Cartref digidol diwylliant Cymru.

Newid Ymddygiad a Chyfathrebu Hinsawdd | Behaviour Change and Climate Communication

No Categories Found

Dychmygwch: ‘dych chi wedi dylunio’r prosiect hinsawdd cymunedol perffaith. ‘Dych chi wedi gwneud cais am yr arian, mae gennych chi’r syniadau, ac rydych chi’n barod i fynd – ond ‘di’r gymuned ddim i weld eisiau cymryd rhan. Beth sy’n digwydd?

Dydy newid hinsawdd ddim yn fater amgylcheddol yn unig; mae’n fater o bobl. Er mwyn deall pam bod pobl yn dewis opsiynau llai ‘gwyrdd’ neu pam eu bod yn cau i lawr a rhoi’r gorau i wrando wrth glyed faint o ddrwg ydy pethau, mae angen i ni ddeall seicoleg ddynol.

Gweithdy ar Newid Ymddygiad – Y Drenewydd, 7fed Medi

Roedd tîm Egin yn hapus iawn i gael eu gwahodd i hwyluso gweithdy ar gyfer derbynwyr Camau Cynaliadwy Cymru: Grantiau Gweithredu (a ariennir gan Asedau Segur ac a weinyddir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol) ar y 7fed o Fedi yn Hafan yr Afon, Y Drenewydd, Powys. Roedd y Grantiau Gweithredu yn grantiau i fyny at £350,000 sy’n taclo newid hinsawdd mewn cymunedau ac yn helpu pobl i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Canolbwyntiodd y gweithdy ar sut i annog newid ymddygiad yn ein cymunedau. Clywsom yn gyntaf gan Jasmine Dale, Hwylusydd Egin a Mentor Cymheiriaid sydd wedi gweithio ar sawl prosiect cymunedol. Bu Jasmine hefyd yn byw ar gymuned oddi ar y grid am nifer o flynyddoedd a defnyddiodd ei stori i ddangos y ffyrdd y gall ymddygiadau newid yn sylweddol dros nos – yn aml mewn ffyrdd efallai na fyddem yn meddwl oedd yn bosib.

Yna cawsom weithdy gan Jessica Kleczka, seicolegydd hinsawdd ac addysgwr sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu newid hinsawdd, a hefyd un o Fentoriaid Cymheiriaid Egin. Siaradodd Jessica â ni am bwysigrwydd deall seicoleg ddynol, gan gynnwys yr ymateb ymladd / hedfan / rhewi, pan fyddwn yn siarad am newid hinsawdd ac yn ceisio cynnwys pobl yn ein prosiectau. Cafodd y cyfranogwyr y cyfle i rannu’n grwpiau bach a chymharu nodiadau ar eu prosiectau eu hunain – gan feddwl am y prif heriau pan mae’n dod i gael pobl i gymryd rhan, yn ogystal a beth oeddynt wedi eu ffeindio’n ddefnyddiol wrth ysgogi newid ymddygiad.

Drwy gymharu profiadau, roedd yn amlwg bod prosiectau ledled Cymru yn wynebu’r un materion – er enghraifft, gall fod yn anodd ymgysylltu â phobl mewn prosiectau hinsawdd am bod diffyg amser, egni na’r adnoddau i gymryd rhan arnynt, efallai ei bod hi’n anodd i bobl ddeall y materion neu dydyn nhw ddim yn teimlo ei fod yn berthnasol iddynt, a gall hi hefyd fod yn anodd cael pobl i deimlo’n ddigon hyderus i roi cynnig ar bethau newydd.

Mae’n hollbwysig cofio hefyd ei bod yn annheg iawn gofyn i aelodau mwyaf ymylol cymdeithas helpu i ‘drwsio’ problem nad ydynt wedi gwneud fawr ddim i’w chreu – a dyna pam ei bod mor bwysig meddwl sut yr ydym yn fframio’r mater a be yn union rydym yn gofyn o bobl.


