Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cwrdd Cymraeg – Mis Medi

Cwrdd, gyda Sara Louise Wheeler

Medi 4

16:00 

Cofrestrwch yma

Mae ein sesiwn Cwrdd nesaf yn benodol ar gyfer aelodau DAC sy’n medru’r Gymraeg neu’n awyddus i’w dysgu / ymwneud â hi mewn rhyw ffordd drwy eu gwaith celf! Byddwn ni’n siarad gyda Sara Louise Wheeler.

Byddwn ni’n ystyried lle y Gymraeg o fewn ymarfer creadigol ac i ba raddau mae iaith yn dylanwadu ar ein hymarfer.

Bydd y Cwrdd Cymraeg yn digwydd ar Ddydd Llun, y Medi 4 am 4pm ar Zoom, gyda BSL a chapsiynau caeedig ar gael fel yr arfer. Os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad eraill rhowch wybod i ni! There will also be translation if people who are not as fluent want to make use of that!

Dyma gyfle i ni gwrdd i drafod ein ymarfer, proses, syniadau a’n breuddwydion drwy gyfrwng y Gymraeg mewn modd hwyliog ac anffurfiol. Gadewch i ni groes-beillio!

Pennod 22 – Calon Oer dan Fron o Fraw

Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywyd y dyn a gyfansoddodd y gerdd eiconig hon hefyd, sef Gruffydd ab yr Ynad Coch. Awgryma’r dystiolaeth mai bardd crefyddol ydoedd yn anad dim, ac a yw hynny’n fodd i ni gyd-destunoli llawer o ddelweddaeth y farwnad? A yw’n mynd yn rhy bell i ddweud bod Gruffydd yn cymharu Llywelyn â nab llai na Iesu Grist ei hun? Ac a yw gwedd ar hanes y bardd hwn – ffaith hanesyddol sy’n syfrdanol o wahanol i’r modd y mae llawer o Gymry yn canfod y berthynas rhwng Gruffydd a Llywelyn – hefyd yn fodd i egluro angerdd anghyffredin y gerdd bwerus hon?

Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru

Mae Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yn rwydwaith i amddiffyn, cefnogi a chynrychioli pobl sydd yn cael eu hymylu neu eu heithrio gan y diwydiant newyddiaduraeth.   Ein cenhadaeth yw:   Cefnogi newyddiadurwyr drwy greu mannau ar gyfer cysylltiad, cefnogaeth a dysgu i’r rhai sydd wedi’u hymyleiddio a’u hallgáu gan y diwydiant newyddiaduraeth, i rannu profiadau ac adeiladu […]

Caru Darllen: Awduron Pen Llŷn

Cyfle i wrando eto ar ambell sgwrs gyda rhai o awduron Pen Llŷn, yn cynnwys Llyr Titus, Gwenllian Ellis, Ffion Enlli, Casia Wiliam, Aled Hughes, Mared Llywelyn a Llio Maddocks.

Pennod 21 – Dyrchafu, Caru ac Ymladd: Barddoniaeth yn gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu

Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Brenin Gwynedd yn ei ddydd. Edrychwn ar waith Cynddelw Brydydd Mawr yn ‘dyrchafu’ neu’n ‘arwyrain’ Owain Gwynedd ac edrychwn hefyd ar farddoniaeth sy’n canolbwyntio ar rôl a hunaniaeth y bardd ei hun. Dychmygwn fod un ohonynt, Gwalchmai ap Meilyr Brydydd, yn strytio’n frolgar fel rapiwr ar lwyfan, a thrafod barddoniaeth gan fab Owain Gwynedd, Hywel, a’i ddiwedd alaethus ef.

Cynrychioli Cymru | Representing Wales 2024-25

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00pm, 28 Medi 2023

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein rhaglen datblygiad proffesiynol 12 mis o hyd, Cynrychioli Cymru, unwaith eto ar agor i geisiadau. Yn ei phedwaredd blwyddyn, bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd â diddordeb mewn ysgrifennu a chreu gwaith ar gyfer oedolion.

Mwy o wybodaeth am sut i ymgeisio yma

Cyrsiau Tŷ Newydd

Ewch i weld cyrsiau Tŷ Newydd yma

Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Ein arbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos- yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch hyfryd ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Mae cyfranogwyr yn rhoi help llaw yn y gegin, lle mae prydau cartref blasus yn cael eu paratoi gyda chynhwysion lleol.

Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl ac encilion – yn y Saesneg a’r Gymraeg – mewn amryw o genres, ffurfiau a themâu, yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol-greadigol, scriptio, ysgrifennu am fyd natur, dylunio, adrodd straeon, ioga a mwy.

Rydym yn dewis ein tiwtoriaid a’n siaradwyr gwadd yn ofalus, gan groesawu rhai o ymarferwyr gorau eu meysydd i Dŷ Newydd pob blwyddyn. Mae rhai o’n cyn-diwtoraid yn cynnwys Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, Pascale Petit, Paula Meehan, Mark Cocker, Menna Elfyn, Patrick McGuinness, Kaite O’Reilly, Imtiaz Dharker, Niall Griffiths, Daljit Nagra a Malachy Doyle.

Ein tŷ hanesyddol oedd cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George ac mae cyffyrddiadau cyfarwydd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis yn parhau i fod yn amlwg drwy’r safle. Mewn lleoliad tawel rhwng y mynyddoedd a’r môr, dyma’r man perffaith i encilio iddo a bod yn greadigol.

Cynigiwn gyrsiau pwrpasol ac unigryw i grwpiau addysgiadol, gan weithio gyda thiwtoriaid ac athrawon i lunio’r cwrs perffaith ar gyfer eu grŵp. Mae hefyd yn bosib llogi Tŷ Newydd yn breifat ar gyfer cwrs corfforaethol, gwyliau, neu achlysur arbennig.

I bori trwy ein rhaglen gyrsiau cliciwch yma, neu cysylltwch am wybodaeth bellach.

Pennod 20 – Canu Gwleidyddol: Beirdd y Tywysogion

Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ffrwyth ymdrech i gofnodi barddoniaeth oes y Tywysogion yn fuan iawn ar ôl i’r cyfnod hwnnw yn hanes Cymru ddod i ben. Edrychwn ar waith y cyntaf o Feirdd y Tywysogion, Meilyr Brydydd, a’r arweinydd yr oedd yn canu mawl iddo, Gruffudd ap Cynan. Dyma gyfle i egluro termau ychydig hefyd (a oes gwahaniaeth rhwng ‘y Gogynfeirdd’ a ‘Beirdd y Tywysogion’, er enghraifft?).

Cylchlythyr i Ddysgwyr

Dyma gyfres achlysurol o gylchythyron wedi ei anelu yn benodol at ddysgwyr. Mae’n gyfuniad o uchafbwyntiau cynnwys AM a gwyobdaeth gyffredinol am y platfform.

Mwynhewch

Firefly commissions translation of multi-authored YA novel The Five

In this town…

Mae Penny Thomas, cyhoeddwr y wasg plant a phobl ifanc, Firefly Press, wedi sicrhau’r hawliau Saesneg Byd-eang ar gyfer nofel arobryn i bobl ifanc The Five (Y Pump) gan gyhoeddwyr Y Lolfa.

Cyhoeddwyd The Five yn wreiddiol yn Gymraeg fel cyfres o bum nofel a arweinwyd gan yr awdur a’r cynhyrchydd Elgan Rhys, gan ddefnyddio proses ysgrifennu arloesol a unodd awduron blaengar â chyd-awduron ifanc â phrofiad bywyd o’r pwnc. Mae’r cyfieithiad yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan un o’r awduron gwreiddiol, Mared Roberts, gyda mewnbwn gan yr awduron eraill.

Mae’r nofel yn canolbwyntio ar gyfeillgarwch pump o arddegwyr gwahanol iawn sy’n cael eu taflu at ei gilydd yn eu hysgol yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn brwydro dros ei gilydd ac am eu lle yn y byd, a hynny wrth wynebu cythruddedd ac amgylchiadau personol heriol. Gan gofleidio a gwyrdroi naratifau oedolion-ifanc confensiynol, mae The Five yn ddarlun unigryw a chyseiniol o fywyd pobl ifanc yng Nghymru heddiw.

Cyhoeddwyd pob nofel yn wreiddiol gyda phrolog gan enillydd Medal Yoto Carnegie 2023 Manon Steffan Ros, a oedd yn fentor creadigol ar y gyfres wreiddiol. Darllenwch addasiad llawn o brolog Manon yma


‘Cawsom ein swyno a’n plesio gan y broses radical a’r brwdfrydedd y tu ôl i The Five,’ meddai cyhoeddwr Firefly, Penny Thomas, ‘a rydym yn falch iawn y byddwn yn gallu dod â’r nofel hon i ddarllenwyr Saesneg eu hiaith.’

‘Rwy’n falch iawn o gael cydweithio â Firefly i ehangu byd y pum cymeriad yma a chroesawu mwy o ddarllenwyr i’w bywydau,’ meddai Elgan Rhys. ‘Arbrawf oedd proses gydweithredol y gyfres wreiddiol, ac mae wedi bod yn braf gweld darllenwyr a’r diwydiant yn ei chofleidio. Rwy’n sicr y bydd addasiad Mared yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc, yn enwedig y rhai nad ydynt efallai wedi arfer gweld eu profiadau’n cael eu portreadu’n awthentig.’

A dywedodd Darren Chetty o Books for Keeps, ‘Rwyf wrth fy modd y bydd Y Pump yn cael ei gyfieithu i’r Saesneg. Mae The Five yn rhoi darlun o Gymru fodern, amrywiol ac fe’i grëwyd drwy broses arloesol, gydweithredol y gobeithiaf y gellir ei fabwysiadu’n ehangach mewn llenyddiaeth plant a phobl Ifanc. Mae’n stori aml-bersbectif a ysgrifennwyd gan awduron ifanc sydd wedi ymgolli yn genre a gwirionedd dod yn oedolyn yn yr oes sydd ohoni.’

Bydd y nofel yn cael ei chyhoeddi yn 2025.

Dysgwch fwy am ‘Y Pump’ yma

Pennod 19 – ‘Iarlles y Ffynnon’, nid ‘Owain’

Yn y bennod hon trafodwn yr olaf o’r ‘chwedlau brodorol’ wrth i ni graffu ar saernïaeth gelfydd ‘Iarlles y Ffynnon’. Nodwn y duedd i ddefnyddio enw prif gymeriad gwrywaidd y chwedl hon, ‘Owain’, fel teitl gan fynnu mai’r teitl a geir yn Llyfr Coch Hergest sy’n gywir, ‘Iarlles y Ffynnon’.
Ynghyd â Gwenhwyfar a’r forwyn Luned, mae’r Iarlles yn un o driawd o gymeriadau benywaidd cryf a byw a geir yn y stori hon. Y hi sy’n rheoli yn ei theyrnas, er bod y marchog du yn gwarchod y ffynnon hudolus sy’n fynedfa iddi. Ymysg y pethau sy’n gwneud y darn hwn o lenyddiaeth ganoloeosol mor wych yw’r modd y mae’n cynrychioli ymddiddan a’r ymwneud rhwng cymeriad, pob un â’i bersonoliaeth wahanol. A pham bod Arthur yn cysgu ar ‘deml o frwyn’ (fel eryr yn ei nyth, yn ôl Richard Wyn Jones)?

Yn ôl at ein coed

Pan symudodd fy rhieni a’m chwiorydd i’r Hen Reithordy, Llanarmon, tua chanol y 1970au, mi holodd fy mam un o’r cymdogion pwy oedd yn byw yn y ffarm dros y ffordd. ‘’Dwn ’im’ oedd yr ateb; ‘tydan ni ddim yn g’neud rhyw lawar efo pobol Llŷn!’ A dyma ddysgu eu bod wedi ymgartrefu dafliad carreg […]

Bach a Mawr gan Luned Aaron

Cyfrol hardd a hwyliog, llawn amrywiaeth, sy’n gyflwyniad i’r llu o gyferbyniadau sydd ym myd yr anifeiliaid. Anrheg delfrydol i blant bach sy’n dechrau dod i adnabod y byd. Luned Aaron fu’n dweud mwy am y gyfrol a’r broses o’i chreu. Llyfr bach hwyliog ydi Bach a Mawr fydd o gymorth, gobeithio, i gyfoethogi iaith […]

Pennod 18 – Marchocffordd Peredur

Trafodwn y chwedl ‘Historia Peredur fab Efrog’ yn y bennod hon gan awgrymu’i bod yn disgrifio perthynas Peredur a’i fam mewn modd hynod ddynol a thyner. Mae gwrthgyferbyniad amlwg rhwng bydolwg gwrywaidd treisgar tad Peredur a doethineb ei fam. Ond er i’w fam geisio’i fagu mewn byd benywaidd yn bell o unrhyw sôn am arfau a rhyfel, ac er iddi ddweud wrtho mai ‘angylion’ yw’r marchogion a wêl un diwrnod, mae’r hogyn ifanc yn mynnu dilyn y dynion arfog ar y ‘farchocffordd’ a dysgu bod yn farchog ei hun. Dyma destun canoloesol sy’n cwestiynu’r union ymddygiad ‘macho’ y mae’n ei ddyrchafu.

