Fy enw i yw Gwenno Llwyd Till. Dwi yn fy ail mlwydd o astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Gelf Llundain (University Arts London), yng ngjoleg LCC. Cefais fy magu yn Nant Gwynant, ar droed y Wyddfa, ond bellach dwi’n byw yn Nghriccieth a Gogledd Llundain. Dwi’n 21 oed bellach; pwrpas y Ffilm yma oedd i gyflwyno fy hun i fy nghyd ddisgyblion ac, mewn ffordd, i’r byd: fel artist a gwneuthurwr ffilm.
Creais y ffilm drwy defnyddio fideos a llunaiu roeddwn i wedi’u tynnu yn ystod fy nghyfnod yng Nghymru. Mae’n bwyisg ofnadwy imi gynnwys fy Nghymreictod yn fy ngwaith, ac i ddefnyddio’r iaith Gymraeg gymaint ag sy’n bosib; drwy greu y darn yn uniaith Gymraeg llwyddais i gyflwyno’r iaith i bobl nad oedd wedi clwyed y iaith ar lafar, a chefais llawer o bobl yn dangos eu gwerthfawrogiad o’n iaith a’n diwylliant.
Dw’i hefyd yn gweithio gyda ffotograffiaeth, ac wedi llwyddo i greu zine argraffedig, ffeminstiaidd sef ‘Patriarchaeth’ gyda thîm o dri person ifanc eraill. Yn y dyfodol byswn i’n licio creu cwmni cynhyrchu i ferched yn y diwydiant ffilm. Mae posib gweld mwy o fy ngwaith ar y cyfrif Instagram @gwennofilm.