Fel cadeirydd y platfform digidol unigryw yma ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru, rydw i wrth fy modd yn cael rhannu’r datblygiad diweddaraf yn ein stori.
Fel gwlad ddiwylliannol mae’n hanfodol fod ganddon ni le i allu arddangos yr amrywiaeth eang o gynnwys creadigol Cymreig yn ei holl ogoniant!
Mae hon yn gymuned arbennig iawn. Un sydd wedi ei hadeiladu yn ofalus gan cynnig gofod hygyrch a hynny drwy roi pwyslais ar gymuned a chreadigrwydd.
I nodi ein penblwydd yn bump oed, rydan ni wedi gweithio i allu cynnig fersiwn newydd sbon o’n hunain i chi fydd yn yn ysbrydoli ac yn cynnwys lleisiau o bob cefndir , mewn ieithoedd amrywiol sy’n yn ffynnu yn ein tamaid bach ni o’r ddaear.
Rydan ni wedi creu partneriaethau newydd a chynlluniau cyffrous i’ch harwain chi fel cynulleidfa ar antur gynhwysol sydd yn galluogi i’n ffordd ni o fyw ruo ei ffordd i’r dyfodol!
Mwynhewch!
Ffion Dafis