Gwahoddiad i benwythnos gyda darlith, teithiau cerdded hanesyddol a diwylliannol a bydd hefyd gweithdai celf. Mae’r penwythnos yma yn gyfle i ni gofio hanes Gwenllian. Mae popeth yn cael ei gynnal ym Methesda a’r ardal.
Bydd y gweithgareddau’n dechrau gyda darlith gan y Prifardd Ieuan Wyn yn sôn am hanes y Dywysoges Gwenllïan a Thywysogion Gwynedd. Bydd y ddarlith yn mynd â ni i Wynedd dros 700 mlynedd yn ôl, pan oedd Cymru yn wlad annibynnol dan y Tywysogion cyn i frenin Lloegr, Edward 1af, drefnu i’w lladd a gorchfygu Cymru. Bydd y ddarlith yn cofnodi yr hyn ddigwyddodd i blant y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a’r Tywysog Dafydd ap Gruffudd. Bydd sylw arbennig i hanes Gwenllïan, merch Llywelyn, a gafodd ei chipio’n faban deunaw mis oed a’i chadw am dros 50 mlynedd mewn lleiandy yn Lloegr.
Mae teithiau cerdded wedi eu trefnu ar gyfer y dydd Sadwrn a’r dydd Sul dan arweiniad y cwmni Anelu. Mae taith gerdded Carnedd Gwenllïan ar ddydd Sadwrn y 11eg o Fehefin. Bydd hon yn daith lefel ffitrwydd uchel fydd yn dechrau am 8.45yb wrth fynediad uchaf Canolfan Cefnfaes Bethesda. Mae’n gorffen yn yr un lle am 5yh. Mae hefyd taith gerdded ysgafn wedi ei threfnu ar hyd Lôn Las Ogwen ar ddydd Sul wedi ei anelu at rieni efo plant. Bydd y daith hon yn dechrau ym maes parcio Moelyci am 10.30yb gan orffen yn y clwb rygbi am 12.30 yh.
Mae gweithdai celf wedi eu trefnu ar gyfer y dydd Sul. Mae gweithdy celf i blant yn clwb rygbi am 1 ble bydd cyfle i addurno ffon bren o daith gerdded Lon Las Ogwe. Bydd hefyd gweithdy celf i oedolion am 4yh y Ngardd Ffrancon. Bydd blodau yn cael eu peintio ar loches Gardd Ffrancon. Cynhelir y gweithdai celf hyn gan Elen Williams sydd yn artist lleol.
Mae’r penwythnos yn gyfle i gofio’r Dywysoges Gwenllïan a gobeithiwn eich gweld un ag oll yn cefnogi’r digwyddiad. Diolch i’r prif noddwyr ‘Partneriaeth Tirwedd y Carneddau’ a’r ‘Gronfa Celfyddydol Cymunedol’. Nhw sydd wedi gwneud y digwyddiad pwysig hwn yn bosib. Rhannwch y wybodaeth a welwn ni chi yno.