Cartref digidol diwylliant Cymru.

Bach a Mawr gan Luned Aaron

Llenyddiaeth

Cyfrol hardd a hwyliog, llawn amrywiaeth, sy’n gyflwyniad i’r llu o gyferbyniadau sydd ym myd yr anifeiliaid. Anrheg delfrydol i blant bach sy’n dechrau dod i adnabod y byd.

Luned Aaron fu’n dweud mwy am y gyfrol a’r broses o’i chreu.

Llyfr bach hwyliog ydi Bach a Mawr fydd o gymorth, gobeithio, i gyfoethogi iaith plantos bach.

Mae arddull y gyfrol yn debyg iawn i’r llyfrau yn fy nghyfres Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch), gyda byd natur yn ganolog o ran testun (anifeiliaid gwahanol sy’n cael eu cymharu yma).

O ran arddull weledol y llyfr, fel yn fy nghyfres Byd Natur, peintio strwythurau gwahanol a gludo yn y dull collage oedd fy nhechneg wrth i mi fynd ati i greu.

Dwi wrth fy modd yn gweithio yn y modd yma gan ei fod yn ddull reit organig o weithio ac mae’n cynnig dipyn o hwyl a lliw, sy’n addas iawn wrth fynd ati i greu llyfrau i blant wrth gwrs. 

Mae’r cyfrifiadur yn gymorth i fireinio agweddau gwahanol yn y camau olaf cyn y cysodi terfynol a’r argraffu.

Mae Bach a Mawr ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH