Rwy’n creu celf yn seiliedig ar fy ffyrdd gweledol a cherfluniol unigol o feddwl. Mae’r syniadau a’r cysyniadau a ddangosir trwy fy ymarfer paentio a darlunio wedi’u hysbrydoli gan hanes helaeth celf swrrealaidd a syniadau cyfriniol fel hanes cardiau tarot.
Mae fy nghelf yn sgwrs gyda rhan ohonof fy hun nad oeddwn yn gwybod ei fod yn bodoli a nifer o leoedd nad wyf yn eu deall o hyd. Mae’r naratif hunan-fyfyriol a sgyrsiol hwn yn caniatáu i’r gwyliwr
fod yn rhan o’m celf yn ei ffordd oddrychol ei hun.
Nod fy nghasgliad cyfredol o 144 carden yw archwilio’n weledol fy mhrofiad gyda chenedligrwydd a
hunaniaeth trwy ddelweddau cysylltiedig.