“Llong i’r gofod! Llong i’r gofod, a bellach mae hi bron yn barod!”
Mae Elfed Saunders Jones yn ei ôl gydag opera roc newydd yn dilyn llwyddiant ysgubol y clasuron ‘Gadewaist’ ac ‘Ar Hyd i Bawb a Fynno’ – gyda’r sengl hon ‘Y Llong Ofod’ yn un o lu o uchafbwyntiau cerddorol o’i opws ‘Cofiwch Roswell’.
Gadewch i leisiau persain Mefus a Mafon (Siwan Morris a Siân Wyn, gynt o Saron) eich tywys ar daith drwy’r cosmos i rywle llawer gwell na’r hen fyd hwn.
Os ydy hyn oll yn swnio braidd yn estron i chi, na phoener – mae eglurhad ar y ffordd yn y frawddeg nesaf.
Mae’n stori sy’n cychwyn yn Aberystwyth ar ddiwedd y 60au. Mae myfyrwyr y coleg wedi bod yn diflannu un ar ôl y llall, a neb yn gwybod pam. Wrth i’r newyddiadurwr ifanc Geraint Jenkins (Iwan Huws, Cowbois Rhos Botwnnog) geisio cyrraedd gwraidd y stori, buan y daw i sylweddoli y bydd y llwybr yn ei arwain i rywle rhyfeddach nag y gallai byth fod wedi’i ddychmygu…
Ffilmiwyd y fideo hwn yn ystod ymarferion y cast ar gyfer fersiwn lwyfan, na’i gwelwyd gan y cyhoedd, o ‘Cofiwch Roswell’ yn Neuadd Carmel ger Caernarfon (nid Carmel ger Caerfyrddin).
Mae ‘Cofiwch Roswell’ ar gael i’w ffrydio yn ei chyfanrwydd ers hirddydd haf – 21 Mehefin i’r rhai anniwylliedig yn eich plith – ac mae’r sioe ar gael i’w rhag-archebu yn ddigidol neu ar gasét gwyrdd neis nifer cyfyngedig o wefan Klep Dim Trep. I’r Credwyr mwy cadarn, mae crysau-T ‘Cofiwch Roswell’ hefyd ar gael i’w rhag-archebu ar y wefan