, gyda sesiwn holi ac ateb ar ôl y perfformiad
7/6/24 – Neuadd Dora Stoutzker, Caedrydd, RWCMD, gyda sesiwn holi ac ateb ar ôl y perfformiad
8/6/24 – Cafe OTO, Llundain
Cronfa Fideos PYST x S4C 2026-27: Canllawiau

Mae’r bedwaredd Gronfa Fideos PYST x S4C yn agored nawr! Mae’r gronfa yma ar gyfer creu fideo cyntaf band neu artist. Mae’r Gronfa yn cynnig cefnogaeth ariannol o £500 i artistiaid sydd heb greu fideo cerddoriaeth iaith Gymraeg o’r blaen. Gall hynny fod yn artist neu fand hollol newydd sydd am greu eu fideo cyntaf, […]
GWYDDGig

Gŵyl Gymunedol Gymraeg newydd yn Yr Wyddgrug yw Gwyddgig sy’n ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sgyrsiau i ddysgwyr a mwy. Felly dyma estyn gwahoddiad i chi i ymuno yn y bwrlwm ar Sgwâr Daniel Owen ar 15fed Mehefin 2024 – ar hyn oll am ddim!
Gŵyl Y Gwylliaid

Grŵp o bobl lleol sy’n trefnu digwyddiadau er budd y gymuned.
Gŵyl y Gwylliaid – BWM BWM BWM

Nos Wener 28 Mehefin – Bragdy’r Beirdd – 8yh; gyda’r Prifardd Rhys Iorwerth, yng nghwmni tîm talwrn y Llew Coch. Mynediad £5 – tocyn wrth y drws yn unig.
Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024 – 3yh; Gŵyl hwyliog i ddathlu bywyd ein ffrind, Betsan Wyn Morris. Gig mawreddog yng nghwmni Elin Fflur a’r band, Eden, Mei Gwynedd, Mr, Cowbois Rhos Botwnnog a Mynadd
Mynediad trwy tocyn eventbrite yn unig – £30
Dydd Sul 30 Mehefin – Diwrnod o hwyl i’r teulu – 2yh; yng nghwmni rhai o sêr Cyw ac S4C. Cerddoriaeth gan Gôr Meibion Machynlleth ac Aeron Pughe. Mynediad £5 – tocyn wrth y drws yn unig.
KIM HON – Milkshek

Mae Kim Hon wedi dod yn fand anarchaidd Cymreig eiconig sy’n creu hafoc mewn sîn sydd wedi dod yn hunanfodlon yn ddiweddar. Yn adnabyddus ledled Cymru am eu gigs egnïol, mae’r band wedi ymdrechu i fynd â’u sŵn Psych-roc Cymraeg i gynulleidfa ehangach, gyda eu alawon a’u synau sy’n chwalu ffiniau tra’n swnio’n gyfarwydd. Wedi ymddangos yn ddiweddar ar rhaglen Paranormal ar BBC Three gyda Sian Eleri (DJ BBC Radio 1). Mae ‘Milkshake’ yn drac oddi ar eu albym gyntaf, a gafodd ei ryddhau fis Tachwedd 2023 ar Recordiau Côsh.
Atgof – Eryrod Meirion

Perfformiad Eryrod Meirion o’i sengl, ‘Atgof’.
Geiriau: E. Prosser Rhys
Cainc/Trefniant: Gavin Ashcroft
Telyn: Dylan Cernyw
Cynhyrchydd sain: Ifan Jones – Drwm
Cynhyrchydd fideo: Dafydd Hughes – Amcan
Hyfforddwraig: Branwen Williams
Lleoliad: Neuadd Bentref Llangywer
Comisiynau Bloeddiad Olaf Trawsgyweirio

