Cartref digidol diwylliant Cymru.

Dydd Miwsig Cymru: TWST, Melda Lois & Wrenna

​🎶 Ymunwch â ni am noson anghyffelyb o gerddoriaeth fyw! Ar ddydd Gwener 7fed Chwefror, dathlwch y bywiogrwydd o gerddoriaeth Gymraeg fel rhan o Dydd Miwsig Cymru gyda rhestr o dalent anhygoel a gyflwynir gan Adlais. Bydd perfformiadau gan: 🌟 TWST – Yn adnabyddus am eu sain unigrye a’u presenoldeb llwyfan electroneg, mae TWST yn […]

Aberration

Digwyddiadau LHDT+ yn Aberystwyth ac ar daith: cabaret, cerddoriaeth, dawns, ffilm,
barddoniaeth, trafodaeth, gweithdai a mwy. Trefnir gan Ruth Fowler, Jane Hoy and Helen Sandler.

NAWR

Mae NAWR yn gyfres o gyngherddau amlddisgyblaeth yn Abertawe a’r Gelli Gandryll o gerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth newydd.
Dachrewyd NAWR gan Rhodri Davies, Jenn Kirby, Rose Linn-Pearl, Dan Linn-Pearl a Daryl Feehely.
Cynhelir NAWR ABERTAWE gan Rhodri Davies a Ioan Humphreys.
Cynhelir NAWR Gelli Gandryll gan Rose Linn-Pearl, Dan Linn-Pearl a Jim Kerslake.
“Y nod yw cynnig lle agored a myfyriol i gynulleidfa brofi cerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar ac agos.”

Swansea Music Hub

Organisation logo

Mae Swansea Music Hub yn gymuned o bobl sy’n cefnogi, datblygu a gwella sîn gerddoriaeth Abertawe. Dyma un lle penodol i gerddorion a’r rheiny sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth ddod at ei gilydd i rannu syniadau, creadigrwydd, digwyddiadau a chyfleoedd.

Twrw

Organisation logo

Teithiau a gigs Cymraeg, fel arfer yn byw yng Nghlwb Ifor Bach ar Stryd Womanby.

Right Keys Only

Right Keys Only yw Artist y Mis Celfyddydau Anabledd Cymru ar gyfer mis Ionawr! Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Mae Rightkeysonly yn artist E.D.M. sy’n adnabyddus am ddod â beats arbrofol a baselines trwm i sector cerddoriaeth Cymru. Artist y Mis ar gyfer […]

Gŵyl Fel ‘na Mai 2025

A dyma chi…Leinyp 2025! Gŵyl Fel ‘na Mai 2025 – 03/05/2025 Tocynnau ar werth yma | Tickets here

Cronfa Cerddoriaeth PYST: Canllawiau

1. Ynglyn a’r Gronfa Cronfa beilot newydd yw hon sy’n ymroddedig i gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth Gymreig ar lawr gwlad. Gan gynnig cefnogaeth i labeli, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda cherddoriaeth Gymreig ar hyn o bryd, bydd y cynllun peilot hefyd yn ceisio cefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad ehangach ar lefel gymunedol. Mae sîn […]

Ffenest Cyfranddaliadau Ar Agor

Mae’r amser wedi dod i’r label unigryw yma fynd ar drywydd newydd. Mae Fflach bellach wedi dod yn Fflach Cymunedol, yn label recordiau ar newydd wedd. Byddwn yn dal i wasanaethu’r gymuned y mae’r cwmni wedi erioed, ond gyda strwythr newydd a gorwelion newydd. Fel cymdeithas budd cymunedol, byddwn yn rhydd i godi arian trwy […]

CWYR rhifyn 2 yn cael ei ryddhau heddiw 🔊

Oyez, oyez! CWYR rhifyn 2 yn cael ei ryddhau heddiw 🔊 Gan gyflwyno gwledd o greadigrwydd queer, archwilir cyflawniad mewn detholusrwydd. Wedi’i gynnwys o fewn 44 o dudalennau wedi’u hailgylchu, barddoniaeth gelwydd, ffotograffiaeth ac ysgrifennu ar yr Oesoedd Tywyll 🕯️ Wedi’i argraffu a’i rwymo gan @folium_publishing, cwblheir y clawr gyda gorffeniad powdr thermo arian. Ar […]

RHIFYN 2 LANSIO CYFLAWNIAD

Mynnwch eich dyddiadur allan oherwydd rydym yn lansio ail rifyn CWYR ar ddydd Gwener 13eg o Ragfyr! Ymunwch â ni o 6:30pm yn Rare Mags i fwynhau ein rhifyn diweddaraf, yn ffres oddi ar y wasg (bach).