Pennod 17 – Breuddwyd Rhyfeddol Rhonabwy

Yn y bennod hon, trafodwn chwedl gwbl ryfeddol sy’n llunio fersiwn unigryw o fyd arwrol Arthur er mwyn tynnu sylw at ddiffygion gwleidyddol y byd go iawn. Y Gymru ganoloesol yw’r byd go iawn hwnnw, ac mae ymrafael rhwng tywysog a’i frawd yn bygwth heddwch y deyrnas. Mae’r negesydd Rhonabwy yn ceisio’i orau i helpu ond mae’n syrthio i gysgu – mewn tŷ sy’n ysglyfaethus o fudr! – a thrwy gyfrwng ei freuddwyd mae’n teithio o’r presennol i’r gorffennol Arthuraidd. Mae’n rhaid i’r arweinydd chwedlonol ei hun ddysgu gwersi am ryfel a heddwch hefyd, ac mae’n gwneud hynny wrth chwarae gwyddbwyll. Ond nid ‘chess’ oedd gwyddbwyll i’r Cymry canoloesol, a nid yw’r stori hon yn debyg i unrhyw stori arall chwaith! Cewch atebion i gwestiynau annisgwyl hefyd, fel pam bod y dyn bychan hwnnw o’r presennol, Rhonabwy, yn gwneud i Arthur grio?

Gwawrio gan Tegwen Bruce-Deans

Mewn cyfweliad arbennig i AM, Tegwen Bruce-Deans, fu’n sgwrsio am ei gwaith, y gyfrol a’i dylanwadau. Sonia am y gyfrol. Dechreuodd gnewyllyn Gwawrio fel rhan o aseiniad terfynol modiwl Gweithdy Barddoniaeth pan oeddwn yn y brifysgol ym Mangor. Cyn hynny, er i mi fod yn barddoni’n arbrofol yn weddol gyson dros y blynyddoedd yn fy […]

Pennod 16 – Geraint a’i shorts sidan

Trafodwn y chwedl ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ yn y bennod hon gan ystyried ei pherthynas â cherdd storïol y bardd Ffrangeg Chrétien de Troyes. A yw’n bosibl mai trosiad o’r testun Ffrangeg yw’r chwedl Gymraeg, mewn gwirionedd? A yw’n iawn cynnwys ‘Geraint’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’? Awgrymwn fod awdur Cymraeg wedi cymryd stori Chrétien a’i gwisgo mewn gwisg Gymreig. Wedi’r cwbl, mae toreth o enwau Cymraeg yma, nifer ohonynt â gwreiddiau dwfn iawn yn chwedloniaeth draddodiadol Cymru, gan gynnwys Geraint ei hun. Ceir golwg hynod ddiddorol ar dde-ddwyrain Cymru hefyd, gan gynnwys Caerdyf, sef Caerdydd. A sôn am wisg, mae’r disgrifiad o ddillad Geraint pan mae’n ymddangos gyntaf yn y sori yn wych. Yn ogystal â’r holl farwedd, dewrder, sifalri ac anturiaeth, mae’r chwedl hon yn cynnig trafodaeth feirniadol ynglŷn â’r union fyd Arthuraidd y mae’n ei ddyrchafu.

Gwasg y Mis | Publisher of the Month: Firefly Press

Gwasg y Mis AM fis yma yw Firefly Press, gwasg annibynnol, arobryn ar gyfer plant a phobl ifanc wedi ei leoli yng Nghymru. Mae Firefly Press yn cyhoeddi ffuglen ym mhob genre ar gyfer oedranau 5-19. Maent yn dathlu eu degfed penblwydd eleni.

Ewch i fwynhau cynnwys gan Firefly isod!

nawr

Mae Nawr yn gylchgrawn sydd yn cefnogi pobl greadigol Cymraeg ac o Gymru

Pennod 15 – Roc-an-Rôl a’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd

Mae’r bennod hon yn gyfle i ni fyfyrio ynghylch y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth gyfandirol wrth i ni drafod y cam nesaf yn natblygiad y chwedloniaeth Arthuraidd. Beth am y chwedlau ‘brodorol’ Cymraeg hynny sy’n dangos dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg? Sut mae canfod creadigaethau artistig sydd wedi’u hadeiladu ar sylfeini Cymreig traddodiadol ond sydd hefyd yn ddyledus mewn modd amlwg iawn i ddylanwadau ‘estron’? Awgrymwn fod hanes roc-an-rôl yn cynnig cymhariaeth hylaw. A beth yw’r gwahaniaethau rhwng yr hen fyd Arthuraidd Cymreig a’r llenyddiaeth gyfandirol hon? A yw’r Arthur Cymreig-Ewropeaidd hwn yn nes o lawer at y darlun Hollywoodaidd o’r brenin arwrol?