Bloeddiad Olaf Am Chwech O’r Goreuon
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod chwe chomisiwn newydd wedi’u dyrannu i chwe cherddor ifanc anabl o banel Trawsgyweirio Celfyddydau Anabledd Cymru. Mae’r chwech a ddewiswyd yn cynrychioli pedwar prosiect ysgrifennu caneuon/recordio, un prosiect fideo ac un prosiect podledu. Bydd pob un ohonynt yn mynd i’r afael â’u profiad o fod yn berson creadigol anabl yn gymdeithas heddiw a’u profiadau personol, weithiau’n boenus, weithiau’n ddoniol. Maen nhw i gyd yn gerddorion ifanc hynod fedrus ac ni allwn aros i weld beth maen nhw’n eu creu.
Bydd pedwar o’r prosiectau yn cael eu harddangos mewn digwyddiad rhannu ar 06/06/24 am 18:00 gyda dehongliad IAP gan Claire Anderson.
C E L Λ V I – COFIΛ’R ENW
RHΛN O GRONFΛ LŴP x PYST / PΛRT OF LŴP x PYST MUSIC VIDEO FUND
C E L Λ V I – BITE MY TONGUE
C E L Λ V I – LULLΛBY
Hel Clecs ( Lord Willin x Mr Phormula ) – “Say No More”
the new Hel Clecs E.P. “S.A.N.D” is out now !
Taran – Pan Ddaw’r Nos
Cyfarwyddwr: Cai Thomas
Ariannir y fideo drwy Gronfa Fideos Lŵp x PYST.
CARCHARDAI

Bocs, Canolfan y Mileniwm Cymru
25 – 28/4
12:00 – 16:00
Tafwyl 2024

13 – 14.07.24
Parc Biwt/Bute Park
| təʊl | R&D film
Gwaith amlddisgyblaethol newydd ar gyfer offerynnau taro, a seined ymdrochol gan John Meirion Rea.
Cydwethrediad â’r Fonesig Evelyn Glennie.
PARADE
“Canol Dinas yw lle mae’r holl hen gofadeiladau, ond nid, gan amlaf, lle mae bywydau pobl….y canol yw lle wyt ti.” Guido Guidi.
Lleisiau pobl Cymru yw ysbrydoliaeth fy ngwaith creadigol. Hoeliwyd fy sylw ar natur felodig a gwead ein tafodieithoedd Cymraeg ac Eingl-gymreig brodorol, a’r ffordd y cânt eu hadlewyrchu yn amlinelliad ein tirwedd, yn wledig a dinesig. Gellir gweld yr agwedd hon yn PARADE, sef comisiwn Canfod Maendy/ Finding Maindee ar gyfer Llyfrgell Maendy, sef rhan o fenter Creu Cymunedau Cyfoes, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Wrth greu PARADE, cwrddais â phobl a recordiais eu storïau, wrth ochr y sinematograffydd a ffotograffydd, Huw Talfryn Walters. Cyflwynais y deunydd verite yma yn ffurf gosodwaith sain amgylchynol, ac ymyrraeth sonig. Wrth wneud hyn, cyflwynais y gwirioneddau a thirweddau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn, mewn cyfuniad â sain a delweddaeth haniaethol sy’n arwyddo a symboleiddio ystyr a synnwyr lle, a themâu hunaniaeth, perthyn, a Chenedligrwydd. Teimlais yn gryf y dylid cynnig llwyfan i’r bobl yma gael siarad.
CONCRÈTE: Site-Specific Installation and performance work.
Ni chafodd chwyldro’r ugeinfed ganrif mewn sain a cherddoriaeth ei ddangos ar y teledu, ond yn hytrach cafodd ei roi ar dâp, ei samplo, ei drin, a’i ddyfeisio o’r newydd; gan osgoi hen draddodiadau wrth chwilio am sawl Iwtopia sonig gyfoes.
Dyfeisiwyd technolegau recordio/electronig newydd gan rai. Fe wnaeth rhai eraill ymateb i sŵn, gan greu a chwilota ffurfiau cyfoes o fynegiant, a rhannu aflonyddwch yn y chwyldro sŵn-cerddoriaeth parhaus hyn a ddechreuodd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac sy’n parhau i fod yn berthnasol.
Mewn ymateb i hyn, creodd John berfformiad sonig byw; yn wrogaeth ac yn deyrnged i Ddyfodolaeth, Adeileddiaeth Rwsiaidd, Bauhaus; a meddylwyr a chrewyr gwrthryfelgar fel Maurice Martenot, Léon Theremin, John Cage, Karlheinz Stockhausen, Cornelius Cardew, Luciano Berio, Edgard Varèse, Iannis Xenakis, Milton Babbitt, La Monte Young, Kraftwerk, Robert Moog, Don Buchla, Brian Eno, Gweithdy Radioffonig y BBC, John Zorn….
Yn yr hen ffatri arfau rhyfel, yn Dumballs Road, Caerdydd, fe gymerodd y Cyfansoddwr John Rea a’r Dylunydd Sain, Simon Jones ran mewn perfformiad sonig am un tro yn unig. Fe wnaeth y perfformiad drin cipio sain a thechnoleg cynhyrchu sain y gorffennol a’r presennol. Wedi hynny, rhoddwyd gosodwaith trwythol a grëwyd gan John yn y gofod hwnnw am weddill yr Ŵyl.
Atgyfodi (vb revive, vb resurrect). Arthur Morris Roberts and Capel Celyn.
Dyma glip o’r darn Atgyfodi yn cynnwys recordiadau o ardal Tryweryn, a chyfweliad hefo ffermwr lleol Arthur Morris Roberts, a welodd Capel Celyn yn boddi fel bachgen ifanc. Mae Atgyfodi yn cyfuno perfformiad byw, a gosodweithiau sain, wedi eu ysbrydoli gan archifau sain a ffotograffig Amgueddfa Sain Ffagan. Perfformiwyd y darn, ynghyd a’r gosodweithiau yn yr Amgueddfa ym Mis Hydref, 2018, ac yn Wyl Diffusion/Ffotogallery a Green Man ym 2019. Mae’r mix gwreiddiol yn ymdrochol, 5.1.
The Queer Emporium

