Cartref digidol diwylliant Cymru.

Marshall Art

O ddydd Gwener, Rhagfyr 19 ymlaen, mae ffilm ddogfen newydd gan Stiwdio Malwan yn cael ei ddarlledu ar-lein am y tro cyntaf mewn partneriaeth ddigidol gydag Am. Mae ‘Marshall Art’ yn adrodd stori bersonol a thrawiadol Ceirion Marshall, o ardal Maesincla, Caernarfon, am y blynyddoedd caled o gael ei fwlio yn ddi-stop. Mae’r ffilm yn […]

Pennod 77 – Marged Dafydd (c.1700-c.1785)

Cawn gyfle yn y bennod hon i ystyried dwy wedd ar yrfa lenyddol Marged Dafydd. Yn enedigol o’r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd, cafodd fywyd hir a chysegrodd lawer iawn o’i hamser i ddiogelu ac astudio barddoniaeth Gymraeg. Creodd nifer o lawysgrifau swmpus sy’n dangos ôl meddwl ysgolheigiaidd a diolch iddi hi mae rhai cerddi Cymraeg […]

Fiona & Gorwel Owen – Hela’r Dryw

Fersiwn o’r gân draddodiadol lle mae ‘hela’, i ni, yn golygu mynd i’r coed efo camera, llyfr braslunio, neu beiriant recordio, nid rhwyd. Hir oes i’r dryw bach.

Gŵyl NAWR 2025

Wedi ei ffilmio gan Hedydd Ioan a Ffion Mai Wedi ei olygu gan Hedydd Ioan

Pennod 76 – Angharad James

Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd […]

Melda Lois – Am Eiliad

Am Eiliad’ allan rwan | out now: https://orcd.co/ameiliad-orddwylan Wedi’i gefnogi gan Gronfa Fideos PYST x S4C Ffilm gan Rhys Grail (https://www.rhysgrail.co.uk)

Canllawiau Galwad Agored Sesiynau – Gŵyl Tawe

Trosolwg 1. Beth yw’r project? Mae Menter Iaith Abertawe a Gŵyl Tawe yn chwilio am bump gwneuthurwr ffilm i gydweithio ar gyfres newydd o ffilmiau sy’n dogfennu sesiynau byw yn arwain at Ŵyl Tawe 2026. Bydd pob gwneuthurwr ffilm yn gyfrifol am gynhyrchu un ffilm fel rhan o’r gyfres, yn tynnu sylw at un artist/band […]

60 Second Stories: Swansea

Mae 12 o ffilmiau byrion sy’n adrodd straeon o Abertawe mewn 60 eiliad ar gael i’w ffrydio am ddim gan Ffilm Cymru Wales. Cafodd y casgliad amrywiol o ffilmiau byrion 60 eiliad eu creu gan bobl greadigol Abertawe a ddefnyddiodd eu ffôn clyfar i rannu eu profiadau nhw o’r ddinas gan gyfuno eu sgiliau ysgrifennu, […]

Awst – Betsan (Sesiwn Byw)

‘Awst’ allan nawr ar UNTRO! 📹 – Betsan Anwyl Sain – Isaac Werling Diolch i gronfa fideos PYST x S4C ⭐️

Pennod 74 – Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen

Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i ni drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn. Awgrymwn fod delfrydau llenyddol cylch y Morrisiaid i’w gweld ar eu mwyaf eglur ym marddoniaeth ‘Goronwy Ddu’, gan fod ei feistrolaeth ar y mesurau caeth wedi gwireddu i raddaeth health […]

CEREDIGION

Mas-o-ma! Dyna beth ma’r rhan fwyaf o bobol ifainc wedi’u magu yng nghefn gwlad yn dyheu am wneud. Wel, dyna stori boblogaidd y cyfryngau, beth bynnag. Mae’r ffilm fer CEREDIGION yn cwestiynu’r naratif ddiog honno. Yn siarad â rhai sydd ar fin ’madael yn ogystal â rhai sydd wedi dychwelyd daw’r ffilm ar ddiwedd prosiect […]

Iestyn Tyne – Fy Nymuniadau

Rhan o Gronfa Fideos PYST x S4C Geiriau: Walter S. Jones (Gwallter Llyfni, 1883-1932) Alawon: Iestyn Tyne & Thomas Price (1809-1892) Cerddorion: Iestyn Tyne (llais, ffidil), Gwilym Bowen Rhys (gitar, ffidil, harmoniwm), Simmy Singh (ffidil) Peiriannu, cymysgu a mastro’r trac: Aled Wyn Hughes Gwaith camera a golygu: Dafydd Hughes (Amcan) Gyda diolch i Gronfa Fideos […]

Pennod 73 – Morrisiaid Môn

Ac yntau’n hogyn o sir Fôn, mae Richard Wyn Jones yn ebychu ar ddechrau’r bennod hon na chlywodd ‘un sill’ am y brodyr llengar hyn o’r Ynys pan oedd yn yr ysgol. Dyma gyfle felly i unioni’r cam wrth i ni drafod y pedwar brawd o Bentrerianell, Llanfihangel Tre’r Beirdd. Yn ogystal â Lewis, Richard, […]

Rhiannon O’Connor – Awen

Fideo swyddogol i ‘Awen’ gan Rhiannon O’Connor oddi ar ei EP cyntaf ‘GALWAD’. Cyfarwyddo, saethu a golygu gan Lily Tiger. Diolch i gronfa fideos PYST ac S4C am gefnogi’r fideo.

