Cartref digidol diwylliant Cymru.

Am

AmCam: Gŵyl ffilmiau digidol Am

I ddathlu pum mlynedd, mae Am, cartref digidol diwylliant Cymru, yn lansio AmCam – gŵyl ffilm ddigidol newydd sy’n taflu goleuni ar greadigrwydd a gwydnwch mewn cymunedau ledled Cymru.


Fel rhan o don gyntaf yr ŵyl, mae modd gwylio pedair ffilm wreiddiol sydd yn dogfennu gweithgaredd celfyddydol a chymdeithasol mewn cymunedau ledled Cymru. Dewiswyd y pedair ffilm o 50 cais drwy alwad agored hynod lwyddiannus y llynedd. Ariannwyd AmCam gan Gyngor y Celfyddydau Cymru.


Mae’r ffilmiau dan sylw yn cynnwys:


• ‘Pwy Ydw i Heddiw?’ gan Ffion Pritchard, ddogfen greadigol sydd yn dweud hanes prosiect greadigol ym Mangor sy’n anelu i godi hyder merched


• ‘Village Artists’ gan Jon Berg, portread o fywyd creadigol yng Nghwmllynfell


‘Ffenestri Mewnol/Interior Windows’ gan Harriet Fleuriot, myfyrdodau gan fenywod hŷn yn y Rhondda yn ymateb i ddyfyniad gan yr artist Gwen John


‘The Willow Collective’ gan Mairéad Ruane, yn dilyn cymuned greadigol dan arweiniad niwroamrywiol yn y Rhyl


Dywedodd Ffion Pritchard:
“Roedd yn gyfle gwych cael creu ffilm gymunedol ar gyfer gŵyl AmCam. Mae gan ffilm rôl mor bwysig yn y gymuned, ac yn rhan mor annatod o’r ffordd rydym yn profi y byd erbyn hyn! Mae’r prosiect yma yn dod a ffilm a chymuned at ei gilydd, a mae cael ei ddangos ar blatfform yma Am yn anhygoel”.


Dywedodd Lea Glyn, Prif Swyddog Cynnwys Am:
“Mae’n hynod o gyffrous cael darlledu’r ffilmiau yma fel rhan o AmCam. Mae’n fraint cael rhannu portreadau amrywiol a difyr o greadigrwydd cymunedau o Gymru sydd dim yn aml yn cael eu cynrychioli yn y brif ffrwd. Rydw i’n edrych ymlaen i weld AmCam yn datblygu yn y er mwyn i ni barhau i rannu diwylliant cymunedol ar Am yn y dyfodol”.


Mwynhewch ffilmiau ton cyntaf gŵyl ffilmiau digidol AmCam isod!

Pwy Ydw I Heddiw – Ffion Pritchard

Village Artists – Jon Berg

Ffenestri Mewnol – Harriet Fleuriot

The Willow Collective – Mairéad Ruane

RHANNWCH