Straeon i gynhesu’r galon

“Mae gennym ni ambell stori i gynhesu’r cocls yn y cylchgrawn yr wythnos hon”
Minas yn mwynhau creu yn Gymraeg

“Holl bwynt Minas yw bod yn authentic a bod yn agored a pheidio cuddio unrhyw beth”
Minas yn mwynhau creu yn Gymraeg

“Holl bwynt Minas yw bod yn authentic a bod yn agored a pheidio cuddio unrhyw beth”
Elan Davies

“Mae’n rili chwyslyd ac anodd ac mae’n dy wthio, ond dw i’n teimlo gymaint o foddhad pan dw i wedi gorffen gwers”
Canu am fwystfilod cyfalafol ffiaidd… a Thai Haf!

“Mae’n ddifyr chwarae caneuon Cymraeg y tu allan i Gymru hefyd achos ni’n cael sgyrsiau diddorol gyda phobol”
Canu am fwystfilod cyfalafol ffiaidd… a Thai Haf!

“Mae’n ddifyr chwarae caneuon Cymraeg y tu allan i Gymru hefyd achos ni’n cael sgyrsiau diddorol gyda phobol”
Material Queer

Croeso i gylchlythyr Material Queer. Gofod ar-lein sy’n dathlu diwylliant queer yn ei holl ogoniant. Allwch chi byth gael gormod.
Cofrestrwch i’n Substack yma.
Hunan ofal wrth sgwennu
Mae Manon wedi dychwelyd a dan ni’n mynd ar daith darllen o Rufain i
Albania. Hunan ofal wrth sgwennu yw’r thema wrth i ni drafod sut yr ydyn
yn edrych ar ôl ein gilydd trwy gyfnodau anodd.
Mae ‘na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
The General of the Dead Army – Ismail Kadare
Y Fawr a’r fach – Siôn Tomos Owen
Pwy yw Moses John – Alun Davies
Menopositif – amrywiol gyfranwyr
Rhifyn cyntaf y cylchgrawn Hanes Byw
Gladiatrix – Bethan Gwanas
A World Without Email – Cal Newport
Y Nendyrau – Seran Dolma
The Island – Ragnar Jónasson
Shade Garden – Beth Chatto
Y Gwyliau – Sioned Wiliam
The Folklore of Wales: Ghosts – Delyth Badder, Mark Norman
Sêr y Nos yn Gwenu – Casia Wiliam
Salem – Haf Llywelyn
Paid a Bod Ofn – Non Parry
Pennod 26 – Dychan, Hiwmor a Grym Celf: Dafydd ap Gwilym (rhan 3)

Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl.
Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merched Llanbadarn’. Trafodwn hefyd y gerdd a gafodd ei sensro am flynyddoedd lawer, sef ‘Cywydd y Gal’. Ac ystyriwn ei ymddiddan â’r ‘Brawd Llwyd’, cerdd ryfeddol sy’n cyflwyno fersiwn syfrdanol o fodern o Gristnogaeth ac sy’n amddiffyn yr union fath o ganu serch a gysylltir â Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn gerdd sy’n tystio i’r ffaith bod celf o safon uchel yn gallu dylanwadu ar ymddygiad pobl.

Swyddi ar gael / Job Opportunities
Swyddi ar gael / Job Opportunities
Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf

Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf yw Llyfr y Mis, mis Hydref.
Dros 60 o chwedlau gwerin a gwybodaeth am arferion gwerin Cymru, yn ôl eu hardal, gan gynnwys Cantre’r Gwaelod (Ceredigion), Nant Gwrtheyrn (Gwynedd), Gwenfrewi (Fflint) a marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri. Mae’r gyfrol hefyd yn cyfeirio at hen arferion y Cymry fel canu calennig, y Fari Lwyd, Gwaseila, Hela’r Dryw a’r Gaseg Fedi.
Wedi eu hysgrifennu’n ddisglair gan yr awdur toreithiog Robin Gwyndaf gyda darluniadau lliw gan Margaret Jones.
Dyma flas o’r gyfrol:

Marged Elen a Leo Drayton
Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?
Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.
Yn y bennod hon, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Marged Elen a Leo Drayton.
Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Torrodd gal-dem dir newydd i awduron o liw, pryd fydd cyhoeddiadau Cymraeg yn dilyn yr un trywydd?
Dilynwch Yasmin ar Twitter / X.
Gwledd y Nadolig | Festive Reads

Chwilio am anrhegion Nadolig?
Mae Gwledd y Nadolig, blas o’r llyfrau gwych o Gymru fydd ar gael o’ch siop lyfrau leol y gaeaf hwn ar gael nawr.
Galwch draw i’ch siop lyfrau leol i dderbyn eich copi yn rhad ac am ddim!
Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol, YMA

