Cartref digidol diwylliant Cymru.

Calon Bro – Cwt Crwn

Lansiad y Cwt Crwn ym Mlaenau Ffestiniog sydd wedi bod yn rhan o waith Skyline gyda Wil y Dref Werdd.

Bydd yr adeilad newydd hwn, sydd wedi’i wneud o goed wedi’u torri yn Fyrnwy a’u melino i goed adeiladu ar y safle yn ased enfawr i’r gymuned a thu hwnt i Flaenau Ffestiniog, lle bydd yn ofod cynnes i gymdeithasu yn ogystal â chanolfan sgiliau traddodiadol!

Diolch i Deian am ffilmio a golygu’r fideo!!

Cyflwyno dyluniadau Ty’r Wern

Dyma cyflwyniad Rhys Llwyd Davies bu yn y Pengwern ar yr 19fed o Dachwedd yn trefod cynlluniau i’r hen Eglwys yn Llan Ffestiniog . Cofiwch mae dal digon o maser i rhannu eich barn.

Menter Bro: Cylchdaith GwyrddNi

Mae Sara sydd yn gweithiwr Gwyrddni wedi bod yn gweithio gyda ysgolion i trafod effeithiau aNewid Hinsawdd ac beth gallen ni neud i helpu. Aeth rhai o ysgolion y dalgylch ar gylchdaith i weld rhai o ddatrysiadau sydd eisioes yn digwydd yn lleol.

Romani Cultural & Arts Company

Ffurfiwyd Romani Cultural and Arts Company yn 2009 fel cwmni cyfyngedig nid-er-elw ac elusen ym mis Medi 2009. Mae’r cwmni yn gweithio yn y celfyddydau i godi arian er mwyn a datblygiad cymunedol a phrosiectau addysgiadol i safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac i gymunedau ‘Gorjer’ a chefn gwlad ar draws Cymru. Rydym yn sefydliad sydd […]

Podcast Huw Llwyd

Hanes Bro: Dewch i glywed podcast gyda straeon llawn hud a lledrith am y Dewin Gymraeg o Ffestiniog, Huw Llwyd.

Awen BRO: Cyfrinach y Brenin

Diwedd mis Medi aeth Opra Cymru ar gylchdaith o amgylch Gymru yn llwyfannu eu Opra i deuluoedd o’r enw Cyfrinach y Brenin.
Roedd hon yn libretto gyffroes, yr Opra gyntaf i blant!
Mae wedi ei gyfansoddi gan gyfansoddwraig Mared Emlyn o Lanrwst gyda help gan ysgolion gynradd wedi i Patrick, Mared a Huw Ynyr cynnal gweithdai ar draws Gogledd Cymru.
Dyma fideo yn siarad ychydig amdano pan daeth y sioe i Ysgol Y Moelwyn.

Plas Carmel

Cynllun i ddiogelu Capel Carmel a hen Siop Plas ger Aberdaron, ac i ddathlu treftadaeth.

Dr Einir Young

Dyma gyflwyniad gan Dr Einir Young, cyn-Gyfarwyddwr Cynaladwyedd Prifysgol Bangor. Yn ei chyflwyniad mae Dr Young yn trafod Eco-amgueddfa Llŷn, ac yn gosod fframwaith ar gyfer ymateb i’r her hinsawdd.

Gallwch ddarllen trawsgrifiad Cymraeg o’r sgwrs yma, a Saesneg yma. 

Cwmni Bro

Dyma sgwrs a gafwyd yn ystod y Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd cyntaf Dyffryn Peris gan Ceri Cunnington, Gweithiwr Cymunedol o Gwmni Bro Ffestiniog. Yn y sgwrs mae Ceri yn trafod sefydlu Cwmni Bro, a’r ystod eang o waith maent yn ei wneud heddiw. 

Gallwch ddarllen trawsgrifiad Cymraeg o’r sgwrs yma, ac yn Saesneg yma

Diwrnod Agored Llys Dorfil

Gwyliwch i weld ychydig mwy o’r cloddiad hynod ddiddorol hwn yn Llys Dorfil a gynhaliwyd dros yr haf lle bu Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog yn dangos y safle i bobl a’r arteffactau diddorol sydd wedi dod i’r amlwg.

Yr Orsaf

Yn ystod Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen cafwyd cyflwyniad gan Gwenllian Spink ac Elenid Roberts am waith Yr Orsaf ym Mhenygroes

Gwenllian yw Swyddog Dim Gwastraff Yr Orsaf, ac felly yn cynnal prosiectau sy’n hyrwyddo ail-gylchu, ail-ddefnyddio a newid agwedd tuag at sbwriel.
Elenid yw Swyddog Datblygu Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol yr Orsaf ac yma mae’n sgwrsio am gerbydau trydan Yr Orsaf a chlybiau cymunedol.

Gallwch ddarllen trawsgrifiad Cymraeg o’r sgwrs yma a thrawsgrifiad Saesneg yma

Amaeth a Newid Hinsawdd

Yn ystod Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Pen Llŷn cafwyd cyflwyniad gan Dr Prysor Williams. 