Plu – Yr Heliwr

7.30pm – 14/12/2024 Dydd Sadwrn / Saturday 18+ Mynediad am ddim / Free entry Gig efo’r triawd gwerin amgen ‘Plu’ A gig with the alternative folk trio ‘Plu’

Martin Jones

3.00pm Rhagfyr / December 29th Dydd Sul / Sunday Mynediad am ddim / Free entry 18+

O Benllyn i Ben Llŷn

Noson efo Tri Gog a Hwntw ac Eryrod Meirion 7.30pm – 18/01/2025 Mynediad am ddim / Free entry

Meinir Gwilym

7.30pm 01/02/2025 Dydd Sadwrn / Saturday Mynediad am ddim / Free entry

Mair Tomos Ifans

3pm 07/01/2025 – Dydd Mawrth / Tuesday Prynhawn o ganu gwerin a chwedlau / An afternoon of folk songs and folk tales. Mynediad am ddim / Free entry

The Gentle Good – Tachwedd

Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’, albwm newydd The Gentle Good (Gareth Bonello). Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria. Mae ‘Elan’ yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn anghysbell hwn, a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i Firmingham ar ddiwedd oes Fictoria. Mae’r sengl gyntaf o’r albwm, ‘Tachwedd’ yn ddathliad seicedelig calonogol o’r hydref ac yn ein hatgoffa i ddal y golau drwy’r tywyllwch.

GWOBRAU COFFA AIL SYMUDIAD

Cystadleuaeth i fandiau ac artistiaid unigol dros Gymru gyfan

Pwy sy’n gallu cystadlu?
Unrhyw fand neu artist sy’n gymharol newydd. Ydych chi’n fand ysgol? Yn ffrindiau coleg? Yn artist unigol sydd eisiau cyrraedd cynulleidfa? Hoffech chi berfformio mewn tair gŵyl yn 2025 ac ennill gwobr ariannol? Ai chi fydd yr enw nesaf ar un o’r tlysau? Profiadol neu hollol ddi-brofiad, mae’r gystadleuaeth yn agored i chi. Mae Gwobrau Coffa Ail Symudiad yn chwilio am sŵn cyfredol a sŵn i’r dyfodol. 

I gofrestru, llenwch y ffurflen yma

GAFF – Chefchaouen

O’r albym ‘Escapism’ – allan Rhag 6 ar Recordiau Côsh Records.

Cerddoriaeth gan GAFF.

Fideo gan Nic Finch.

RHYDD – BETSAN

Mae Recordiau Côsh yn falch o gyhoeddi bod y cerddor a’r cyfansoddwr, Betsan, yn ymuno â’r label ar ddechrau ei phennod greadigol newydd fel artist.

Allan nawr ar yr holl lwyfannau arferol, ‘Rhydd’ yw’r cyntaf mewn cyfres o senglau fydd Betsan yn ei ryddhau dros y misoedd nesaf. Dyma fideo arbennig, wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp a PYST, i gyd-fynd â’r trac.

Bendigaydfran – Y Goron Fawr

‘Mae’n freuddwyd i mi bod fi’n hunlle i ti’

Dyma fideo a pherfformiad trawiadol gan yr artist electro-pop o Gaerdydd i gyd-fynd â’i sengl diweddaraf – ‘Y Goron Fawr’.

Mae Bendigaydfran yn chwarae rhan cymeriad hunllefus gyda’r elfennau gweledol grymus yn creu fideo effeithiol a phriodol!

