Cartref digidol diwylliant Cymru.

Georgia Downes

Mae fy ymarfer yn archwilio datblygu proses o farciau ac ystumiau syml sy’n cael eu perfformio mewn symudiadau ailadroddus i greu profiad gweledol a chorfforol gymhleth i’r gwyliwr. Rwy’n gweithio mewn modd corfforol iawn ac yn anelu at dynnu sylw at y natur berfformiadol sy’n gysylltiedig â chreu fy nghorff o waith. Yr hyn a gyflwynir yw canlyniad y gweithredoedd hyn.

Trwy fy ngwaith rwy’n anelu at gynrychioli’r gwirionedd yn y greadigaeth ddynol, gan ddod â goleuni i’r union gamau a ddefnyddir wrth nodi sut y gall cyflymder a symudiad effeithio ar y marciau a wneir. Wedi fy ysgogi gan ddiddordeb mewn Minimaliaeth, Celf Op a phatrymau tecstilau rwy’n ffurfio ffyrdd cynnil o ddatgelu profiad ffenomenolegol trwy weithredoedd, dyfnder a gofod. Mae hyn yn caniatáu i berthynas ffurfio rhyngof fi fel yr artist, y gwaith celf, a’r rhai sy’n ymgysylltu â’m hymarfer gan gyfeirio at yr ymwybodol a’r isymwybod ar yr un pryd.

Mae grymoedd ailadrodd yn newid, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae’r ideoleg hon yn rhywbeth sy’n caniatáu imi barhau i symud ymlaen yn gyson yn fy ymarfer ac esblygu fy nghorff cynyddol o waith.

RHANNWCH