Mae Dr Prysor Williams yn Uwch ddarlithydd Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ddarlithydd a ffermwr sydd wedi gwneud llawer o waith ar y rhyngberthynas rhwng amaeth a’r amgylchedd yng nghyd-destun newid hinsawdd.

Gallwch ddarllen y sgwrs yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma

Partneriaeth Ogwen

Yn ystod Cynulliad Cymunedol ar yr Hinawdd Dyffryn Ogwen cafwyd sgwrs gan Meleri Davies a Huw Davies o Parneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen.

I ddarllen trawsgrifiad o’r sgwrs yn Gymraeg cliciwch yma, ac yn Saesneg cliciwch yma.

Magwraeth ym Mro Ffestiniog – sgwrs gan Ceri Cunnington

Yn ystod Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Bro Ffestiniog, cafwyd sgwrs gan Ceri Cunnington o Gwmni Bro Ffestiniog am ei fagwraeth ym Mro Ffestiniog, a dylanwad hynny ar ei fywyd a’i yrfa hyd heddiw.

Gallwch ddarllen trawsgrifiad o sgwrs Ceri yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma

Profiad personol Mari Huws

Yn frodor o Benygroes ac yn wneuthuriwr ffilmiau dogfen, mae Mari Huws bellach yn Warden ar Ynys Enlli. Yn y ffilm hon a ffilmiwyd yn arbennig gan Mari ar gyfer aelodau Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, cawn ddysgu mwy am brofiad Mari o newid hinsawdd yn lleol ac o gwmpas y byd.

Gallwch ddarllen sgript o sgwrs Mari yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.  

Sgwrs gyda Siôn Williams, Pysgotwr ym Mhen Llŷn

Yn ystod cynulliad GwyrddNi ym Mhen Llŷn cafwyd sgwrs fyw (o gwch!) gyda’r pysgotwr masnachol Siôn Williams. Un o Sarn Mellteyrn ydi Siôn, mae ganddo gwch ym Mhorth Colmon a chewyll ar hyd arfordir Llyn oddi yno i gyfeiriad Enlli. Gyda dyfodiad y cyfnod clo a Brexit, bu’n datblygu marchnad newydd i’w gynnyrch bwyd môr yn Llundain. Mae ganddo ddiddordeb a gwybodaeth eang am gynefin y môr a bu’n cydweithio gyda Phrifysgol Bangor i fonitro newidiadau morol ac ecolegol.

Gallwch ddarllen trawsgrifiad o’r sgwrs gyda Siôn yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma

Gegin Teulu | Family Kitchen

Dydd Llun olaf y Mis

5.00-7.00yh

£3 i oedolyn a £1 i blant.

Pryd rhesymol o fwyd poeth ac elw tuag at Fanciau Bwyd Lleol.

Un Noson Olaf – Yws Gwynedd

Y cerddor, Yws Gwynedd ydi ein gwestai cyntaf ar gyfer ein ail gyfres o ‘Un Noson Olaf’. Mae Yws yn trafod bwyd fegan gan Alys Williams, gwaith celf Lisa Eurgain Taylor a ffiseg cwantwm.

AM

AM BOB DIM

Cymuned o Gymunedau – Llechi Glo a Cefngwlad

Drwy cyd weithio a cyd ddysgu mae 9 sefydliad, prosiect a fudiadau ar draws Cymru yn creu rhwydwaith weithredol sef Llechi Glo a Cefn gwlad. 

Mae y criw wedi bod yn cyfarfod a gweithio gyda’i gilydd dros y dwy flynedd a hanner diwethaf gan gynnwys ymweliadau i’r ardaloedd eraill.

Dyma ymweliad y grwp y ardal Llechi yn Ngogledd Cymru.

The Welfare Ystradgynlais

Canolfan gelfyddydol a chymunedol fywiog wedi’i lleoli yng Nghymoedd Tawe Uchaf, sy’n cynnig rhaglen amrywiol o theatr fyw o ansawdd uchel, cerddoriaeth, comedi, darllediadau byw a dangosiadau ffilm, ac arddangosfeydd.

Cynefin a Chymuned i Blant

Dros y blwyddyn diwethaf mae’r Dref Werdd wedi bod yn cynnal sesiynnau Cynefin a Chymuned a cynnig profiadau yn yr ardal.

Y Pengwern

Fe agorodd y Pengwern fel tafarn gymunedol yn May 2011. Yn y dechra fe gaeth ei rhedeg gan wirfoddolwyr ond erbyn hyn mae rhan fwya o’r staff yn gyflogedig. Hen gwesty yw Y Pengwern, yn dyddio yn ol pan roedd cerbydau yn cael ei tynnu gan geffyla. Mae wedi ei leoli yn Llan Ffestiniog ac […]

Daith Natur a Hanes gyda Catrin Roberts

Fel rhan o digwyddiadau Dewch Allan bu cynnal daith gerdded gyda Catrin Roberts bu’n tywys ni o amgylch Llyn Ystradau yn Tanygrisiau.