Annog Newid Ymddygiad

Felly sut gallwn ni annog pobl i newid eu hymddygiad, i gymryd rhan mewn prosiectau hinsawdd, ac i ddechrau gwneud rhywbeth newydd? Dyma bum awgrym bach sy’n dod o’r drafodaeth ar y diwrnod yn ogystal ag ymchwil ar newid ymddygiad a chyfathrebu yn yr hinsawdd:

Adroddwch straeon positif: Mae pobl wedi eu weirio i ymateb i straeon. Gall rhannu straeon am bobl go iawn yn gwneud newidiadau positif yn eu bywydau neu gymunedau ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Pan glywn fod newid hinsawdd yn ofnadwy a’i bod yn rhy hwyr i wneud rhywbeth, yn gyffredinol rydym yn cau i lawr ac eisiau osgoi meddwl amdano.


Annogwch berchnogaeth:
Mae’n bwysig bod y gymuned yn rhan o greu a dylunio prosiectau fel eu bod yn teimlo perchnogaeth drostynt. Does neb eisiau i rhywun arall ddod i mewn a dweud wrthyn nhw be’ i’w wneud. Mae pobl yn fwy tebygol o gefnogi mentrau pan maent yn cael dweud eu dweud, ac yn teimlo ei fod yn berthnasol i’w bywydau a’u cymunedau.


Rhowch adborth a gwobrau:
Gall rhoi adborth ar gynnydd, a chydnabod a gwobrwyo ymddygiad cynaliadwy grufhau newid cadarnhaol – er enghraifft, “her werdd” gyda gwobrau yn hytrach na chodi cywilydd neu gosbi pobl am ymddygiad “drwg”.

Defnyddio dylanwad cymdeithasol: Mae newid ymddygiad o fewn cymuned yn aml yn sbarduno newid mwy. Pan fydd un person yn dechrau arfer cynaliadwy, mae eraill yn fwy tebygol o ddilyn yr un peth. Nodwch y bobl sydd â dylanwad yn eich cymunedau – nid dylanwadwyr o’r cyfryngau cymdeithasol gyda miloedd o ddilynwyr, ond pobl sy’n cael eu parchu yn eu cymunedau.


Byddwch yn glir:
Darparwch wybodaeth syml y gall pobl wneud rhwybeth amdano. Mae pobl yn fwy tebygol o gymryd camau tuag at gynaliadwyedd pan fyddant yn deall beth i’w wneud a pham ei fod yn bwysig. Osgowch “jargon” a chyflwynwch wybodaeth mewn modd cryno, hawdd ei ddefnyddio.

Ac un awgrym arall – gwnewch o’n hwyl! Bu llawer o’n grwpiau’n trafod pwysigrwydd dod â’u cymunedau at ei gilydd drwy fwyd, cerddoriaeth a chysylltiadau cyffredinol. Mae teimlad o gymuned yn angen craidd i’r rhan fwyaf o bobl, ond nid oes llawer ohonom gyda ymdeimlad dwfn o berthyn o fewn ein cymunedau. Os ydym am i bobl ofalu am eu cymunedau a bod yn rhan o’n prosiectau, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn helpu i adeiladu ymdeimlad gymuned yn y lle cyntaf. Ac wrth gwrs, mae pobl yn fwy tebygol o fod eisiau troi i fyny i rywbeth sy’n teimlo’n hwyl!

Cysylltwch a Rhannwch

Os ydych chi eisiau cysylltu â grwpiau cymunedol eraill, elusennau a sefydliadau dielw sy’n gweithio ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd ar draws Gymru, cofrestrwch i ymuno â’n Cymuned Egin Ar-lein. Bydd gennych fynediad at adnoddau defnyddiol, grwpiau trafod a chyfarfodydd ar-lein rheolaidd lle gallwch drafod yr hyn sy’n digwydd yn eich prosiectau hinsawdd cymunedol eich hun, rhannu syniadau a chyngor, a chael eich ysbrydoli gan yr hyn y mae grwpiau eraill yn ei wneud. Nid oes rhaid i chi fod yn derbyn cefnogaeth trwy raglen Mentora Cymheiriaid Egin i ymuno, a does dim tâl.

RHANNWCH