Siop a menter gymdeithasol yng Nghaerdydd sydd yn cynnwys 20 busnesau bach LHDTC+, sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau.
John Meirion Rea

Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd. Fe astudiodd dan adain y cyfansoddwr nodedig Alun Hoddinott, a bellach mae’n gweithio […]
Cymuned Creadigol Chapter x John Rea
Dysgwch fwy am waith John Rea yma
Gŵyl Rhuthun Festival 2024

Leinyp Top Dre 2024
Dyma leinyp llawn Top Dre eleni! Pwy ydych chi’n edrych ymlaen i weld mwyaf?
Dydd Sadwrn 29ain o Fehefin
1yh-8yh
£5 (plant am ddim)
GRIEF
Ymdeimlad a brofir gan lawer ond na chaiff ei drafod bob amser.
Mae GRIEF yn paentio darlun o’r tudalennau a’r camau rydyn ni’n mynd trwyddynt wrth wynebu’r agweddau sy’n ffurfio galar. Trwy gerddoriaeth wreiddiol wedi’i gyfansoddi gan Francesca Amewudah-Rivers, symudiad wedi’i goreograffi a’i berfformio gan Arnold Matsena, a geiriau wedi’u hysgrifennu a’u perfformio gan Connor Allen, mae GRIEF yn archwilio effaith colled o safbwynt y corff. Mae’n archwiliad corfforol agos atoch o ymdopi’n barhaus â’r egni a’r emosiwn sy’n cyd-fynd â galaru.
Cerddoriaeth wedi’i chyfansoddi a’i chynhyrchu gan // Music Composed and Produced by – Francesca Amewudah-Rivers
Testun wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan // Text Written and Performed by – Connor Allen
Cyfarwyddwyd gan // Directed by – Connor Allen and Francesca Amewudah-Rivers
interbeing
Mae interbeing, term a grëwyd gan y meistr Zen a gweithredwr heddwch, Thich Nhat Hanh, yn mynegi bodolaeth gysylltiedig pob peth. Yn deillio o’r term hwn, mae’r interbeing yn gollage operatig arbrofol sy’n archwilio perthynas dynoliaeth â’r tir ac, yn benodol, sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr amgylchedd. Mae’n awgrymu bod popeth yn bodoli mewn cyflwr o fod yn gysylltiedig, wedi’u gweu gyda’i gilydd ac yn ddibynnol ar ei gilydd. Gan ddefnyddio’r cysylltiad corfforol rhwng tir a chorff fel motiff gweledol a sonig, mae’r opera hon yn gwasanaethu fel galwad i weithred.
Cerddoriaeth // Music – Simmy Singh
Libretto a Delweddau // Libretto and Visuals – ASHA
GIG KLUST 05

