Cartref digidol diwylliant Cymru.

CWIS i’n darllenwyr – GWOBR: Gwaith celf ysbrydoledig o Orielodl

Artist o Bontarddulais yw Rhys Padarn Jones a bydd enillydd y Cwis yn derbyn taleb werth £50 i’w gwario ar nwyddau o’u dewis. Ewch i’w wefan orielodl.com i weld y dewis gwych o bethau sydd ar gael, yn brintiau, posteri, cardiau, jig-sôs a llawer mwy. 

Mae’r atebion i gyd rhwng cloriau’r rhifyn hwn o BARN dim ond i chi ddarllen yn fanwl. Nid yw’r erthyglau o angenrheidrwydd yn ymddangos yn yr un drefn â’r cwestiynau.   

Anfonwch eich atebion at:
Swyddfa Barn, Y Llwyfan, Caerfyrddin SA31 3EQ gyda’ch enw, cyfeiriad post ac e-bost neu at swyddfa@barn.cymru erbyn 5 Chwefror 2024.

Bydd yr atebion ac enw’r enillydd yn rhifyn Mawrth.

Pennod 29 – Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn

Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes.
Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er mwyn deall y traddodiad barddol ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Er na chanodd am serch a natur fel llawer o’r cywyddwyr eraill, roedd ei ganu mawl yn amrywio’n fawr ac yn gallu bod yn ddyfeisgar iawn. Disgrifia un o’i gerddi frwydr rhwng y beirdd a gwin yn llys eu noddwr, wrth iddyn nhw fynd ati am y gorau i wagio seleri’r uchelwr. Trafodwn ei farwnad ddwy i fardd arall, Llywelyn ab y Moel, a chywydd a ganodd Guto ddiwedd ei oes, cerdd ryfeddol sy’n dangos y bardd fel hen ŵr yn aflonyddu ar y mynaich a oedd yn gofalu amdano.

Caru Darllen: Mari George ac Iwan Rhys

Mari George ac Iwan Rhys sy’n trafod llyfrau gyda Mari Sion.

Mae Sut i Ddofi Corryn gan Mari George a Trowthy gan Iwan Rhys ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Beth yw pwrpas lansiad llyfr?

Mae ‘na wledd o lyfrau yn Colli’r Plot Tachwedd. Trafod y Rhinoseros yn
yr ystafell, canmoliaeth ar gyfer Sut i Ddofi Corryn a beth yw pwrpas
lansiad llyfr?

Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

The Warehouse – Rob Hart
Dros fy mhen a ‘nglustia – Marlyn Samuel
The Year of Yes – Shonda Rhimes
The Darkness – Ragnar Jónasson
The Mist – Ragnar Jónasson
Tom’s Midnight Garden – Philippa Pearce
Gwreiddio – straeon byrion – amrywiol awduron
Coblyn o Sioe – Myfanwy Alexander
Bullet in the brain – Tobias Wolff (stori fer)
I am Pilgrim – Terry Hayes.
The Martian Chronicles & Dandelion Wine – Ray Bradbury
Sut i Ddofi Corryn – Mari George
Hiwmor Tri Chardi Llengar – Geraint H. Jenkins
Unruly – David Mitchell
The Sanatorium – Sarah Pearse
Pryfed Undydd – Andrew Teilo
O Glust i Glust – Llwyd Owen
Darogan – Siân Llywelyn
Isaac and the egg – Bobby Palmer
Welsh Rugby: What Went Wrong – Seimon Williams
How to Win Friends and Influence People – Dale Carnegie
Cyfres Rwdlan – Angharad Tomos

Dewch i adnabod Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025.

Cyfweliad gyda Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025.

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.

Mwy

Tymor yr Afalau – Nia Morais

Gwyliwch Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025, yn adrodd ei cherdd ‘Tymor yr Afalau’.

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.

Mwy

I Don’t Want to Write a Poem – Alex Wharton

Gwyliwch Children’s Laureate Wales 2023-2025, Alex Wharton, yn darllen ei gerdd ‘I don’t want to write a poem’.

Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth.

Mwy

Mared Llywelyn a Buddug Roberts

Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?

Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.

Heddiw, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Mared Llywelyn a Buddug Roberts.

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Blogiau Aelodau: Canllaw Cam wrth Gam

Fel sefydliad sy’n ymroddedig i gefnogi newyddiadurwyr ac awduron, rydym yn hynod falch o flogiau ein haelodau. Mae’r nodwedd hon yn rhoi llwyfan taledig i awduron rannu eu straeon ohono, ac mae wedi bod yn un o’n llwyddiannau allweddol, gyda phynciau’n amrywio o symudedd cymdeithasol i hawliau traws i anabledd yn y gweithle. Mae gwaith ein cyfranwyr wedi cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ac ar ein cylchlythyrau, gydag un blog hyd yn oed yn cael ei syndicetio mewn cyhoeddiad Portiwgaleg! Rydym hefyd yn eu gweld fel adnodd gwerthfawr i gyflogwyr, cyllidwyr a’r rhai sy’n gwneud newid, gan weithredu fel awgrymiadau tuag at greu amgylchedd mwy diogel a thecach i newyddiadurwyr.

