Sefydlwyd y Gronfa dair blynedd yn ôl er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i artistiaid neu gyfarwyddwyr newydd oedd heb greu fideo gerddoriaeth Gymraeg o’r blaen. Mae hyn wedi sicrhau twf yn niferoedd fideos Cymraeg sydd yn cael eu creu yn ogystal â gweld artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir yn ymwneud â diwylliant Gymraeg am y tro cyntaf. Yn ystod dwy rownd flaenorol y Gronfa ariannwyd 30 fideo newydd.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar y 5 artist cyntaf bydd yn derbyn cyllid o’r gronfa i greu eu fideo cyntaf:
Paralel
Tokomololo
Martha Elen
Ymylon
Alis Glyn
Gallwch wylio’r fideo ar gyfer ‘Angerdd’ gan Paralel ar broffil y gronfa ar Am nawr, a bydd y fideos eraill yn cael eu rhannu yno’n fuan.
Mae’r ffenestr ceisiadau ar gyfer y 5 fideo nesaf yn agored nawr! Cliciwch yma i wneud cais ac i ddarllen canllawiau’r gronfa, neu cysylltwch gydag owain@pyst.net am fwy o wybodaeth.