Fideo gan: Pink Chillies

Dwi Ar Gau – Lleucu Non (Official Video)

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Lleucu Non – Dwi Ar Gau

Wedi i senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN a Ffion Campbell-Davies greu argraff ar ddechrau’r flwyddyn, pleser cyhoeddi mai Lleucu Non yw’r pedwerydd artist i ryddhau drwy UNTRO, gyda’i thrac cyntaf, ‘Dwi Ar Gau’, allan ddydd Gwener 11eg Hydref.

Mae ‘Dwi Ar Gau’ yn drac sy’n efelychu natur gymhleth perthynas bell, wrth i Lleucu samplo sgyrsiau coll o ebargofiant peiriant ateb ei ffôn. Yn llithro rhwng yr amrwd a’r breuddwydiol, mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan y cerddor, Sywel Nyw, a’n cyfuno curiadau cynnil gyda melodïau moethus Lleucu. Yn rhan o gydweithrediad rhwng Klust a Youth Music, daeth y ddau artist ynghyd i recordio’r trac yng ngholeg LCCM yn Llundain fis Gorffennaf.

Gydag artistiaid fel Thallo, Mazzy Star a Cate le Bon ymhlith ei dylanwadau, mae ‘Dwi Ar Gau’ yn dod â syniadau seinyddol Lleucu yn fyw, wedi iddi hel samplau a chasglu synau dros gyfnod o bedair blynedd. Eglura Lleucu: “Dechreuais ‘sgwennu caneuon tua phedair blynedd yn ôl wrth ddechrau ymarfer y gitâr yn ystod y cyfnod clo. Mae’n gyffrous iawn gallu rhyddhau fy sengl gyntaf o’r diwedd!”

Wedi’i magu yn Nyffryn Nantlle a bellach yn byw yn Gaerdydd, ychwanega Lleucu: “Roedd recordio yn Llundain a chydweithio hefo Sywel Nyw yn brofiad arbennig iawn a dwi’n falch o allu cael y cyfle i weithio gyda chynhyrchydd mor dalentog. Mae cyd-destun lyrics ‘Dwi Ar Gau’ yn agored i’w ddehongli, ond i mi, mae o’n cyfleu’r angst mae llawer o bobl yn ei deimlo ar ôl graddio, ymhlith syniadau eraill! Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r trac.”

Dwi Ar Gau – Lleucu Non

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Beach of Dreams

Ar hyn o bryd mae TAPE yn rhan o brosiect cyffrous o’r enw Beach of Dreams; Rydym yn rhan o rwydwaith o seflydliadau, artistiaid a chymunedau mewn cenhadaeth gyffredin i archwilio ac ymateb i’r heriau hinsawdd enbyd sy’n wynebu rhanbarthau arfordirol y DU.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Jason Singh, artist, bîtbocsiwr natur, cynhyrchydd, DJ, curadur, hwylusydd a pherfformiwr. Mae wedi gweithio gyda phobl fel y BBC, Tate Britain, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i enwi dim ond rhai!

Bydd TAPE Sound yn gweithio ochr yn ochr â Jason i gipio sain o wahanol ffynonellau ym Mae Colwyn a’r ardaloedd cyfagos i’w defnyddio fel rhan o brofiad sonig trochi. Bydd hefyd yn ceisio dal straeon a safbwyntiau o’r gymuned leol. 

Mae TAPE yn falch o fod yn rhan o’r dathliad arfordirol hwn ochr yn ochr ag artistiaid a gomisiynwyd a chymunedau lleol ledled y DU!