Bydd Mellt, Half Happy, Siula a Melfed Melys yn chwarae yn Victoria Dalston, Llundain ar y 3ydd o Fai!
Tocynnau ar werth dydd Gwener am 10AM via klustmusic.com.
Harmonious Melodies Await: Oasis One World Choir Presents ‘Pot of Good Vibes’

Gweithdy a pherfformiad gyda Chôr Un Byd Oasis!
Cyn Cwsg – Asgwrn Newydd

Fideo wedi’i saethu yn Queen Street, Caerdydd.
Cyfarwyddo, cynhyrchu a golygu: Aled Victor
Mwddrwgs cynorthwyol: Twm Ebbsworth a Carwyn Selway
Rhan o gronfa fideos Pyst x Lŵp S4C | Part of Pyst x Lŵp S4C music video grant
UNTRO

Mae PYST yn falch o gyhoeddi system newydd fydd yn cefnogi artistiaid newydd i ryddhau eu senglau cyntaf a chreu chyfleon i hyrwyddo y senglau hynny. Gan greu partneriaeth rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp/S4C a Klust, bwriad UNTRO yw cynrychioli, cydlynu a hyrwyddo traciau gan artistiaid newydd o Gymru gan roi iddynt […]
Cyn Cwsg – Asgwrn Newydd/Lôn Gul
SENGL DDWBL CYN CWSG, ‘ASGWRN NEWYDD / LÔN GUL’, ALLAN 8FED MAWRTH AR UNTRO
Son of Chamber Symphony: UPROAR

Mae UPROAR – Ensemble Cerddoriaeth Newydd Cymru yn dychwelyd gyda’i brosiect diweddaraf ar gyfer 17 o gerddorion, gan hyrwyddo rhai o’r lleisiau mwyaf cyffrous ym myd cerddoriaeth glasurol Cymru heddiw ochr yn ochr â chyfansoddwyr rhyngwladol sydd wedi ennill sawl gwobr.
Ysgrifennwch Gân | Write a Song

Cyfres o gweithdy am ddim mewn cyfansoddi caneuon, canu a cherddoriaeth.
UNTRO

Ryddhau senglau cyntaf artistiaid o Gymru. Partneriaeth rhwng PYST x Lŵp x Radio Cymru x Klust x Cymru Greadigol.
Rufus Mufasa

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau.
Ein Hartist y Mis ar gyfer mis Mawrth yw Rufus Mufasa, artist cyfranogol arloesol, actifydd llenyddol, bardd, artist rap, canwr-gyfansoddwr, creawdwr theatr, ac yn olaf ond nid lleiaf, Mam.
O Gymrawd Barbican i Fardd Preswyl cyntaf Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Rufus hefyd yn gweithio’n rhyngwladol, gan sicrhau preswyliadau llenyddol o Ŵyl Lenyddiaeth Hay i Sweden, y Ffindir, Indonesia, a Zimbabwe, ond mae bob amser yn dychwelyd i People Speak Up yn Llanelli, Cymru, gan hyrwyddo addysg hip hop, barddoniaeth perfformio a datblygiad rhwng cenedlaethau, a chafodd ei phenodi yn Fardd ar Bresgripsiwn 2021. Artist Hull ’19 ar y cyd â BBC Contains Strong Language, Flashbacks and Flowers yw ei chasgliad cyntaf, a gyhoeddwyd gan Indigo Dreams, a ddyfarnwyd am eu harloesedd mewn cyhoeddi a Enillodd Rufus Wobr Farddoniaeth Ryngwladol 2022 am hyn. Mae gwaith Rufus yn archwilio mamolaeth, ysbrydolrwydd llinach, dosbarth, anhrefn hinsawdd, trawma traws-genhedlaeth, y dwyfol a’r cartref, ffeministiaeth a ffydd.
Eden – Siwgr