Bu Catrin yn ein atgoffa i gwirio ac ymchwilio planhigion os ydych chi am chwilota a’i fwyta gan bod thai planhigion yn galla bod yn gwenwynig.

Cofiwch gwirio cyn coginio pob tro!

Together for Change Forum: Spotlight on Community Arts

BYWGRAFFIAD | BIOGRAPHY

Cafodd Together for Change ei sefydlu yn 2020 gan Solva Care, yr elusen fach yng Ngorllewin Cymru, mewn partneriaeth gyda’r Pembrokeshire Association of Voluntary Service (PAVS) a PLANED. Mae’n gynllyn gwaith sydd yn blaenoriaethu lles, ffyniant a chynaliadwyedd cymunedau ynghanol polisïau a strategaethau sefydliadau a phartneriaethau ar draws y sir a’r rhanbarth. Credom y dylai strategaethau gael eu selio ar fodel holistig a llesol sydd yn adlewyrchu llais y bobl ac yn ymwneud a’r gymuned. Mae hyn yn galw am newid mewn rhannu pŵer ar draws ein cymunedau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus. Mae’n gynllun yn cefnogi ac atgyfnerthu partneriaethau traws-sector sydd yn gweithio ar ddatblygu synnwyr pwrpasol, dealltwriaeth o asedau cymuned a thyfu prawf o brosiectau gyda ffocws cymunedol.

Does it Count

BYWGRAFFIAD | BIOGRAPHY

Cafodd Together for Change ei sefydlu yn 2020 gan Solva Care, yr elusen fach yng Ngorllewin Cymru, mewn partneriaeth gyda’r Pembrokeshire Association of Voluntary Service (PAVS) a PLANED. Mae’n gynllyn gwaith sydd yn blaenoriaethu lles, ffyniant a chynaliadwyedd cymunedau ynghanol polisïau a strategaethau sefydliadau a phartneriaethau ar draws y sir a’r rhanbarth. Credom y dylai strategaethau gael eu selio ar fodel holistig a llesol sydd yn adlewyrchu llais y bobl ac yn ymwneud a’r gymuned. Mae hyn yn galw am newid mewn rhannu pŵer ar draws ein cymunedau, grwpiau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus. Mae’n gynllun yn cefnogi ac atgyfnerthu partneriaethau traws-sector sydd yn gweithio ar ddatblygu synnwyr pwrpasol, dealltwriaeth o asedau cymuned a thyfu prawf o brosiectau gyda ffocws cymunedol.

Ynni Twrog

Dyma ychydig am Ynni Twrog criw sydd yn gweithio ar cael ynni lleol i ateb i tlodi tannwydd y fro 

Hwb Cymunedol Blaenau Ffestiniog

Yn ystod y Clo fawr bu’r Dref Werdd ymateb drwy ffurfio gweithlu o gwirfoddolwyr yn cydweithio er mwyn y gymuned dyma ychydig am y prosiect. 

Hwb Sgwrs

Yn ystod Cofid bu ynysu yn annodd iawn i’r gymuned dyma gwaith bu Hwb yn gwneud i lheiafu unigrwydd drwy cynnig sgwrs i bobl

Hwb Cymunedol Digidol

Gyda nifer fawr o’r gymuned ddim yn gallu cael mynediad i elfennau digidol, mae’r Hwb Cymunedol wedi bod yn gweithio yn galed i estyn cymorth gyda offer a hyfforddiant.

Hwb Cymunedol Penrhyndeudraeth

Yn ystod y clo fawr bu’r Dref Werdd yn creu gweithlu o gwirfoddolwyr bu’n estyn cymorth i’r gymuned dyma gan rhai o’r criw i ddweud. 

Hanes Bro: Llys Dorfil

Mae Llys Dorfil yn safle hanesyddol aml-gyfnod ar gyrion Blaenau Ffestiniog sy’n cael ei gloddio gan y gymdeithas archaeolegol. Mae’r safle’n cynnwys ty tŵr, tai crwn neolithig yn ogystal â darganfyddiad diweddar o arteffactau Rhufeinig. Gwyliwch i glywed mwy am y safle gyffrous hon.

Natur BRO: Dail Mwyar Duon

Oeddech chi’n gwybod mai ddim dim ond y ffrwyth gallwch defnyddio gyda Mwyar Duon. Dyma Catrin yn son am be’ allwn ni ei wneud efo dail mwyar duon. Dilynwch Maeth Natur ar facebook am fwy o wybodaeth gwych gan Catrin.

Natur BRO: Dant y Llew

Dewch ar daith i deall ychydig mwy am byd natur a defnyddiau i planhigion o’m cwmpas.

Heddiw mae Catrin am son wrthan ni am ddant y llew neu flodau pi-pi’n gwely!

Natur BRO: Blodyn Cnau

Dyma fideo fendigedig arall gan Catrin a’i mab bach! Heddiw dan ni’n edrych ar flodau cnau!

Natur BRO: Eithin

Heddiw mae Catrin yn ein dysgu be’ allwn ni wneud efo flodyn bach melyn ar drain bigog ar y bryniau. Dewch i ddysgu am eithin!