Pennod 72 – Y Ffŵl a’r Pregethwr: Yr Anterliwt (rhan 4)

Yn bell o fod yn unffurf, roedd llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn faes ymrafael. Rydym ni’n archwilio’r canfyddiad hwnnw yn y bennod hon wrth gloi ein trafodaeth estynedig ar yr anterliwt a’i chyd-destun(au). A ninnau wedi ystyried ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar y diwylliant traddodiadol hwn mewn pennod gynharach, dyma gyfle i weld yr anterliwtwyr […]

Weave | Gwehyddu 2025 Panel: Three next steps for the sector

Cadeirydd: Justine Wheatley, Cadeirydd WAHWN Gyda: Heledd Fychan, MS Sandy Clubb, Swyddog Cenedlaethau’r Dyfodol Anna Howells, Iechyd Cyhoeddus Cymru Nina Ruddle, Prifysgol Wrecsam DUKE AL, Bardd y Gair Llafar, Awdur ac Artist Hip Hip Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru Angela Rogers, WAHWN I gael gwybod mwy am WAHWN ewch i: www.wahwn.cymru

Cocoon: A musical journey through the neonatal intensive care unit

Mae Beatrice Gbevegnon-Roper a Will Roper yn cyflwyno eu hymateb cerddorol i heriau a llawenydd profiad yr Uned Gofal Dwys Newyddenedigol (NICU). Fel cwpl priod a rhieni sydd wedi profi genedigaeth gynamserol eu merch (ar 26 wythnos), mae Cocoon yn adrodd hanes dimensiynau emosiynol a synhwyraidd y daith hon o safbwyntiau mam o liw a […]

Welcome to Weave | Gwehyddu 2025

Clywch gan y canlynol: Angela Rogers – Prif Swyddog Gweithredol, WAHWN Emily Van De Venter – Ymgynghorydd Arweiniol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru I gael gwybod mwy am WAHWN ewch i: www.wahwn.cymru

The Gentle Good – Elan (Ffilm Ddogfen)

Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’, albwm newydd y canwr gyfansoddwr The Gentle Good (Gareth Bonello). Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria. Mae Elan yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio diwylliant, gwleidyddiaeth […]

Pennod 71 – Ffŵl heb Ffiniau: Yr Anterliwt (rhan 3)

Cewch gyfle yn y bennod hon i gyfarfod â Gwagsaw, Syr Caswir, Ffowcyn Gnuchlyd a rhai o ffyliaid eraill yr anterliwtiau. Wrth graffu ar rôl y ffŵl, nodwn fod ganddo nifer o swyddogaethau mewn anterliwt draddodiadol. Yn gyntaf, mae’n agor y chwarae â’i gastiau doniol a’i eiriau dychanol er mwyn ceisio denu cynulleidfa. Awn ati’n […]

Baich

Y ffilm fer ddiweddaraf i gael ei ffrydio ar ein proffil Am yw Baich gan Mared Swain, gyda Hanna Jarman a Steffan Rhodri yn serennu ynddi. Mae gan Kath ddau o blant ac mae bywyd yn anioddefol. Mae’n rhaid iddi ddianc. Un diwrnod, mewn gweithred fyrbwyll, mae’n gadael y tŷ â’r plant yn sgrechian, gan […]

Pennod 70 – ‘Dynion dawnus yn dilyn chw’ryddiaeth’: Yr Anterliwt (rhan 2)

Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth.   Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu perfformiadau mewn nifer […]

Pennod 69 – Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1)

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda chyffro. Awn ati i ddiffinio’r anterliwt […]

The City Socials // noson crafu

Ymunwch â ni yn noson sgratch The City Socials am noson o berfformiadau wedi’u hysbrydoli gan y gymuned, sgyrsiau a chysylltiadau ar ddydd Iau 25 Medi. Cyhoeddir y Perfformwyr a’r Siaradwyr yn fuan. Lle i ddarganfod // mae pob digwyddiad yn cael ei arwain gan berfformiad newydd gan un o’r artistiaid preswyl a gefnogir gan […]

Pennod 68 – Baledi’r Ddeunawfed Ganrif

Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ar ôl ymgodymu ychydig â’r diffiniad, awgrymwn mai’r cysylltiad rhwng y math hwn […]