Cartref digidol diwylliant Cymru.

Artistiaid Ifainc Cymru

Organisation Logo

Arddangosfa flynyddol newydd yw Artistiaid Ifainc Cymru a sefydlwyd gan MOMA Machynlleth i gefnogi a hyrwyddo celf gyfoes yn ac o Gymru.

Mae’r arddangosfa’n dathlu gwaith artistiaid dan 30 oed ac mae’r arddangosfa gyntaf wedi’i threfnu gan ddau guradur sy’n tyfu mewn amlygrwydd; Mari Elin Jones a Lloyd Roderick.

Mae’r gweithiau a arddangosir, gan gynnwys peintiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, gosodwaith a ffilm, yn cynnig cipolwg ar amrywiaeth ymarfer cyfoes yng Nghymru.

Bydd yr arddangosfa yn agor ym MOMA Machynlleth ar 28 Tachwedd 2020 trwy apwyntiad

Cynnwys