Mae’n gwbl hanfodol bod pobl o gefndiroedd ymylol yn cael eu clywed – rydym yn eich annog i ychwanegu eich llais at y sgwrs.

Er mwyn gwneud y broses mor glir a syml â phosibl, rydym wedi rhestru rhai canllawiau isod.

Pencerdd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cyfle i bum bardd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr trwy ein rhaglen newydd sbon, Pencerdd, a gynigir mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Barddas.

Dysgwch fwy am yr alwad a’r broses ymgeisio yma!

Dyddiad cau: 1:00pm, Dydd Mercher 3 Ionawr 2024.

Pennod 28 – ‘Bawddyn!’: Ymrysonau’r Cywyddwyr

Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau.

Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adloniant – ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg (ac ychydig o theory anthropolegol!) er mwyn deall y berthynas rhwng y cerddi rhyfeddol hyn a’r cyd-destun(au) a roes fod iddynt. Trafodwn gwestiwn hynod ddiddorol arall hefyd: pam bod bardd yn galw enwau mor hyll ar ei wrthwynebydd, a hynny mewn trafodaeth am bynciau dyrchafedig fel ffynhonnell yr awen a phriod waith y bardd?

Eluned Gramich a Sara Borda Green

Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?

Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.

Heddiw, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Grug Muse fydd Eluned Gramich a Sara Borda Green.

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+

Blodeugerdd LHDTC+ flaengar a chyffrous yw Curiadau, a’r cyntaf o’i math yn yr iaith Gymraeg. Gareth Evans-Jones yw’r golygydd deheuig sydd wedi casglu’r amrywiaeth trawiadol o dalent LHDTC+ ynghyd. Yn y casgliad arbennig hwn fe ffeindiwch ddarnau gan feirdd, awduron a dramodwyr.

Prynwch eich copi yma

Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen

Dyma ail gyfrol o farddoniaeth Gruffudd Owen, Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Dyma gyfrol sy’n pendilio rhwng y dwys a’r digri, rhwng sinigiaeth a thaerineb, ac sy’n plethu angst ieithyddol trwy gerddi am deulu, bod yn dad a bod yn Gymro.

Prynwch eich copi yma

Y Gragen – Casia Wiliam

Ond ni ddes adre’n waglaw, o’r gwyliau ger y lli, roedd cragen yn fy mhoced a rhywbeth ynddi hi. Dyma stori mewn mydr ac odl am blent yn o’r ddinas fawr yn ymweld â thraeth mewn pentref ar lan y môr am y tro cyntaf. Yno mae’r plant yn chwerthin wrth fwyta hufen iâ, y gwymon yn gwichian a byd natur yn canu’n un. Mae cod QR yng nghefn y llyfr sy’n arwain at adnoddau addysg ar-lein.

Prynwch eich copi yma

Gwawrio – Tegwen Bruce Deans

Cyfrol o gerddi gan fardd newydd, Tegwen Bruce-Deans. Mae’n cynnwys cerddi sy’n trafod natur, perthnasoedd, pobl a phob math o bethau eraill. Y mae Tegwen yn rhan o’r sîn farddoniaeth gyda beirdd ifanc beiddgar ac mae ganddi lais aeddfed sy’n amlygu ei hun yn y gyfrol fechan hon. Cynhwysir ei dilyniant o gerddi ‘Rhwng Dau Le’ a enillodd iddi gadair Eisteddfod yr Urdd 2023.

Prynwch eich copi yma!

Pigion Y Talwrn

Dyma’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres boblogaidd o’r gorau o gynnyrch ‘Talwrn y Beirdd’ ar BBC Radio Cymru. Mae’r Meuryn, Ceri Wyn Jones yn dewis y cerddi hynny sydd wedi aros yn y cof, y rhai sydd wedi codi gwên a’r rhai sydd wedi gwneud i ni feddwl.

Prynwch eich copi yma!

Podlediadau llyfrau

Oes gyda chi diddordeb mewn llyfrau Cymraeg neu ysgrifennu?

Dyma’r podlediadau cyfredol sy’n trafod llyfrau, awduron ac ysgrifennu yn y Gymraeg.

Deddf Cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) yn diogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Er bod y gyfraith hon yn defnyddio’r ymadrodd “ailbennu rhywedd” wrth siarad am bobl draws, mae canllawiau’r llywodraeth a nifer o achosion llys wedi’i ymgorffori i gynnwys pob person traws, ni waeth pa gam o’r proses tranewid y gallent fod.

Dysgwch fwy yma

Gall pobl draws fod yn unrhyw rywioldeb

Hunaniaeth Rhywedd yw ein hymdeimlad mewnol o hunan a sut rydym yn dirnad a galw ein hunain.

Mae atyniad rhywiol neu Rhamantaidd yn ymwneud â sut rydyn ni’n teimlo am bobl eraill a’r hyn rydyn ni’n cael ein denu ato mewn pobl eraill.

