Cartref digidol diwylliant Cymru.

CWRW

Organisation logo

Mae CWRW, a oedd ynghynt yn The Parrot, yn hwb creadigol yng Nghaerfyrddin, Cymru, a sefwyd yn 2019. Ei nod yw i gefnogi a meithrin talent newydd o’r gymuned leol. Mae’n cynnal amrediad eang o ddigwyddiadau, o farddoniaeth llafar i gomedi i gerddoriaeth byw, a wedi llwyfannu nifer o artistiaid arobryn. Dyma oedd y lle […]

gwilym. – ti ar dy ora’ pan ti’n canu

Ti ar dy orau pan ti’n canu

Teitl a neges tra phwerus, gysurus albwm diweddaraf y band poblogaidd Gwilym.

Dyma ail albwm hirddisgwyliedig y band ers rhyddhau Sugno Gola nôl yn 2018. Maent yn dychwelyd gyda’u sŵn newydd ddatblygiedig wrth ddal ar eu stamp gwreiddiol a chyfarwydd. Rhyddhawyd yr albwm mewn ffordd unigryw drwy’i rannu’n ddwy ran, gyda’r naill wedyn y llall yn adeiladu’r cynnwrf yn berffaith at ryddhad yr albwm yn ei gyfanrwydd ddechrau’r Haf. Mae’r band wedi parhau i fod yn brysur ers rhyddhau’r albwm wrth fynd ar wythnos o daith dros Gymru, yn ogystal a chyd-weithio efo Lŵp ar fideo, neu ffilm fer yn fwy priodol, i gyd-fynd â’r albwm.

Er mai dwy gân sydd i’w gael mae’r ffilm yn gynrychiolaeth o’r albwm â’i themâu sy’n cael ei amlygu o’u dewis o ganeuon. Y cyntaf oddi ar yr albwm, ‘dwi’n cychwyn tân’, a’r olaf i ddilyn, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’ yn gweithio’n gelfydd i gwmpasu’r cyfan.

Dilynnwn daith ddwys a phwerus cymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo ddianc o gaethiwed llwm ei fyd o fewn pedair wal wen, at ryddid llydan yr awyr agored, a hynny drwy gyfrwng cerddoriaeth. Wrth i’r cymeriad gael ei gyflwyno i gerddoriaeth mae ei fywyd yn newid yn gyfan gwbl, a honno’n un haen yn unig i’r hyn rydym yn ei weld.

Ceir yn ogystal archwiliad o’r hunain a brwydrau mewnol a pŵer cerddoriaeth o fewn hynny, ond hefyd pŵer sydd gan gwmni neu eiriau eraill. Drwy gydol y ffilm fer dydyn ni ddim yn siwr os mai ffrind yn estyn llaw yw’r cymeriad arall yntau’n ddrych neu’n ran, neu lais arall ym meddwl ‘Gwilym’. Drwy gyfrwng y ddau gymeriad a’r berthynas rhyngddynt cawn archwiliad tyfnach o wrywdod a’r hawl i deimlo, a’r hawl i fregusrwydd.

Mae’r cyferbyniad trawiadol rhwng yr ystafell un-lliw a gogoniant amryliw y tirwedd i’w weld hefyd yng nghymeriad ‘Gwilym’ wrth iddo sylweddoli gwerth a phŵer y gerddoriaeth sy’n atgyfnerthu’r neges deimladwy y dylid ei gofio, ‘ti ar dy orau pan ti’n canu’.

Chris Tally Evans

Blwyddyn newydd dda i bawb o dîm DAC! I ddechrau’r flwyddyn rydym wrth ein bodd i ailddechrau Artist y Mis, lle rydym yn rhoi sylw i waith bendigedig un o’n haelodau.

Artist y mis ar gyfer mis Ionawr bydd yr actor a’r cerddor Chris Tally Evans.

‘Mae fy albwm, Cooking Blind, bellach yn ffrydio ar Spotify, Apple Music, YouTube a thua 147 o lwyfannau eraill nad ydw i erioed wedi clywed amdanyn nhw. Mae’r albwm yn ymdrin â materion anabledd, iechyd meddwl, colled a chariad. Prosiect recordio gyda Clovis Phillips, aml-offerynnwr hynod dalentog gyda stiwdio ychydig i fyny’r ffordd oddi wrthyf yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru. Mae pob cân ar yr albwm, Cooking Blind, wedi eu sgwennu gen i, dros ryw ddeugain mlynedd o greu.’

