PYST yn cyhoeddi ymgeiswyr llwyddiannus Cronfa Cerddoriaeth PYST 2025-26

Mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST yn falch iawn o gyhoeddi’r sefydliadau fydd yn cael eu cefnogi gan eu cronfa beilot newydd. Sefydlwyd Cronfa Cerddoriaeth PYST 2025-26 i gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru drwy gynnig cefnogaeth i gyrff cerddorol nad oedd yn derbyn cefnogaeth ariannol cyn hyn. Bwriad y gronfa […]
PYST yn Cyhoeddi Cronfa Beilot Newydd i Gynnal a Datblygu Gweithgaredd Cerddoriaeth Llawr Gwlad yng Nghymru.

FFURFLEN GAIS CANLLAWIAU Heddiw, mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST yn cyhoeddi cronfa beilot newydd wedi’i anelu at gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru. Mae gweithgaredd cerddoriaeth yng Nghymru yn ffynnu, fel profir gan y nifer gynyddol o labeli recordio, ac mae’r gronfa hon yn anelu i danategu sefydliadau nad oes […]
AmCam 2: Galwad agored am 4 ffilm ddogfen am greadigrwydd cymunedol yng Nghymru!

Yn dilyn llwyddiant AmCam, gŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed Am, rydym yn hynod falch o gyhoeddi ail rownd o gyllid tuag at greu pedair rhaglen ddogfen fer arall! Lansiodd Am, cartref digidol diwylliant Cymru, AmCam yn ddiweddar i ddathlu ein pumed pen-blwydd. Dewiswyd pedair ffilm sy’n dogfennu creadigrwydd mewn cymunedau ledled Cymru o alwad hynod […]
Ffenestr ceisiadau ar gyfer trydedd Gronfa Fideos PYST x S4C ar agor nawr!

Sefydlwyd y Gronfa dair blynedd yn ôl er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i artistiaid neu gyfarwyddwyr newydd oedd heb greu fideo gerddoriaeth Gymraeg o’r blaen. Mae hyn wedi sicrhau twf yn niferoedd fideos Cymraeg sydd yn cael eu creu yn ogystal â gweld artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir yn ymwneud â diwylliant Gymraeg am […]
AmCam: Gŵyl ffilmiau digidol Am

I ddathlu pum mlynedd, mae Am, cartref digidol diwylliant Cymru, yn lansio AmCam – gŵyl ffilm ddigidol newydd sy’n taflu goleuni ar greadigrwydd a gwydnwch mewn cymunedau ledled Cymru. Fel rhan o don gyntaf yr ŵyl, mae modd gwylio pedair ffilm wreiddiol sydd yn dogfennu gweithgaredd celfyddydol a chymdeithasol mewn cymunedau ledled Cymru. Dewiswyd y […]
Am yn dathlu pum mlynedd fel cartref digidol diwylliant Cymru

O 75 i dros 480 o bartneriaid creadigol, mae Am wedi trawsnewid y ffordd y mae pobl yn darganfod celfyddydau Cymru ar-lein. Nawr, i nodi ei bumed pen-blwydd, mae’n ail-lansio ei wefan ac yn lansio ei ŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed: AmCam. Am yw’r platfform cyntaf o’i fath – gofod digidol dwyieithog, mynediad agored ar […]
Gair gan ein Cadeirydd

Fel cadeirydd y platfform digidol unigryw yma ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru, rydw i wrth fy modd yn cael rhannu’r datblygiad diweddaraf yn ein stori. Fel gwlad ddiwylliannol mae’n hanfodol fod ganddon ni le i allu arddangos yr amrywiaeth eang o gynnwys creadigol Cymreig yn ei holl ogoniant! Mae hon yn gymuned arbennig iawn. […]
Ffordd newydd o wylio ffilmiau o Gymru

Cyhoeddi Partneriaeth AM a Ffilm Cymru! Am y tro cyntaf, bydd defnyddwyr Am yn gallu ffrydio, am ddim, ffilmiau byrion a wnaed gan rai o wneuthurwyr ffilmiau mwyaf cyffrous ac addawol y wlad, wedi’u cynhyrchu trwy gynllun ffilmiau byrion Ffilm Cymru Wales. Ers 2014, mae eu cynllun Beacons wedi ariannu dros 40 o ffilmiau byrion […]
Cyhoeddi trydedd Gronfa Fideos PYST x S4C

Ar Ddydd Gwener Mai 9fed, mewn digwyddiad arbennig yng Ngŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam, bydd cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST yn lansio trydedd rownd eu cronfa fideos ar y cyd gyda S4C. Ffurflen gais ar gael yma. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda owain@pyst.net. Sefydlwyd y Gronfa dair blynedd yn ôl er mwyn cynnig […]