Cymdeithasu Gyda’r Mentrau Gymdeithasol: Opra Cymru

Ymunwch â ni ar y rhifyn arbennig hwn o’n podlediad wrth i ni ddathlu carreg filltir : pen-blwydd Opra Cymru yn 15 oed! Ers degawd a hanner, mae Opra Cymru wedi bod yn perfformio gan ddod â thraddodiadau cyfoethog, melodaidd Cymru yn fyw gydag angerdd a chreadigrwydd bod rheini yn operau enwog neu rhai wedi cyfansoddi o’r newydd. Yn y bennod hon, byddwn yn mynd ar daith hiraethus drwy hanes Opra Cymru gyda cyfarwyddwr y cwmni Patrick Young, gan ailymweld â rhai o’u perfformiadau mwyaf cofiadwy . Byddwn hefyd yn plymio i mewn i’r prosiectau cyffrous sydd ar y gorwel, o gynyrchiadau newydd arloesol i allgymorth cymunedol sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. P’un mai ffan ers tro neu’n newydd i fyd yr opra Gymraeg, mae’r podlediad hwn yn siŵr o swyno ac ysbrydoli. Gwrandewch i glywed straeon y tu ôl i’r llenni, a chipolwg ar yr hyn sydd nesaf i Opra Cymru wrth iddynt barhau i swyno cynulleidfaoedd ar draws Gymru a thu hwnt. Ymunwch â ni i ddathlu hud Opra Cymru—15 mlynedd a chyfri!

Buddug – Unfan

Buddug, yr enw ifanc â’r llais aeddfed.

Mae Buddug ar ddechrau ei gyrfa wedi cael Haf prysur iawn eleni yn gigio ar lwyfannau Tafwyl, Sesiwn Fawr, llwyfanau’r Eisteddfod a pherfformio ym Maes B. Yn ogystal a hyn ymunodd â Yws Gwynedd ar Lwyfan y Maes i ganu ei sengl cyntaf – ‘Dal Dig’.

Dyma fideo a pherfformiad pwerus gan Buddug i gyd-fynd â’i thrydedd sengl – ‘Unfan’. Mae’r cymeriad a gaiff ei chwarae gan Buddug yn un sy’n gaeth i’w bywyd ailadroddus o berfformio’n ddragywydd i’r un hen gynulleidfa gan droi yn ei ‘hunfan’ wrth geisio dianc o’r rhaffau llythrennol a throsiadol.

Cynhyrchydd a Cyfarwyddo
Elis Derby

DOP, Cyfarwyddo a Golygu
Jamie Walker

Is-Gynhyrchydd
Buddug Roberts

Uwch Gynhyrchydd
Aled Wyn Jones

Rheolwr Cynhyrchu
Eleri Griffiths

Ecstras
Elain Gwynedd

Siwan Mair
Nel Angharad
Nel Jones

Colur
Annie Maycox

Gyda diolch i
Theatr Fach Llangefni a Cyfoeth Naturiol Cymru

Label cyhoeddi – Cosh

Sŵn 2024

Gŵyl cerddoriaeth gyfoes aml-leoliad glodwiw yw Gŵyl Sŵn, sydd wedi bod yn gonglfaen i dirlun diwylliannol Caerdydd ers 2007. Gydag ymrwymiad diwyro i arddangos cerddoriaeth newydd ac artistiaid dawnus sy’n dod i’r amlwg, mae rhaglen ein gŵyl yn dathlu ystod amrywiol o artistiaid, o artistiaid lleol i rai rhyngwladol.

Dros dridiau cofiadwy bob blwyddyn, rydyn ni’n cymryd yr awenau yn rhai o’n hoff leoliadau ledled canol y brifddinas. Rydyn ni’n trawsnewid y ddinas yn hyb byrlymus ar gyfer cerddorion a chefnogwyr fel ei gilydd, gan roi cyfle i chi archwilio dinas hyfryd Caerdydd, ei lleoliadau cerddoriaeth annibynnol, a darganfod cerddoriaeth newydd ryfeddol.



Eleni, bydd gŵyl Sŵn yn digwydd o ddydd Iau 17 Hydref tan nos Sadwrn 19 Hydref.

Mae lleoliadau eleni yn cynnwys; Clwb Ifor Bach, Tramshed, Jacobs Antiques Market, Tiny Rebel, The Moon, Fuel, Mad Dog Brewery, a Cornerstone.

Eleni, mae Sŵn yn rhan falch o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn dinasgerddcaerdydd.cymru.

Tocynnau

PSYLENCE 2024

Mae Pontio yn cyflwyno penwythnos o digwyddiadau arbennig fis Hydref i dathlu a chofio ein cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst).