Os da chi’n aelod o DAC ac eisiau cymryd rhan yn Artist y Mis cysylltwch gyda’ch Swyddog Celf. Gallwch ffeindio gwybodaeth am sut i ymaelodi yma.

Francis Rees – PELL

Rhan o gronfa fideos cerddorol PYST x Lŵp S4C

Cyfarwyddwyd gan Hedydd Ioan (Trac 42)

Adlais 2 Live

Bu Adlais yn canu o’r mynyddoedd gyda noson o gerddoriaeth wedi’I flaenori gan menywod yn The Foundry, Brycheiniog am 19.00 Sadwrn yr 2ail o Fawrth 2024. 

TOCYNNAU AR GAEL YMA

GIG KLUST 03

Pleser cyhoeddi y bydden ni’n dychwelyd i Victoria Dalston ar 01 Rhagfyr gyda’r arbennig Gwilym, Sywel Nyw, Talulah + DJ PalmerViolet. Tocynnau ar werth nawr!

Adlais

Echoing the best new sounds from Wales.

Adlais, presented by Connor Morgans, is a brand supporting Welsh musicians through live events, playlisting and more.

Adlais 1 Live

Mae Connor Morgans yn cyflwyno:

Hemes

Half Happy

Liam J Edwards 

Mynediad am ddim

The Moon, Caerdydd

09/09/2023

7.45pm

18+

FORTÉ PROJECT 2023-24 APPLICATIONS OPEN NOW!

CEISIADAU AM BROSIECT FORTÉ AR AGOR NAWR! Ydych chi’n creu cerddoriaeth wreiddiol yng Nghymru?  Ydych chi rhwng 16-28 oed?  Ydych chi am ddatblygu fel artist?  Yna rydyn ni eisiau clywed chi! Ewch i’n bio-ddolen i wneud cais i fod yn rhan o’r grŵp nesaf o artistiaid Forté

POP PETH DAU 1993

Cynnyrch Fidio wedi’i hachub allan o’r sdafell sdoc ar benblwydd Ankst yn 35mlwydd oedd!
Braint yw cael cyhoeddi ymddangosiad y releases/casgliadau fidio hanesyddol isod ( i gyd yn wreiddiol allan ar VHS) gan Label Ankst ar Sianel Kino Ankst. 

POPETH 1992
POP PETH DAU 1993

POPETH 1992

Cynnyrch Fidio wedi’i hachub allan o’r sdafell sdoc ar benblwydd Ankst yn 35mlwydd oedd!
Braint yw cael cyhoeddi ymddangosiad y releases/casgliadau fidio hanesyddol isod ( i gyd yn wreiddiol allan ar VHS) gan Label Ankst ar Sianel Kino Ankst. 

POPETH 1992

POP PETH DAU 1993

Dyblu cronfa fideos cerddorol Lŵp x PYST

Bydd cronfa ariannol Lŵp S4C a PYST ar gyfer creu fideos cerddorol Cymraeg yn dyblu er mwyn ariannu ugain fideo newydd dros y flwyddyn nesaf.

Er mwyn gwybod mwy am sut i wneud cais, cysylltwch â owain@pyst.net.

The Gentle Good – Galarfan

“Mae cymaint i’w ddarllen, ei weld a gwrando arno ar AM mae’n anodd gwybod ble i ddechrau. Fy nghyngor i? Mae unman yn gwbl iawn, a buan iawn y byddwch chi’n cwmpo lawr twll cwningen o ddiwylliant Cymreig rhyfeddol. Fe ddes i o hyd i waith newydd gan artistiaid rydw i’n eu caru eisoes a darganfyddais bobl a phrosiectau arbennig oedd yn newydd i mi mewn chwinc. Gallwch roi eich bys yn gywir ar guriad diwylliannol Cymru dim ond drwy fynd i’r wefan hon. Gwych.”

Ewch i weld DEWIS The Gentle Good isod nawr!

HMS Morris – Balls

Rhybudd: mae’r fideo yma’n cynnwys goleuadau’n fflachio sydd efallai ddim yn ddiogel ar gyfer pobl sydd gan epilepsi oleusensitif

Yn syml reit, neges y drydedd sengl oddi ar albwm newydd HMS ‘Dollar Lizard Money Zombie’ yw: ‘wrth gwrs fod bywyd hunan-gyflogedig ar brydiau’n teimlo’n frawychus o ansefydlog a’n ych-a-fi o hunan-hyrwyddol, ond yn y pendraw cofia fod gen ti ffrindiau sy’n dy gefnogi di, llu o freintiau sy’n hanu o amseriad a lleoliad dy enedigaeth, a does dim ystyr gwirioneddol i’r bydysawd beth bynnag, felly waeth i ti jyst ymroi i’r gwaith o dy flaen a mynd amdani fel cath i gythraul.’

Cynhyrchwyd gan HMS Morris ac Orchard Media
Ffilmio a golygu – Trigger Happy Creative
Cynorthyydd Cynhyrchu – Maisy Williams
Lleoliad – Bedwas Gymnastics Centre
Gwisgoedd a cholur- Heledd Watkins

Starring:
HMS Morris – Heledd, Sam, Billy a Iestyn.
Katie Hall
Lewys Siencyn
Elin Parisa Fouladi
Owain Jones
Jac Evans
Iwan Williams
Gruffydd Parry
+ gwestai arbennig iawn CARYL PARRY JONES
Diolch arbennig i llaw chwith Katie.

Taith The Gentle Good Tour

Cyhoeddi’r ail daith o gylchdaith newydd PYST a’r Mentrau Iaith

4.10 – Canolfan Dylan Thomas – Abertawe / Swansea (Angharad Jenkins)
5.10 – Yr Hen Farchnad – Llandeilo (Bwca)
6.10 – Y Cwtsh – Pontyberem (Lowri Evans)
13.10 – Clwb y Bont – Pontypridd (Y Dail)
14.10 – Memo – Y Bari / Barry (Parisa Fouladi)
15.10 – Tyn y Tar Tavern – Baglan (Melda Lois)
19.10 – Gwesty Pen y Bryn Hotel – Llanfairfechan (Eve Goodman)
20.10 – Ysgol Gymraeg y Trallwng – Y Trallwng / Welshpool (Iwan Huws)
21.10 – Clwb Criced – Yr Wyddgrug / Mold (Gwilym Bowen Rhys)
22.10 – Tafarn Y Fic – Llithfaen (Gwyneth Glyn a Twm Morys)

Trawsgyweirio | Modulate

Wedi galwad agored poblogaidd, mae Celfyddydau Anabledd Cymru wedi dewis yr 8 Cerddor a’r Gweithwyr Diwydiant Cerddoriaeth Anabl rhwng 18-30 fydd yn rhannu eu hangerdd, sgiliau, anghenion a dyheadau er mwyn helpu creu’r cynllun Datblygu Cerddoriaeth cyntaf ar gyfer Pobl Ifanc Anabl : Trawsgyweirio

Mae’r rhaglen yn rhedeg mewn dwy ran – cyfnod ymgynghori lle fydd y grŵp yn cynllunio rhaglen i siwtio eu diddordebau, ac yna cyfres o weithdai ar y themâu rydym wedi bod yn eu trafod, gan gydweithio â cherddorion ac arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth er mwyn dysgu rhagor. Os hoffech wybod mwy am Trawsgyweirio, neu fod yn rhan o’r cynllun yn y dyfodol, cysylltwch: Rosey@dacymru.com

Dewch i gyfarfod y panel yma!

Eisteddfod Genedlaethol 2023

Rydym wedi cael wythnos gwerth chweil yn yr Eisteddfod. Mae hi wedi bod yn wythnos lawn cymdeithasu, hwyl a chwerthin. Diolch i bob person sydd wedi ein cefnogi drwy roddion.

Mae wedi galluogi i ni fynd i’r eisteddfod eleni. Rydym yn diolch i chi o waelod ein calonnau am y profiad bythgofiadwy hwn.

Gig Daf Owain

Cerddoriaeth fyw am ddim gyda’r canwr Cymraeg Dafydd Owain. Perfformiad yn y prynhawn – amser i’w gadarnhau!

26/08

15:00

Sachasom – Braf Oedd Byw

Penblwydd hapus!

Diolch yn fawr iawn i Sam Stevens a Sion Teifi Rees AKA Pypi Slysh Productions ac i Lwp am y gronfa fideo cerddorol.