PROSIECT NEWYDD – AMLEN

PROSIECT NEWYDD Mae Amlen yn brosiect ymchwil a datblygu newydd a fydd yn canolbwyntio ar y Diwydiant Cerddoriaeth Iaith Gymraeg. Rydym yn chwilio am ddau berson ifanc brwdfrydig* (18-25 oed) sy’n ymwneud â Cherddoriaeth Gymraeg ac sydd am gyfrannu at ei sîn lewyrchus a’i datblygu ymhellach. Mae’r cyfle hwn ar gael diolch i gronfa Atsain […]

BLUE BOOK OF NEBO | ‘Modern classic’ wins Carnegie Medal

Wrth i’r Blue Book of Nebo (addasiad Manon Steffan Ros o’i chlasur ar gyfer pobl ifanc Llyfr Glas Nebo) ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu, 2023, mae’r cyhoeddwr Firefly Press, wrth eu bodd ac yn llongyfarch yr awdur ar ei champ hanesyddol.

Lleisiau Lleol – Cyfweliad efo Alys Conran

I lansio prosiect newydd Partneriaeth Ogwen – Lleisiau Lleol – yn Ŵyl Gwenllïan 2023, eisteddodd awdur enwog lleol Alys Conran i lawr am sgwrs efo Meleri Davies i drafod ei dwy nofel a sut mae ei chynefin wedi dylanwadu ar ei gwaith.

Haf o Ddarllen | Summer of Reading

Chwilio am lyfrau newydd i’w darllen dros yr haf?

Mae Haf o Ddarllen, blas o’r llyfrau gwych o Gymru fydd ar gael o’ch siop lyfrau leol yr haf hwn ar gael nawr.

Galwch draw i’ch siop lyfrau leol i dderbyn eich copi yn rhad ac am ddim!

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol, YMA.

Pennod 14 – O’r Apocalyps Arthuraidd i Fashion Casualties: Hanes Cryno Cad Gamlan

Pwnc ychydig yn wahanol sydd gennym y tro hwn, un a gododd yn y penodau diwethaf wrth drafod llenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg gynnar.
Yn y bennod hon, rydym ni’n olrhain cyfeiriadau llenyddol at gad Gamlan trwy ganrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg. Brwydr fawr olaf yr arweinydd enwog oedd cad Gamlan, cyflafan a chwalodd deyrnas ac oes aur Arthur.
Awgrymwn fod traddodiadau’n ymwneud â’r ‘Apocalyps Arthuraidd’ yma yn fodd i strwythuro’r holl stori Arthuraidd fawr, fel y mae myfyrdodau apocalyptaidd yn y Beibl yn fodd i strwythuro meddwl Cristnogol yn gyffredinol. Mae’n wedd ddwys ar y traddodiad llenyddol Cymraeg, felly, ond mae agwedd ddoniol hefyd, fel y cewch glywed.

Ar Adain Cân gan Gareth Thomas

Nofel hanesyddol sy’n stori garu, ac yn llawer mwy. Wedi ei gosod yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, mae’n dilyn hynt Sian cantores ifanc o gymuned glos y Rhondda a’i pherthynas a George, ddaw o deulu dosbarth canol cefnog yn Llundain. Drwy ddilyn hynt a helynt y cariadon annisgwyl gwelwn newid byd: bomio Cwm-parc, aberth […]

About the Author: Rae Howells

Bardd, newyddiadurwr, academydd a ffermwr lafant o Abertawe yw Rae Howells. Mae hi wedi ennill cystadlaethau barddoniaeth Rhyngwladol Cymru a Rialto Nature and Place. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn ystod eang o gyfnodolion gan gynnwys Magma, The Rialto, Poetry Wales, New Welsh Review, Acumen, Envoi, Poetry Ireland, Black Bough, Marble a The Cardiff Review, yn ogystal ag yn y blodeugerdd Poetry Business, The Result is What You See Today a Blodeugerdd Arachne Press A470. Cyhoeddwyd ei phamffled ‘Bloom and Bones’, a gyd-sgwennwyd gyda Jean James, gan y Hedgehog Poetry Press yn 2021. The language of bees yw ei chasgliad llawn cyntaf.