Yr iaith Gymraeg a’r Undeb Rygbi

Mae Undeb Rygbi Cymru wastad wedi ymfalchïo yn y ffaith bod y clybiau a’r cymunedau rygbi yn allweddol bwysig ym mywyd dyddiol ein gwlad. Penderfynwyd yn ystod yr Hydref diwethaf i chwilio am berson i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn yr Undeb, ac fe ges i fy mhenodi i’r swydd ym mis Chwefror. […]

Pennod 25 – Caru yn y Coed: Dafydd ap Gwilym (rhan 2)

Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ar adegau, pan fydd ei gariad yn wraig briod!). Er nad ydym yn ateb y cwestiwn astrus hwn, rydym yn ei godi o leiaf: a oedd y cariadon sy’n ganolbwynt i gynifer o gywyddau Dafydd yn ferched go iawn? Cewch glywed am y llatai hefyd, y negesydd serch y mae’r bardd yn ei gomisynu.

Creative Inclusion Plan 2030 – TAPE Community Music and Film

Mae TAPE yn gyffrous i ddadorchuddio ei Gynllun Cynhwysiant Creadigol 2030. Y cynllun yw canol hygyrch cynllun busnes newydd TAPE sy’n cymryd dros 15 mlynedd o gyflawni a datblygu. Gan cyflwyno’r ethos a ffocws i’r elusen wrth iddi greu a datblygu mwy o brosiectau newydd cyffrous a cyfleoedd i bobl yng Nghymru.
In Conversation with Carly Holmes

e live falls far short of the life we planned.
Meet our 10 Future Disrupters!!

Beth yw Future Disrupter?
Mae Future Disrupter yn rhaglen ddatblygu newydd sy’n llawn dop sgiliau trosglwyddadwy ac arweiniad i helpu unrhyw berson ifanc sy’n dymuno fod yn rheolwr prosiect. Bydd rhaglen Future Disrupter yn helpu chi datblygu sgiliau allweddol ar gyfer dyfodol eich gyrfa, gan gynnwys gwahoddiad i rwydwaith diwydiant newydd efo cyngor proffesiynol bydd yn eich helpu ar gyfer y camau nesaf.
Cwrdd â’n 10 Future Disrupters!!
Mae hyn yn bosibl diolch i’n cyllidwyr Cymru Greadigol
Newid Ymddygiad a Chyfathrebu Hinsawdd | Behaviour Change and Climate Communication

Dychmygwch: ‘dych chi wedi dylunio’r prosiect hinsawdd cymunedol perffaith. ‘Dych chi wedi gwneud cais am yr arian, mae gennych chi’r syniadau, ac rydych chi’n barod i fynd – ond ‘di’r gymuned ddim i weld eisiau cymryd rhan. Beth sy’n digwydd?
Dydy newid hinsawdd ddim yn fater amgylcheddol yn unig; mae’n fater o bobl. Er mwyn deall pam bod pobl yn dewis opsiynau llai ‘gwyrdd’ neu pam eu bod yn cau i lawr a rhoi’r gorau i wrando wrth glyed faint o ddrwg ydy pethau, mae angen i ni ddeall seicoleg ddynol.
Gogledd Iwerddon a’r Undeb – pa ddyfodol?

DARLLEN AM DDIM
Mae sefyllfa Unoliaethwyr y chwe sir yn anobeithiol a thrasig. Dyna ddengys gwybodaeth y bu’r awdur yn gyd-gyfrifol am ei chanfod. Nid yw teyrngarwch y rhai yn y Gogledd sy’n uniaethu â Phrydain yn cyfateb i’r farn yng ngweddill y Deyrnas am bwysigrwydd y dalaith o fewn yr Undeb na lleoliad y ffin.
Y Bysgodes – Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Casia Wiliam

Y Bysgodes gan Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Casia Wiliam yw Llyfr y Mis i Blant, mis Hydref.
Yn ystod haf 2022, daeth teuluoedd o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru at ei gilydd i siarad am straeon a hen chwedlau o Gymru a gwledydd Affrica
Daeth beirdd, storïwyr a chantorion Affricanaidd a Chymreig i rannu a dysgu. Yn araf bach a fesul tipyn wedyn, daeth y stori i fodolaeth. Tynnodd yr awdur Casia Wiliam y stori at ei gilydd a’i rhoi ar bapur, cyn ei phasio ymlaen at y darlunydd Jac Jones.
Dyma chwedl newydd sbon, sy’n cyfuno straeon traddodiadol Cymreig ac Affricanaidd (Ghanaidd a Nigeraidd).
Dyma flas o’r broses o greu’r gyfrol.
Pennod 24 – Meddwi’n Niwrbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1)

Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym.
Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y dyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn’, yn fardd talentog a beiddgar ar adeg pan oedd cymdeithas yn newid a phosibliadau barddol yn ymagor o’r herwydd.
Mae’n cael ei gofio’n bennaf heddiw am ei ganu search a natur (pwnc ein pennod nesaf!). Mae canrifoedd o Gymry wedi dotio at ei ffresni, ei newydd-deb, ei hiwmor a’i feiddgarwch ond nodwn ei fod hefyd yn fardd traddodiadol ar un wedd, yn canu mawl ac yn cyfansoddi cerddi crefyddol dwys yn ogystal â’r gwaith hwyliog a ffraeth a gysylltir â’i enw heddiw. Craffwn ar un o’i gywyddau, sef cân o fawl i dref Niwbwrch. Awgryma’r gerdd hon fod Dafydd yn claddu medd yn y dref – yn wir, ‘mynwent medd Môn’ oedd Niwrbwrch yn ei eiriau’i hun! – ac mae’r cywydd hwyliog hwn hefyd yn sôn am yfed gwin, cwrw a methyglyn (medd wedi’i drwytho â pherleisiau).
Stones Stories, Norman Payne
These stories are inspired by Norman Payne’s site specific installation at Plas Bodfa. They are written and performed by Norman Payne as a mocumentary to accompany his installation.
Pennod 23 – Seintiau a Phechaduriaid

Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig.
Nodwn fod y Cymry yn weddol unigryw yn eu hoffter o lunio ‘bonedd’ neu ‘achau’ seintiau (amlygiad canoloesol o’r awydd Cymreig oesol i holi i bwy mae rhywun yn perthyn, efallai!). Trafodwn draddodiad llenyddol storïol poblogaidd hefyd, ‘Bucheddau Seintiau’, cofiannau neu fywgraffiadau. Edrychwn ar Fuchedd Dewi a thrafod rôl llenyddiaeth yn y datblygiad a wnaeth ef yn nawddsant Cymru. Cewch glywed hanes cyffrous am forwyn o’r enwi Gwenfrewi wrth iddi arddel ‘strategaeth risg-uchel’ (chwedl Richard Wyn Jones) er mwyn ceisio dianc rhag y brenin cas, Caradog, a hanes y ffynnon sy’n dwyn enw’r santes honno. Cawn gyfle i ystyried canu mawl i’r seintiau, gan graffu ar un awdl sy’n dyrchafu Dewi uwchlaw holl seintiau eraill y byd.
Cyhoeddi Gyda Ni

Ffenestr Gyflwyno Nesaf: 1-30 Tachwedd 2023
‘Dach chi wedi sgwennu rhywbeth, yn chwilio am gartref amdano fo, ac wedi meddwl am Gyhoeddiadau’r Stamp (dewis da, os cawn ni ddeud), ond be nesa? Sut mae troi llyfrFINALterfynol2b.docxx yn gyfrol brint? Dyma gyflwyno ein system newydd o agor ffenestri cyflwyno ar gyfer gwaith posib i’w gyhoeddi. Cliciwch ar y botymau isod i ddysgu mwy, a pharatowch i hitio’r botwm Send rhwng 1 a 30 Tachwedd, eleni!
Dosbarth: nid yw popeth fel yr ymddengys

Dosbarth: Nid yw Popeth fel yr Ymddengys
Mae Diffwys Criafol yn archwilio sut mae anhrefn gormes dosbarth yn llesteirio safbwyntiau amrywiol
Fy niwrowahaniaeth ac ysgrifennu yn ôl y rheolau

Mae Beth Rees yn trafod bod yn awdur ag awtistiaeth ac ADHD – ac yn esbonio pam mae angen newid rheolau ysgrifennu
Taith Trwy’r Ddrysfa: Anabledd yn y Diwydiant Cyhoeddi

Gall dod o hyd i unrhyw swydd gyflogedig ym myd cyhoeddi – boed hynny’n greu cynnwys, newyddiaduraeth, golygu, adolygu llyfrau neu gylchgronau – deimlo fel eich bod yn chwilio am y Greal Sanctaidd. Nid yw’n newyddion i unrhyw un bod y celfyddydau’n cael eu tanariannu, mae llawer o gyhoeddiadau’n ei chael hi’n anodd yn y […]
Newyddiaduraeth, J.Lo – A Beth Wnaeth Fy Rhieni Pan Oeddwn i’n 14

Newyddiaduraeth, J.Lo – A Beth Wnaeth Fy Rhieni Pan Oeddwn i’n 14
Dylan Moore yn trafod ei gefndir dosbarth gweithiol a sut mae wedi effeithio ar ei brofiad mewn newyddiaduraeth
Rhowch Lwyfan i Bobl Draws

Cheryl Morgan ar pam mae angen pobl draws i’w lleisiau gael eu clywed yn ein cyfryngau
nawr 010: Growing Up

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg
Read Here!
nawr 009: Resources Of Hope

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg
Read here!
nawr 008: Cofio/Anghofio

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg
Read
nawr 007: In This Climate?