Rhan o gronfa fideos cerddorol Pyst x Lŵp S4C

Brwydr y Bandiau: Alis – Llonydd

Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae “wrth ei bodd bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at berfformio ar Lwyfan y Maes ar bnawn dydd Mercher yn y ‘Steddfod a gwrando ar y tri artist arall”. Mae’n hoff iawn o gerddoriaeth artistiaid fel – Mared, Lizzie McAlpine, Gwilym a The Beatles. 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Brwydr y Bandiau: Tew Tew Tennau – Rho fo’n ôl

Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych a dywed Eban Elwy Williams, prif leisydd y band mae “Brwydr y bandiau oedd y nod ers i ni ddechrau, ‘da ni’n teimlo’n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl.” Maent yn gwrando ar lwyth o wahanol gerddoriaeth fel band, ond mae eu prif ddylanwadau yn dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae. 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Gwilym – 05:00

05:00 oddi ar ein hail albwm, ‘ti ar dy ora’ pan ti’n canu’, allan yn swyddogol ar 04/08/23

Diolch i tîm Trigger Happy Creative am eu gwaith yn dod a’r fideo at ei gilydd.

Brwydr y Bandiau: Francis Rees – Pell

Dyma’r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn, gyrraedd y pedwar olaf, yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, ac yn un arall o griw gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig ac mae’n disgrifio’r gymuned mae’r prosiect yma wedi’i greu fel “un sy’n tyfu, ac yn gymuned sydd yn helpu ei gilydd.” Mae’n disgrifio ei cherddoriaeth fel “dream pop, ond dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth Ewropeaidd ar ôl Eurovision eleni!” 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Brwydr y Bandiau: Moss Carpet – Jugworm

Mae Moss Carpet yn brosiect o Gaernarfon, sydd yn arbrofi gyda gwahanol genres ac mae’n hoff o “arbrofi gyda gwahanol dechnegau a gweld sut mae’n mynd! Y canlyniad yw cymysgedd o weadau sonig…” Mae wedi bod yn creu cerddoriaeth am bum mlynedd, “ar ben fy hun yn fy ystafell wely, doeddwn i byth yn meddwl bysa pobl yn gwrando a mwynhau [fy ngherddoriaeth].” 

BRWYDR Y BANDIAU MAES B + BBC RADIO CYMRU 2023

Maes B and BBC Radio Cymru are happy to announce the four shortlisted artists in this year’s Battle of the Bands competition. This is the nineteenth year that the competition has been held, and this year fourteen artists or bands applied.

The four finalists are Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet and Tew Tew Tennau.

BRWYDR Y BANDIAU MAES B

Mae Maes B a BBC Radio Cymru yn hapus i gyhoeddi’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Dyma’r bedwaredd flynedd ar bymtheg i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac eleni ymgeisiodd pedwar ar ddeg artist neu fand.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau. 

Yn beirniadu’r gystadleuaeth eleni oedd Glyn Rhys-James (Mellt), Marged Siôn (Artist ac aelod o Self Esteem), Marged Gwenllian (Y Cledrau + Ciwb), a Siôn Land (Alffa).

Roedd y gystadleuaeth yn un anhygoel eleni, a’r beirniaid wedi cael tasg anodd iawn yn dewis y pedwar uchaf. Dywedodd Marged Gwenllian sy’n fasydd yn Y Cledrau a Ciwb, “Roedd safon eleni’n wych, a nifer fawr wedi ymgeisio, oedd yn gwneud pethau’n anodd i ni, ond roedd hi’n benbleth hyfryd i’w chael.”

Dywedodd Siôn Land drymiwr y band Alffa ddaeth yn gyntaf ym Mrwydr y Bandiau nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017, “Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn un o’r cystadlaethau pwysicaf yn yr Eisteddfod, yn enwedig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Mae’r gystadleuaeth yn galluogi i’r artistiaid i fynd i’r cam nesaf a chael mwy o ymwybyddiaeth ar draws Gymru a thu hwnt! Roedd y gystadleuaeth yn rhan hanfodol o daith Alffa a heb y gystadleuaeth fysa ni’m yn lle ‘da ni rŵan.”

Mae’r pedwar artist wedi recordio sesiynau yn stiwdio Sain ac mae’r perfformiadau i’w gweld draw ar YouTube Maes B.

Cynhelir rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher 9 Awst rhwng 15:30 a 17:50. 

Awen Bro – Gwyl Car Gwyllt 2023

Wel dyma ni cip olwg i chi o gwyl Car Gwyllt 2023 lle does ddim rhaid fod yn car, yn feic, yn tractor dim ond ychydig bach yn wyllt. 