Ail sengl Eden o’r flwyddyn ‘Siwgr’.
Yn dilyn llwyddiant ‘Caredig’ fis diwethaf (y fideo’n cael ei wylio dros 40,000 o weithiau o fewn y 24 awr gyntaf) mae’r band yn barod i ryddhau eu tiwn nesaf ar ffurf alaw bop felys wedi’i chyfansoddi gan Yws Gwynedd, Rich James Roberts a Ifan Siôn Davies.
Mae Non, Emma a Rachael, sydd i gyd yn troi’n 50 eleni, yn falch i gael dymchwel stereoteipiau a gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Er iddynt ffurfio dros 30 mlynedd yn ôl, mae’n edrych yn debyg mai 2024 fydd eu blwyddyn brysuraf hyd yma, gyda mwy o gerddoriaeth gyffrous i ddod – gwyliwch y gofod.
Cyfarwyddwr : Ynyr Morgan Ifan
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Llion Gethin
Cyfarwyddo Symudiad : Elan Isaac
Cynorthwyydd Camera 1af : Lewis Morgan
Adnoddau : Firebug
Colur a Gwallt : Lisa Pugh
Golygu : Brychan England
Cynhyrchu : Ynyr Morgan Ifan, Owain Jones & Catrin Morris
Sesiwn Fawr Dolgellau 2024

Sesiwn Fawr Dolgellau – First wave 2024
18-21 Gorffennaf – Dolgellau, Gwynedd
Tocynnau ar werth 1 Mawrth yma
Mwy o wybodaeth i ddod
UNTRO

Cyhoeddi system i gefnogi artistiaid Cymraeg newydd.
Gŵyl Llais Cappella Arberth | Narberth A Cappella Voice Festival 2024

Cyngerdd Gŵyl Llais Cappella Arberth 2024: Dathliad o ddiwylliant Cymru a rhagoriaeth gerddorol.
Gŵyl Triban 2024
Mai 31 – Mehefin 1
Eleni, bydd Gŵyl Triban yn ôl am y drydedd flwyddyn i gloi wythnos Eisteddfod yr Urdd mewn steil. Bydd Triban yn cael ei gynnal rhwng y 30ain o Fai i’r 1af o Fehefin ar Faes yr Eisteddfod, a’n cynnig adloniant i’r holl deulu – cerddoriaeth byw, comedi, sgyrsiau, stondinau, bar a bwyd!
I agor Gŵyl Triban ym Maldwyn, ar nos Iau’r 30ain o Fai, bydd noson Gŵyl Gomedi Machynlleth, ar y nos Wener bydd Bwncath ac i gloi nos Sadwrn bydd Eden!
GIG KLUST 04

Bydd ein gig nesaf ni ar ddydd Sul 11eg Chwefror draw yn Paradise Garden, Caerdydd — Setiau cynnes braf gan Dafydd Owain, Gillie, Cyn Cwsg, Lila Zing + Keyala i ddathlu lansiad ein hail gylchgrawn, KLUST 02.
Gŵyl Gerdd Bangor | Bangor Music Festival 2024

Mae Gŵyl Gerdd Bangor yn ôl!
Unwaith eto eleni, byddwch yn gallu gwylio rhai o eitemau’r ŵyl gerddorol yn rhithiol drwy AM. Dysgwch fwy am y digwyddiadau a phrynwch eich tocynnau isod.