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg
Read here!
nawr 006: Caru

Read here!
WELSH WHISPERER

Cerddoriaeth fyw am ddim yn y bar gyda’r canwr gomedïwr Welsh Whisperer. Rhan o gynllun Talent mewn Tafarn gan S4C/Yr Egin ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
(Mercher) 8:00 pm – 10:00 pm
27/09/2023
Lansiad Blodeugerdd 2020

Sgwrs rhwng Ifor ap Glyn a golygyddion y gyfrol ‘Dweud y drefn pan nad oes trefn: blodeugerdd 2020’, Grug Muse ac Iestyn Tyne.
Prynwch y flodeugerdd yma!
Seiniau Stampus 1: Ffosfforws 1 gyda Ciarán Eynon
Podlediad arbennig i ddathlu lansio rhifyn cyntaf erioed Ffosfforws, cyfnodolyn newydd Cyhoeddiadau’r Stamp sy’n llwyfan i farddoniaeth o bob math. Mae Grug a Iestyn sgwrsio efo Ciarán am gynnwys y rhifyn, taith Ciarán fel sgwennwr, a sawl peth difyr arall. Mi gawn ni hefyd glywed cerddi newydd sbon sydd wedi eu cyhoeddi yn Ffosfforws gan Sion Tomos Owen, Manon Wynn Davies ac Alaw Tomos.
Rhybudd cynnwys: Ceir cyfeiriadau yn y rhifyn hwn at gerddi sy’n trafod trais a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.
Seiniau Stampus [o’r archif]: 24:24 gyda Leusa Llewelyn
Sgwrs o Hydref 2020 wrth i Leusa Llywelyn o Llenyddiaeth Cymru ac Iestyn Tyne & Esyllt Lewis o’r Stamp ddod ynghyd i drafod #Her24Awr ar ddiwedd y prosiect.
Cyfrannwyr #Her24Awr oedd: Beth Celyn, Dafydd Reeves, Dylan Huw, Eadyth Crawford, Elan Elidyr, Elen Gwenllian Hughes, Esyllt Lewis, Ffion Morgan, Ffion Pritchard, Gareth Evans-Jones, Gwenllian Spink, Gwenno Llwyd Till, Iestyn Tyne, John G. Rowlands, Lauren Connelly, Osian Meilir, Melissa Rodrigues, Rufus Mufasa, Ruth Lloyd Owen, Rhiannon M. Williams, Rhys Aneurin, Sara Louise Wheeler, Sioned Medi Evans, Steffan Dafydd a Tess Wood.
Bob blwyddyn ers 2012 ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth bu Llenyddiaeth Cymru yn herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Yn 2020, cafwyd newid cyfeiriad wrth i Llenyddiaeth Cymru gydweithio â’r Stamp i gynnal rhywbeth ychydig yn wahanol. Dan arweiniad golygyddion Y Stamp, roedd Her 24 x 24 yn dwyn ynghyd 24 artist am 24 awr.
Roedd yr artistiaid yn ffurfio cadwyn greadigol, gan ddechrau am hanner dydd ar 1 Hydref a gorffen am hanner dydd ar yr 2 Hydref. Roedd gan bob artist awr yr un i ymateb i waith yr artist blaenorol mewn unrhyw fodd creadigol, gyda’r gwaith gorffenedig yn cael ei rannu ar y we. Mae’r holl gynnyrch yn dal i fod ar gael draw ar sianel AM Y Stamp: https://amam.cymru/ystampus
Seiniau Stampus 2: merch y llyn a Stafelloedd Amhenodol o Ŵyl Geiriau Wrecsam
Darlleniadau estynedig o merch y llyn gan Grug Muse, a Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne, dwy o’r cyfrolau sydd ar restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Recordiwyd gyda chynulleidfa fyw yn Nhŷ Pawb fel rhan o Ŵyl Geiriau Wrecsam ar 23 Ebrill 2022.
Gyda diolch i Dylan Hughes a Gŵyl Geiriau Wrecsam am y gwahoddiad.
Rhybudd cynnwys: Ceir darlleniadau yn y rhifyn hwn o gerddi sy’n trafod galar a thrais, a thrais rhywiol yn erbyn merched yn benodol.