Recordiau Tŷ Cerdd

Mae’r label Recordiau Tŷ Cerdd yn ein galluogi i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig i’r byd. Rydym yn gwneud recordiadau yn ein stiwdio fewnol ac mewn lleoliadau ledled Cymru, gan weithio gydag amrywiaeth o artistiaid – o rai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru, i sêr y dyfodol – ac mae llawer o’n datganiadau wedi ennyn clod ac […]

amrwd – Angharad Jenkins, Patrick Rimes

amrwd (sef raw yn Saesneg) yw albwm cyntaf dau artist sydd ar flaen y gad yn y sîn werin Gymraeg.

A hwythau ymhlith aelodau gwreiddiol y band arobryn CALAN, mae Angharad Jenkins a Patrick Rimes (sydd hefyd wedi sefydlu Vrï) wedi treulio pymtheg mlynedd ar flaen byd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, yn gyson yn plygu a churo’r gerddoriaeth honno i siapiau anghyfarwydd gyda’u dehongliadau blaengar o’r hen repertoire.

Yn sgil pum albwm stiwdio a sawl taith hirfaith ar draws tri chyfandir, mae perthynas gerddorol ddofn wedi cael ei meithrin rhyngddynt, ynghyd â rhannu iaith gerddorol reddfol, a dyhead i glywed yr alawon hynafol hyn fel ag y maent: yn amrwd a heb eu hidlo.

“mae amrwd yn crynhoi sain ein llinynnau, ein lleisiau, ynghyd ag allweddellau ac offerynnau taro. Mae’r cyflwyniad yn gignoeth, wedi’i ddinoethi, yn bur ac yn syml.”

Prynwch CD ‘amrwd’ yma

Mr Phormula – Tir

Fideo Swyddogol i “Tir”. Official music video for “Tir” (Land).

A.W.D.L (Artsit With Dual Language) OUT NOW / ALLAN RWAN!

GIG KLUST 01

Ail-fyw ein gig cyntaf ni’n y Victoria Dalston yn Llundain ar 22 Ebrill 2023 gyda Sŵnami, Malan, Wrkhouse + Talulah.

Cyfarwyddo, cynhyrchu + golygu / Director, producer + editor: Aled Victor
Ffotograffiaeth / Photography: Huw Morris-Jones
Ariannir y fideo gan / Video funded by: Cronfa Fideos Cerddorol PYST x Lŵp S4C Video Fund

GIG KLUST 02

Ail-fyw ein gig cyntaf ni’n y Victoria Dalston yn Llundain ar 22 Ebrill 2023 gyda Sŵnami, Malan, Wrkhouse + Talulah.

Cyfarwyddo, cynhyrchu + golygu / Director, producer + editor: Aled Victor
Ffotograffiaeth / Photography: Huw Morris-Jones
Ariannir y fideo gan / Video funded by: Cronfa Fideos Cerddorol PYST x Lŵp S4C Video Fund

Sywel Nyw – Deuddeg

Deuddeg mis, deuddeg sengl, deuddeg artist. Dyma gasgliad o ganeuon pop amgen a melys, a phob un o’r traciau yn ganeuon wedi eu hysgrifennu ar y cyd rhwng Sywel Nyw ac artist arall o Gymru. O arloeswyr pop megis Mark Roberts ac Endaf Emlyn i artistiaid newydd ar flaen y gad gerddorol yng Nghymru megis Gwenno Morgan a Lauren Connelly. Mae Deuddeg yn gasgliad eclectig o senglau, a phan yn dod at ei gilydd yn creu albwm grefftus, sy’n crisialu 2021 i Sywel Nyw. O guriadau dawns ffyrnig Amser Parti gyda Dionne Bennett i synau melancolig a hynaws, Bonsai gyda Glyn Rhys-James. O ganeuon mwy breuddwydiol megis Rhwng Dau gyda Casi Wyn i eiriau gonest ac amrwd Lauren Connelly yn 10/10.

Sywel Nyw ydi’r cerddor Lewys Wyn. Yn ôl Lewys, roedd creu caneuon yn y dull yma yn fodd o gyfansoddi a gweithio tu allan i fformiwlâu “undonog” traddodiadol, tra ar yr un pryd yn ei alluogi cyd-weithio ag artistiaid a cherddorion sydd ar ochr arall y sbectrwm cerddorol iddo ef. Mae pob un yn artistiaid sy’n llwyddo i gyflwyno’u dull unigryw eu hunain o ysgrifennu caneuon, a phob un â’i berthynas arbennig â diwylliant Cymru a ffordd unigryw o fynegi eu hunain trwy’r iaith.