Os hoffech wybod mwy am y termau hyn, ag eraill, cliciwch yma

Mae pobl Draws yn haeddu teimlo’n ddiogel a chael eu parchu

Mae pobl draws yn haeddu parch a diogelwch. Os ydych chi’n aelod o’r gymuned LHDTC+ neu’n gynghreiriad, gweithredwch heddiw! Gallwch ddilyn y ddolen hon ac ysgrifennu at eich AS, a gofyn iddynt weithredu ar droseddau casineb gwrth-LHDTC+”

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ‘New data: Rise in hate crime against LGBTQ+ people continues, Stonewall slams UK Gov ‘inaction’’ yma.

Sgwrs Fflur Dafydd

Dafydd Llewelyn sydd yn sgwrsio gyda Fflur Dafydd.

Awdur sydd yn ysgrifennu nofelau ac ar gyfer y sgrin.

Cawn glywed profiadau Fflur fel awdur, hanes The Library Suicides a ‘tips’ ar gyfer sgwennwyr newydd.

Llŷr Titus a Peredur Glyn

Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?

Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.

Heddiw, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Llŷr Titus a Peredur Glyn.

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Pennod 27 – Llais Cymraes: Gwerful Mechain

Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif.
Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘bardd masweddus’ yn bennaf – ysbrydebu anffodus – gan fod ei barddoniaeth yn mynd i’r afael â rhychwant o themâu, gan gynnwys crefydd. Edrychwn yn weddol fanwl ar ei chywydd gorchestol i’r Iesu yn ei ddioddefaint. Cawn gyfle i ystyried barddoniaeth o fath gwahanol iawn ganddi, gwaith sy’n trafod rhyw o safbwynt y fenyw ac yn dychanu canu serch y beirdd gwrywaidd.

Crow Face, Doll Face by Carly Holmes

An uncanny, brooding tale of domestic disturbances, dysfunctional families, flawed mothers, and unfulfilled dreams. “Beautifully written, tender and terrifying.” Una Mannion “Deliciously unsettling… delicately peels away the layers of ordinary family life to reveal dark truths underneath.” Catrin Kean “Unflinching in its authentic and raw portrayal of the complexities of motherhood.” Philippa Holloway Annie surrendered […]

Alun Parrington

Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar
lefel corff, cymuned a byd?

Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru
greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o
waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau
hyn.

Y sgwennwr comedi, Alun Parrington, sy’n darllen ac yn datgymalu darnau
o’i waith heddiw, yng nghwmni Grug Muse.

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Tangysgrifiwch i gylchgrawn Y Casglwr!

Cylchgrawn Cymdeithas Bob Owen yw’r Casglwr. Mae’n ymwneud â chasglu pob math o bethau’n gysylltiedig â’r bywyd Cymraeg a Chymreig, yn enwedig llenyddiaeth a deunydd diwylliannol. Mae’n adnabyddus am ei hysbysebion llyfrau ail law. Fe’i cyhoeddir deirgwaith y flwyddyn, trwy’r post i aelodau, am danysgrifiad o £18. Mae ganddo wefan, www.casglwr.org. Mae trefniadau ar y gweill i aelodau tramor dderbyn Y Casglwr dros y We. Mae hefyd ar gael mewn rhai siopau llyfrau. I danysgrifio, dylid cysylltu â’n Trysorydd, elunedevans67@gmail.com.

Yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig yng Nghymru

DARLLEN AM DDIM 


Fydd dim rhaid galw’r etholiad nesaf tan 17 Rhagfyr 2024, ond pryd bynnag y’i cynhelir caiff ei ymladd dan amgylchiadau newydd sbon yng Nghymru. Bydd y gostyngiad o 20% yn nifer ein hetholaethau yn cael cryn effaith ar y map gwleidyddol. Ond nid dyna’r ystyriaeth bennaf ym mhob etholaeth. 


Amcangyfrif Presennol



Dylan Huw a Talulah Thomas

Beth yw’r grymoedd sy’n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?

Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd sbon gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.

Yn y bennod hon, y ddau sy’n darllen a datgymalu darnau o’u gwaith, yng nghwmni Grug Muse fydd Dylan Huw a Talulah Thomas.

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Gair o Galiffornia

Rwy’n ysgrifennu’r golofn hon o stiwdio Hal Todd ym Mhrifysgol San Jose, Califfornia

Gair o Galiffornia

Rwy’n ysgrifennu’r golofn hon o stiwdio Hal Todd ym Mhrifysgol San Jose, Califfornia

Mynd ar ddêt i’r opera

Celf yw celf. Adloniant yw adloniant. Dylwn symud i ffwrdd o’r syniad bod rhai mathau o adloniant iddyn ‘nhw’ ac eraill i ‘ni’

Mynd ar ddêt i’r opera

Celf yw celf. Adloniant yw adloniant. Dylwn symud i ffwrdd o’r syniad bod rhai mathau o adloniant iddyn ‘nhw’ ac eraill i ‘ni’