4-6/10/24

Psylence oedd un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous i Emyr gydlynu yn ei waith yma’n Pontio gyda bandiau megis Datblygu, Adwaith, ac R. Seiliog yn gosod cerddoriaeth a’i berfformio’n fyw i ffilmiau megis: Kiss Andy Warhol, ffilmiau byr Maya Deren, Earth gan Dovzhenko, a llawer iawn mwy gan lenwi penwythnos o ddigwyddiadau yn y Sinema.

Dywediad Emyr oedd ‘adeilada fo, am mi ddown nhw’ – felly dyma ni yn adeiladu ar un o’i ddigwyddiadau mwyaf beiddgar, arloesol a chyffrous gyda penwythnos cyfan o ddigwyddiadau; Psylence 2024 fydd y mwyaf eto.

Bydd elw’r digwyddiadau yn mynd i Ymchwil Canser y DU, a ddewiswyd gan deulu Emyr.

Rhagor o artistiaid a digwyddiadau i’w cyhoeddi hefyd!

Mwy o wybodaeth a thocynnau

TÂN

Organisation logo

Mae Tân Cerdd CIC ar flaen y gad hyrwyddo artistiaid Du Cymraeg a diwylliant Du Cymraeg. Ein nod yw creu digwyddiadau arloesol, safon uchel, sydd nid yn unig yn dathlu cyfoeth talent Du Cymraeg, ond hefyd yn cyfrannu tuag at tapestri diwylliannol Cymru. Rydym yn ymroddedig i feithrin sîn gelfyddydol fywiog a chynhwysol sydd yn […]

Beacons Cymru Basecamp

Edrychwch ar y ffilm fer anhygoel hon a a gynhyrchwyd gan dîm talentog o bobl ifanc gyda chefnogaeth hwylusydd TAPE, Niall Jones.

Mae’r ffilm yn dogfennu digwyddiad Basecamp Beacons Cymru diweddar a gynhaliwyd yn TAPE, a oedd yn rhan o brosiect Winter Sounds Creu Conwy. 

Roedd y digwyddia yn cynnwysgweithdai, paneli, a pherfformiadau ar gyfer pobl ifan sydd â diddordeb yn y diwydiant cerddoriaeth. Roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig, ac rydym wrth ein bodd yn ei rannu gyda chi. 

Gareth Churchill

Artist y Mis ar gyfer mis Awst yw Gareth Churchill!

Mae Gareth Churchill yn gyfansoddwr, artist cydweithredol, athro cerdd, a bellach yn chwaraewr clarion. Mae’n athro cerdd i Ddysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn aelod o Baraorchestra ers 2018.

Hyfforddodd yn wreiddiol fel oböydd, a bu’n ffodus i chwarae ar lefel broffesiynol, cyn i strôc ei adael â namau gwybyddol, synhwyraidd a chorfforol yn 20 oed. Ailgyfeiriodd hyn ei lwybr tuag at gyfansoddi.

Fel cyfansoddwr, mae sain ei gerddoriaeth wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei brofiad byw personol, o’r rhyngweithio rhwng y mecanyddol â’r organig, ac, yn aml gydag agwedd hunangofiannol, mae ei waith yn ceisio rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau byw eraill.

Aisha Kigs – Llygaid Cudd

Rhan o brosIect AffriCerdd – sef y bartneriaeth rhwng Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi artistiaid
lliw i weithio yn y Gymraeg.

Fideo wedi’i ariannu yn rhan o bartneriaeth Lŵp x PYST.

Elfed Saunders Jones – Y Llong Ofod

“Llong i’r gofod! Llong i’r gofod, a bellach mae hi bron yn barod!” Mae Elfed Saunders Jones yn ei ôl gydag opera roc newydd yn dilyn llwyddiant ysgubol y clasuron ‘Gadewaist’ ac ‘Ar Hyd i Bawb a Fynno’ – gyda’r sengl hon ‘Y Llong Ofod’ yn un o lu o uchafbwyntiau cerddorol o’i opws ‘Cofiwch […]