2023 Applications Now Open

Cyfuniad o bobl ifanc o’r un meddylfryd, 16-25 oed, yn cydweithio i gysylltu pobl ifanc â chyfleoedd yn y diwydiant cerddoriaeth.

INTRODUCING RESONANT 10 – 2023

Mae Resonant yn brosiect sy’n torri tir newydd wrth geisio grymuso pobl ifanc sy’n uniaethu â rhywiau ymylol i weithio y tu ôl i’r llenni yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Gillie – Llawn

‘Llawn’ yw sengl ddiweddaraf yr artist arbrofol gyffrous o Sir Gaerfyrddin, Gillie. Ym mis Hydref y llynedd rhyddhaodd ei sengl Gymraeg gyntaf ‘I ti’ ar label Libertino, gan ddechrau pennod newydd a gosod sylfaen gadarn ar gyfer yr hyn oedd i ddod. Yn wir mae’r artist wedi cael blwyddyn go lwyddiannus yn barod gyda un o’i senglau’n cael ei chwarae ar Radio 1 yn ogsytal a ymddangos ar restr chwarae ‘NME New Bangers’. Hi ei hun sy’n ysgrifennu a chynhyrchu ei cherddoriaeth ac yn sgîl hynny dywed ei bod wedi ceisio “sonically explore something that felt both rhythmically uncertain, and free, with builds and small releases of tension throughout.”

Ffocws thematig y gân ‘Llawn’ yw’r rheolaeth sydd gan bobl neu bethau ‘allanol’ ar yr hunan. Ac, o bosib, y rhyddhâd a’r dycnwch a ganfyddir o fewn yr ansicrwydd hwnnw drwy archwilio’r hunan. Gwneir hynny trwy ddefnyddio bwyd fel trosiad, neu arf, i gyfleu’r gormodiaeth a’r syniad hwn o rywun yn bwydo rhywbeth neu rhyw naratif i rywun arall. Mae’n destun hynod sensitif a chymhleth i geisio’i gyfleu ond fe grisielir y neges yn glir yn y fideo sy’n cyd-fynd. Bu’r artist yn cyd-weithio gyda Lŵp i greu’r darn hynod drawiadol, gweledol hwn. Yn ddi-os, mae Gillie yn artist amryddawn, gan mai hi hefyd sy’n actio rhan y ddau gymeriad neu dwy ran o’r un cymeriad efallai. Fel darn mae’n hynod sinematig, gyda stampiau dylanwadol amlwg fel Wes Anderson i weld ar y cyfanwaith. Er i’r cyfan ddelio â themâu ac agweddau meddyliol dwys yr hyn sy’n ffres yw’r ffaith mai ar y rhyddhâd yma mae’r pwyslais mwyaf – y gerddoriaeth, ei rhythmau yn bleth efo’r geriau’n cyrraedd uchafbwynt. Trwy weld y cymeriad yn ymgolli yn y cyfan, cawn sicrwydd nad yw bwyd yn rhywbeth i’w ofni bellach; mae’r cymeriad yn hawlio’r ryddhad unwaith eto, yn perchnogi’r naratif, ac yn ail-gydio yn yr awennau. Felly gadewch i’r rhythmau eich rhyddhau ac i’r geriau a’r gerddoriaeth gael eu llyncu.

Cyfarwyddo/Cynhyrchu – Aled Wyn Jones
DOP/Cyfarwyddo – Andy Pritchard
Cyfarwyddwr Artisig – Andrew Cowie
Is-Gynhyrchydd – Buddug Roberts
Rheolwr Cynhyrchu – Iona Rhys

Dead Method: The Collection

“AM is a fantastic collection of Welsh culture and creativity. It’s a wonderful timeline of recent cultural highlights and it has been a joy to see it continue to grow as a community-led hub and a go-to for Welsh content.”

Ewch i weld DEWIS Dead Method nawr!

Dead Method – Marwolaeth

Arlunydd/Artist: Dead Method
Cân/Song: Marwolaeth
Cynhyrchwr/Producer: Edward Russell
Animeiddiwr/Animator: Molly Allen
Cyfarwyddwr/Director: Lloyd Best aka Dead Method

Diolch arbennig i Pyst ac Lŵp S4C/Special thanks to Pyst and Lŵp S4C