Cartref digidol diwylliant Cymru.

Am

Am yn dathlu pum mlynedd fel cartref digidol diwylliant Cymru

Black image with Am's logo and strapline colourful circle with a 5 in it

O 75 i dros 480 o bartneriaid creadigol, mae Am wedi trawsnewid y ffordd y mae pobl yn darganfod celfyddydau Cymru ar-lein. Nawr, i nodi ei bumed pen-blwydd, mae’n ail-lansio ei wefan ac yn lansio ei ŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed: AmCam.

Am yw’r platfform cyntaf o’i fath – gofod digidol dwyieithog, mynediad agored ar gyfer archwilio cyfoeth diwylliant Cymru, o gerddoriaeth a theatr i ffilm, celf a llenyddiaeth. Wedi’i lansio yn 2020 gyda dim ond 75 o bartneriaid creadigol, mae bellach yn gartref i fwy na 480 o sefydliadau ac 8,000 o ddarnau o gynnwys, gan ei wneud yn fan hanfodol ar gyfer creadigrwydd, cysylltiad a chydweithio.

I ddathlu pum mlynedd, mae Am yn lansio AmCam – gŵyl ffilm ddigidol newydd sy’n taflu goleuni ar greadigrwydd a gwydnwch mewn cymunedau ledled Cymru. Bydd pedair ffilm fer newydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar 18 Mehefin, i gyd-fynd â lansio gwefan newydd Am, a adeiladwyd i wella hygyrchedd a phrofiad y defnyddiwr.

Mae’r ffilmiau dan sylw yn cynnwys: ‘Pwy Ydw I Heddiw?’ gan Ffion Pritchard, yn archwilio grymuso menywod ym Mangor, ‘Village Artists’, gan Jon Berg, portread o fywyd creadigol yng Nghwmllynfell, ‘Ffenestri Mewnol / Interior Windows’, gan Harriet Fleuriot, yn cipio myfyrdodau gan fenywod hŷn yn y Rhondda a ‘The Willow Collective’ gan Mairéad Ruane, yn dilyn cymuned greadigol dan arweiniad niwroamrywiol yn y Rhyl

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant: “Hoffwn longyfarch tîm Am ar y garreg filltir drawiadol hon. Bum mlynedd yn ôl, gofynnwyd i gefnogi cysyniad newydd, unigryw er budd y diwydiannau creadigol, ac rwy’n gyffrous i weld y ffyrdd arloesol y mae wedi tyfu a gwella’n barhaus i ddod yr Am ddeinamig, hygyrch a hynod werthfawr ydyw heddiw. Heb sôn am y manteision y mae’r platfform yn eu cynnig i greadigwyr Cymru o ran ei botensial ar gyfer cydweithio a darganfod. Penblwydd hapus, Am!”

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:“Mae Am wedi tyfu o’r gwaelod i fyny, a gwelodd llawer ohonom yn uniongyrchol pa mor hanfodol y daeth yn ystod y pandemig. Mae wedi mynd o nerth i nerth, a byddwn yn annog pawb i archwilio ambobdim.cymru a darganfod sut olwg sydd ar greadigrwydd Cymru heddiw.”

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr Am:
“Gwnaed Am yng Nghymru ar gyfer unrhyw un, unrhyw le sydd eisiau cysylltu â diwylliant Cymru. Rydym bob amser wedi anelu at adeiladu platfform sy’n agored i bawb – beth bynnag fo’ch oedran, hunaniaeth neu iaith. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i adeiladu, ac yn gyffrous am yr hyn sydd nesaf.”

Dysgwch fwy am Am, y wefan newydd a gŵyl AmCam yn ambobdim.cymru.


RHANNWCH